Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Gosodiadau trafodaethau a raddir

I ysgogi myfyrwyr i bostio cyfraniadau diddorol, gallwch wneud i'r drafodaeth gyfrif tuag at radd.

Dewiswch eicon Gosodiadau’r Drafodaeth i agor panel sydd ag opsiynau ar gyfer eich trafodaeth. Yn yr adran Manylion a Gwybodaeth, dewiswch flwch ticio Graddio trafodaethau a bydd mwy o opsiynau yn ymddangos, megis y dyddiad cyflwyno a’r uchafswm o bwyntiau. Defnyddir yr uchafswm o bwyntiau gydag un neu fwy o bostiadau a wnaed gan fyfyriwr. Pan fyddwch yn galluogi graddio ar gyfer trafodaeth, crëir colofn yn awtomatig yn y llyfr graddau.

Discussion Settings panel

Annog syniadau gwreiddiol. Efallai bydd rhai myfyrwyr yn dibynnu’n ormodol ar feddyliadau myfyrwyr eraill pan fyddant yn drafftio ymatebion. Mae ymatebion ac atebion cudd yn gallu helpu myfyrwyr i ddatblygu eu syniadau eu hunain ar eich pwnc trafod cychwynnol. Dewiswch Postio Gyntaf i guddio gweithgarwch yn y drafodaeth rhag myfyrwyr nes iddynt ymateb i'r drafodaeth. Pan fyddwch eisiau defnyddio postio gyntaf a grwpiau, dewiswch Postio Gyntaf cyn neilltuo grwpiau.

Gosod dyddiad cyflwyno cyfranogiadau. Gallwch guddio’r drafodaeth ar ôl y dyddiad cyflwyno fel na fydd modd i fyfyrwyr ychwanegu ymatebion nac atebion na golygu eu postiadau blaenorol.

Nid yw cymwysiadau terfyn amser yn berthnasol i drafodaethau.

Dewis uned y radd. Gallwch ddewis Pwyntiau, Canran, neu Llythyren. Nodwch yr uchafswm o bwyntiau posibl ar gyfer y drafodaeth a raddir.

Dewiswch gategori'r radd. Mae defnyddio amrywiaeth o asesiadau yn arfer gorau wrth gynllunio cyrsiau. Mae categoreiddio asesiadau yn bwysig i hyfforddwyr sy'n neilltuo pwysau i gategorïau yng nghyfrifiad y radd gyffredinol

Aseinio cyfarwyddyd. Ar ôl i chi ddewis Graddio trafodaeth, gallwch greu neu ychwanegu cyfarwyddyd sydd eisoes yn bodoli er mwyn i fyfyrwyr allu gweld gofynion y gwaith a raddir. Gall defnyddio cyfarwyddiadau eich helpu i werthuso gwaith a gyflwynir gan fyfyrwyr yn seiliedig ar feini prawf allweddol rydych yn eu diffinio. Gallwch gysylltu un cyfarwyddyd yn unig â phob trafodaeth.

Alinio nodau gyda'r drafodaeth. Gallwch chi a'ch sefydliad ddefnyddio amcanion i fesur cyflawniad myfyrwyr ar draws rhaglenni a chwricwla. Pan fyddwch yn creu trafodaeth, gallwch alinio un nod neu ragor. Dewiswch Alinio â nodau i chwilio am y nodau sydd ar gael. Ar ôl i chi drefnu bod y drafodaeth yn weladwy, gall myfyrwyr weld y nodau er mwyn iddynt wybod eich disgwyliadau.

Defnyddio grwpiau. Gallwch greu grwpiau trafod a graddio eu cyfraniadau.

Wedi gorffen? Dewiswch Cadw. Gallwch olygu'r gosodiadau gradd hyn nes i chi i ddechrau graddio.

Cofiwch drefnu bod eich trafodaeth ar gael i fyfyrwyr fel y gallant gyfrannu eu syniadau!

Hysbysiadau

Mae myfyrwyr yn gweld dyddiad cyflwyno cyfranogiadau ar gyfer trafodaeth a raddir yn yr un lle â dyddiadau cyflwyno neu ddigwyddiadau eraill. Mae’r hysbysiadau hyn yn ymddangos y ffrwd gweithgarwch, calendr cyffredinol, a chalendr y cwrs.

Cymwysiadau

Mae myfyrwyr sydd â chymwysiadau yn ymddangos ag eicon nesaf at eu henwau yn y llyfr graddau, trafodaethau, a’r gofrestr. Nid yw myfyrwyr yn gweld y cymwysiadau rydych wedi'u hychwanegu. Dim ond y cymhwysiad dyddiad cyflwyno sy’n berthnasol i drafodaethau.

Graddio trafodaeth

Mewn trafodaethau a raddir, mae graddau yn seiliedig ar gyfraniadau cyffredinol pob myfyriwr, nid pob post unigol. Neges Atgoffa: Gall myfyrwyr gyfranogi at a golygu eu postiadau hyd at y dyddiad cyflwyno.

Gallwch gael mynediad at y llif gwaith graddio o'r ardaloedd hyn:

  • Yn y rhestr ble mae eich enw yn ymddangos, dewiswch Graddau.
  • Dewis eicon y Llyfr graddau ar y bar llywio ar frig tudalen eich cwrs. Dewis y drafodaeth a raddir o'r rhestr. Mae’r dudalen Graddau a Chyfranogiad yn ymddangos.
  • Dewis yr eicon Trafodaethau ar y bar llywio ar frig tudalen eich cwrs. Dewis y drafodaeth a raddir o'r rhestr. Dewiswch y ddolen Graddau a Chyfranogiad.

Ar y dudalen Graddau a Chyfranogiad, dewiswch enwau myfyrwyr i agor tudalennau sy’n cynnwys eu cyfraniadau. Mae atebion ac ymatebion myfyrwyr wedi'u hamlygu ar dudalennau eu cyflwyniadau.

Edrychwch ar ddadansoddiadau'r drafodaeth i gael manylion manwl am gyfranogiad pob myfyriwr yn y drafodaeth, cymhlethdod eu brawddegau a’u lefel o feddwl yn feirniadol. Mae’r mewnwelediadau ar sail perfformiad hyn yn dangos pwy sydd â chyfranogiad isel neu’r rheini a allai fod angen cymorth arnynt.

Teipiwch radd ac adborth ar gyfer y myfyriwr ar frig y dudalen. Gallwch ychwanegu gwerth rhifol o bum digid neu lai a dau ddigid ar ôl pwynt degol. Dewiswch yr eicon adborth nesaf at y bilsen radd i agor y panel adborth. Mae’r panel adborth yn parhau ar ochr y sgrin er mwyn i chi allu sgrolio trwy’r dudalen ac ychwanegu adborth cyffredinol. Gallwch hefyd blannu recordiad sain/fideo o'ch adborth yn y golygydd wrth i chi raddio. Gall myfyrwyr wylio neu wrando ar eich adborth ochr yn ochr ag unrhyw destun rydych yn ei gynnwys.

Os ydych wedi neilltuo cyfarwyddyd i’r drafodaeth, dewiswch y bilsen radd sydd ag eicon y cyfarwyddyd i agor panel y cyfarwyddyd. Gallwch deipio gradd yn uniongyrchol neu ddewis gwerthoedd o’r cyfarwyddyd i ychwanegu at y radd.

Pan fyddwch yn barod i ddatgelu’r radd i'r myfyriwr, agorwch y ddewislen a dewiswch Cyhoeddi.

Neilltuo gradd yn y llyfr graddau

Gallwch hefyd neilltuo gradd yn y llyfr graddau. Mae Cyflwyniad Newydd yn ymddangos mewn celloedd pan fydd myfyrwyr wedi cyflwyno gwaith. Dewiswch Gweld yn y ddewislen i agor cyfraniadau'r myfyriwr at y drafodaeth.