Mae'r offeryn e-bost yn caniatáu i chi anfon e-bost at bobl eraill ar eich cwrs heb lansio rhaglen e-bost ar wahân, fel Gmail, Hotmail, neu Yahoo. Gallwch anfon negeseuon e-bost at ddefnyddwyr unigol neu at grwpiau o ddefnyddwyr.
Anfon copi e-bost
Gallwch anfon copi o neges gwrs i gyfeiriad e-bost y derbynnydd. Pan fyddwch yn anfon copi e-bost at eich myfyrwyr, maent yn fwy tebygol o weld, darllen, a gweithredu ar gyhoeddiadau pwysig a negeseuon cwrs.
Bydd copïau e-bost ond yn cael eu danfon os oes gan y derbynyddion gyfeiriad e-bost dilys yn eu proffil ar Blackboard Learn. Anogwch eich myfyrwyr i lenwi eu proffiliau er mwyn gallu anfon copïau e-bost yn llwyddiannus.
I anfon copi o’ch neges drwy e-bost, dewiswch Anfon copi e-bost i dderbynwyr pan fyddwch yn ysgrifennu ac yn anfon eich neges. Caiff pob derbynnydd gopi o’r neges trwy e-bost.
Gall derbynyddion dderbyn eich neges drwy e-bost, ond nid anfonir unrhyw ymatebion i’r e-bost yn ôl i Blackboard Learn. Mae angen i ddefnyddwyr fewngofnodi i ymateb i'ch neges gwrs.