Mae'r Dangosfwrdd Perfformiad yn offeryn gwerthfawr y gallwch ei defnyddio i fonitro cynnydd myfyrwyr trwy gydol eich cwrs. Ar y dudalen hon, bydd tabl crynodeb yn dangos hanes mynediad a chynnydd pob myfyriwr. Wrth i’r tymor fynd rhagddo, mae modd ichi weld yn gyflym a yw’ch myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs yn rheolaidd, adolygu cynnwys y cwrs ac yn cyfrannu at y bwrdd trafod. Gall yr wybodaeth hon eich helpu i nodi myfyrwyr sydd tu allan i’r ystod arfer

Eich sefydliad sy’n rheoli argaeledd y Dangosfwrdd Perfformiad. Gall eich sefydliad analluogi’r bwrdd trafod hefyd, a fydd yn effeithio ar ba wybodaeth sy’n ymddangos yn y Dangosfwrdd Perfformiad.


Gweld dadansoddiadau trafodaethau

Mae dadansoddiadau trafodaethau'n darparu cipolygon i chi ar gyfranogwyr a gweithgarwch fforwm. Gall yr wybodaeth hon eich helpu i nodi myfyrwyr sy'n cyfranogi neu sydd angen cymorth ac anogaeth arnynt o bosib. Gallwch gyrchu dadansoddiadau trafodaethau o'r dudalen Trafodaethau neu Cynnwys y Cwrs.

  1. Agorwch y ddewislen nesaf at drafodaeth a dewiswch Gweld y Dadansoddiadau.
  2. Gallwch weld gwybodaeth am y drafodaeth:
    • Myfyrwyr gweithgar
    • Postiadau fesul myfyriwr ar gyfartaledd
    • Cyfrif geiriau ar gyfartaledd
    • Gradd y drafodaeth ar gyfartaledd
    • Cyfranogiad
    • Myfyrwyr nad ydynt wedi cymryd rhan
    • Ymatebion gyda'r mwyaf o atebion
    • Cyfranogwyr uchaf

Cymryd golwg ar y dadansoddiadau

O dudalen Dadansoddiadau Trafodaethau, gallwch gael golwg manylach ar bostiadau a chyfranogiad trafodaethau unigol.

Mae'r bar cyfranogiad yn eich helpu i weld cyfranogiad o'r trafodaethau'n gliriach. Mae'r bar yn nodi yn las canran y myfyrwyr sydd wedi agor y drafodaeth a chymryd rhan.

Dewiswch sylw o adran Sylwadau gyda'r mwyaf o ymatebion i weld y drafodaeth honno.

Dewiswch fyfyriwr o adran Y Cyfranogwyr Gorau i agor cyfraniadau trafodaeth y myfyriwr hwnnw. Gallwch weld y panel Dadansoddeg Trafodaeth i gael mewnwelediadau ar lefel unigol ar gyfer pob myfyriwr.

Ennyn diddordeb y rheini nad ydynt yn cymryd rhan

Gallwch anfon neges at y myfyrwyr nad ydynt wedi cymryd rhan yn y drafodaeth. Dewiswch fyfyrwyr unigol nad ydynt wedi cymryd rhan er mwyn anfon neges atynt yn uniongyrchol.

Anfon neges swp at y rheini nad ydynt wedi cymryd rhan:

  1. Agorwch y ddewislen yng nghornel dde ar frig yr adran sydd ag enwau'r rheini nad ydynt wedi cymryd rhan.
  2. Bydd panel y neges yn agor ac yn cynnwys y derbynwyr yn awtomatig. Teipiwch eich neges a chliciwch ar Anfon.
  3. Bydd pob myfyriwr yn derbyn y neges yn unigol er mwyn sicrhau preifatrwydd. Ni restrir enwau'r myfyrwyr eraill a dderbyniodd yr e-bost.

Gweld ystadegau am drafodaethau grŵp

Gallwch hefyd weld ystadegau am drafodaethau ar gyfer grwpiau. Agorwch ddewislen trafodaeth grŵp a dewiswch Gweld y Dadansoddiad. Mae’r tab Cyffredinol ar frig y dudalen yn dangos ystadegau am drafodaeth ar gyfer y dosbarth cyfan. Gallwch hefyd agor tabiau â manylion am bob grŵp.


Dadansoddiadau trafodaethau ar gyfer myfyrwyr unigol

Mae myfyrwyr yn dweud bod bodlonrwydd gyda chyrsiau ar-lein yn ymwneud â phresenoldeb hyfforddwyr. Mae trafodaethau'n ffordd hwylus o ennyn diddordeb myfyrwyr yn eich cyrsiau! Mae trafodaethau'n ehangu cyfathrebu ac yn meithrin cysylltiadau cryf ymysg y grŵp ac â chi.

Pan fyddwch yn ychwanegu gweithgaredd trafod, efallai y bydd gennych y nodau hyn:

  • Annog cyfranogi
  • Ymgysylltu â'ch myfyrwyr
  • Darllen yr holl ymatebion
  • Aseinio graddau

Os oes gennych lawer o fyfyrwyr, mae'r nodau hyn yn dod yn heriol. Yng nghyrsiau â llawer o drafodaethau neu gyfranogiad uchel mewn trafodaethau, efallai byddwch yn gweld ni allwch fesur cyfranogiad myfyrwyr neu gasglu digon o fanylion. Mae rhai hyfforddwyr yn dewis dyfarnu credyd am gwblhad heblaw am raddio manwl. Mae dadansoddiadau trafodaethau yn Blackboard Learn yn symleiddio graddio, felly bydd gennych fwy o amser i ymgysylltu â myfyrwyr.

Mae dadansoddiadau trafodaethau yn darparu golwg manwl ar gyfranogiad pob myfyriwr at drafodaethau drwy ddefnyddio sawl mesur. Mae'r mewnwelediadau hyn sydd wedi'u seilio ar berfformiad yn dangos i chi pa fyfyrwyr y gallai fod arnynt angen cymorth neu sydd allan o'r ystod arferol o gyfranogi. Mae ein algorithm dadansoddi trafodaethau yn canolbwyntio ar gynnwys myfyriwr ac yn darparu manylion i'ch helpu i werthuso cyfranogiad. Rydym wedi awtomeiddio'r cyfrif geiriau ac wedi cyflwyno nodweddion sy'n mynd i'r afael ag ystyrlonedd yr ysgrifennu.

Mae dadansoddiadau trafodaethau ond yn ymddangos ar gyfer trafodaethau graddedig. Mae dadansoddiadau trafodaethau ar gael ar gyfer cyrsiau a'u cyflenwir yn Saesneg yn unig.

Elfennau dadansoddiadau trafodaethau

Mae dadansoddiadau trafodaethau yn darparu golwg agosach ar sut mae'ch myfyrwyr yn cymryd rhan yn nhrafodaethau. Wrth i chi raddio trafodaeth, gallwch ddefnyddio'r mesurau hyn i bennu gradd:

  • Postiadau sylweddol: Y nifer o atebion ac ymatebion sy'n cyfrannu at ddatblygiad y drafodaeth.
  • Cymhlethdod brawddegau: Darllenadwyedd cyfartalog ar lefel gradd ar gyfer postiadau'r myfyriwr.
  • Amrywiad geiriadurol: Cyfrif geiriau cynnwys a geiriau ymarferol. Mae geiriau cynnwys yn cefnogi syniadau myfyrwyr, tra mae geiriau ymarferol yn cefnogi gramadeg cywir.
  • Lefel meddwl yn feirniadol: Canran o eiriau ac ymadroddion o fewn y cyfanswm o bostiadau myfyriwr sy'n dangos y gallu i feddwl yn feirniadol.
  • Amrywiad geiriau: Canran o eiriau unigryw yn atebion ac ymatebion myfyriwr.

Rydym hefyd wedi cynnwys manylion trafodaeth am ragor o fewnwelediad ar gyfaint ymatebion myfyrwyr ac ymatebion i eraill. Cyfrifir cyfartaleddau dadansoddiadau trafodaethau drwy gymharu atebion ac ymatebion myfyriwr i rheini myfyrwyr eraill sydd wedi cymryd rhan yn yr un drafodaeth.

O dudalen Graddau a Chyfranogiad trafodaeth, dewiswch fyfyriwr i weld atebion, ymatebion a dadansoddiadau.

Beth mae'r dadansoddiad yn ei olygu

Postiadau sylweddol

Postiadau sylweddol yw'r nifer o atebion ac ymatebion sy'n cyfrannu at ddatblygiad y drafodaeth. Mae postiad sylweddol yn cynnwys brawddegau sy'n sefydlu neu gefnogi safiad myfyriwr neu ofyn cwestiynau meddylgar. Mae'r postiadau hyn yn dangos y gallu i feddwl yn feirniadol neu gyfansoddiad soffistigedig, yn seiliedig ar ddewis ac amrywiad geiriau.

Gall postiadau ansylweddol fod yn rhai byr neu isddatblygedig. Er enghraifft, nid yw ymateb syml "Ie" neu "Na" i broc trafod yn sylweddol. Mae angen i fyfyrwyr ehangu ar eu hatebion ac esbonio eu safiadau i wneud yr atebion neu ymatebion yn sylweddol.

Cymhlethdod brawddegau

Mesurir Cymhlethdod brawddegau yn seiliedig ar nifer y brawddegau, geiriau a sillafau ym mhob ymateb. Rydym yn edrych ar gymhlethdod geiriau a pha mor aml y defnyddir y geiriau. Mae'r mesur hwn yn safon ieithyddol o'r enw Flesch-Kincaid. Mae cymhlethdod holl bostiadau pob myfyriwr yn cael ei gynrychioli gan lefel radd o'r radd 1af i'r 16eg gradd. Dylai cynnwys â lefel radd Flesch-Kincaid o 10 gael ei ddeall yn hawdd gan unigolyn yn y 10fed gradd.

Amrywiad geiriadurol

Mae Amrywiad geiriadurol yn dadansoddi sylwedd atebion ac ymatebion myfyriwr yn seiliedig ar y geiriau a ddefnyddiwyd.

Mae Geiriau cynnwys yn dwyn ystyr yn ateb ac ymateb myfyriwr. Mae'r geiriau hyn yn dangos teimladau neu feddyliadau myfyriwr ynghylch y proc. O'u cymharu â'r cyfanswm o eiriau, mae geiriau cynnwys yn helpu dangos dwysedd geiriadurol atebion ac ymatebion myfyriwr. Gall cyfrif uchel ddynodi ysgrifennu mwy soffistigedig.

Mae Geiriau ymarferol yn cyfuno'r elfennau semantig ac yn dynodi gramadeg cywir. Mae arddodiaid, cysyllteiriau, rhagenwau, a banodau yn eiriau ymarferol.

Meddyliwch am eiriau ymarferol fel y glud sy'n dal rhannau o ateb myfyriwr at eu cilydd. Efallai ni fydd gan y geiriau ystyr sylweddol eu hunain.

Meddwl yn feirniadol

Mae Meddwl yn feirniadol yn dynodi geiriau ac ymadroddion ym mhostiadau myfyriwr sy'n dangos y gallu i feddwl yn feirniadol. Defnyddir deuddeg geiriadur i adnabod y geiriau, sydd wedyn yn syrthio i un o'r categorïau pwysedig ar gyfer meddwl yn feirniadol:

  • Dadlau safbwynt
  • Cynnwys data ategol
  • Dyfynnu llenyddiaeth neu brofiad
  • Arfarnu
  • Crynhoi
  • Data cyfeirio
  • Cynnig damcaniaeth
Sut rydym yn mesur sgiliau meddwl yn feirniadol

Caiff y nifer bwysedig o'r geiriau a'r ymadroddion ym mhob categori eu cyfuno ac yna eu cymharu â chyfartaledd y dosbarth i greu'r sgôr ar gyfer meddwl yn feirniadol. Y sgôr yw'r gwahaniaeth rhwng meddwl beirniadol y myfyriwr a chyfartaledd y dosbarth.

Mae'r sgôr o fewn yr ystod ddegol rhwng -1 ac 1. Mae sgôr negyddol yn golygu bod meddwl beirniadol y myfyriwr yn is na chyfartaledd y dosbarth. Mae sgôr gadarmhaol yn golygu bod meddwl beirniadol y myfyriwr yn uwch na chyfartaledd y dosbarth. Mae sgôr sy'n agos i 0 yn golygu bod meddwl beirniadol y myfyriwr ar lefel gyfartalog y dosbarth. Cynrychiolir y sgorau hyn gan ystod o isel i uchel:

-1 < -0.06 = Isel
-0.06 i -0.03 = Is na'r cyfartaledd
-0.03 i 0.03 = Cyfartaledd
0.03 i 0.06 = Uwch na'r cyfartaledd
.06 i 1 = Uchel

Cynrychiolir meddwl yn feirniadol yn weledol i ddangos sgôr pob myfyriwr wedi'i gymharu â chyfartaledd y dosbarth.

Enghreifftiau:

  • Mae ymchwil empirig yn dangos lefel uwch o feddwl beirniadol na chytuno. Mewn trafodaeth, mae'r datganiad "Rwy'n cytuno â John" yn derbyn sgôr o 0.113, tra bydd "Rwy'n anghytuno â John" yn derbyn sgôr o 0.260.
  • Os bydd myfyrwyr yn crynhoi darn ond heb ychwanegu barn neu ddadl, maent yn sgorio'n is nag eraill sy'n dadlau safbwynt.
  • Os bydd myfyrwyr yn dyfynnu llenyddiaeth, maent yn cael sgôr is nag eraill sy'n cynnig damcaniaeth.

Amrywiad geiriau

Mae Amrywiad geiriau yn mesur y nifer o eiriau unigryw yng nghyflwyniad myfyriwr fel canran. Gall canran uwch o eiriau unigryw ddangos bod cyfansoddiad myfyriwr yn cynnwys sawl syniad ac yn cefnogi safiad yn sylweddol. Gall canran uwch hefyd ddangos bod myfyriwr yn ennyn diddordeb eu cyd-ddisgyblion i feddwl am safbwyntiau eraill.

Gallwch gymharu canran myfyriwr â chyfartaledd y dosbarth.

Manylion trafodaeth

Yn ogystal â'r darllenadwyedd a gyfrifir, mae'r manylion yn cynnwys cyfrif geiriau, ymatebion ac atebion cyfartalog ar gyfer pob myfyriwr o'u cymharu â chyfartaledd y dosbarth. Gall y wybodaeth hon, ynghyd ag unrhyw gyfarwyddiadau neu feini prawf a osodwch, eich helpu i bennu gradd.

Cuddio dadansoddiad trafodaeth

I guddio dadansoddiadau trafodaethau, agorwch y ddewislen a dewiswch Cuddio Dadansoddiadau Trafodaethau.

Pam ni allaf weld y data?

Mae dadansoddiadau trafodaethau yn adnewyddu bob nos ar gyfer trafodaethau gweithredol. Ni fydd y data yn diweddaru os nad oes gweithgarwch trafodaeth newydd ar ddiwrnod penodol. Gwelwch ddata yn y panel Dadansoddiadau Trafodaethau os yw'r myfyriwr wedi cymryd rhan o fewn y pedwar mis diwethaf. Dim ond hyfforddwyr a graddwyr fydd yn weld y dadansoddiad trafodaethau.

Mae dadansoddiadau trafodaethau ond yn ymddangos ar gyfer trafodaethau graddedig. Mae dadansoddiadau trafodaethau ar gael ar gyfer cyrsiau a'u cyflenwir yn Saesneg yn unig.