Ynghylch dyddlyfrau

Mae dyddlyfrau’n fannau personol i fyfyrwyr gyfathrebu'n breifat â chi. Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio dyddlyfrau fel offeryn hunan-adlewyrchu. Gallant fynegi eu barnau, eu syniadau a’u pryderon am y cwrs, neu drafod a dadansoddi deunyddiau cwrs.

Gallwch greu aseiniadau dyddlyfr sy’n llydan eu cwmpas ac wedi’u cyfeirio at fyfyrwyr. Gall myfyrwyr adlewyrchu ar y broses dysgu a chofnodi newidiadau yn eu canfyddiadau ac agweddau. Gall myfyrwyr ddisgrifio’r problemau a wynebwyd a sut y gwnaethant eu datrys. Gallwch hefyd greu cofnodion dyddlyfr dan arweiniad hyfforddwr sy’n fwy ffurfiol eu natur. Gallwch gyfyngu'r ffocws gyda rhestr o bynciau i'w trafod.

Mae dyddlyfrau'n ddelfrydol ar gyfer prosiectau unigol. Er enghraifft, mewn cwrs ysgrifennu creadigol, mae pob myfyriwr yn creu cofnodion ac rydych yn gwneud sylwadau. Yn y modd hwn, gall myfyriwr fireinio adran o aseiniad ysgrifennu dros gyfnod o amser, gyda’ch arweiniad ac awgrymiadau. Gall myfyrwyr wneud sylwadau ar eu cofnodion eu hunain hefyd er mwyn parhau'r sgwrs.

Mae'r pynciau ar y dudalen hon yn cynnwys:

Video: Create a Journal


Watch a video about creating journals

The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.


Video: Create a Journal shows how to create student journals.


Creu dyddiadur

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu dyddlyfr. Dewiswch Creu, wedyn sgroliwch i lawr i'r botwm Dyddlyfr ar waelod y panel Creu Eitem. Gallwch hefyd ehangu ffolder neu fodiwl dysgu i ychwanegu dyddlyfr ynddynt.

Rhowch deitl ystyrlon i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i’r dyddlyfr cywir yn y rhestr o gynnwys. Os nad ydych yn ychwanegu teitl, bydd "Dyddlyfr Newydd" a'r dyddiad yn ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Image of the Create Journal page
  1. Ychwanegu anogwr i osod disgwyliadau a chanllawiau. Gallwch ddefnyddio’r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun, atodi ffeiliau, a phlannu ffeiliau amlgyfrwng. Os nad ydych yn ychwanegu anogwr, bydd neges i fyfyrwyr ar dudalen y dyddlyfr sy’n dweud nad ydych wedi ychwanegu cyfarwyddiadau ar gyfer y dyddlyfr hwn.
  2. Dangos neu guddio'r dyddlyfr. Cuddir dyddlyfrau newydd yn ddiofyn. Ni all myfyrwyr gyrchu dyddlyfr nes i chi ddewis gwneud iddo fod ar gael i fyfyrwyr. Gallwch greu'ch holl gynnwys ymlaen llaw a dewis beth rydych eisiau i fyfyrwyr ei weld yn seiliedig ar eich amserlen. Gallwch hefyd bennu amodau argaeledd yn seiliedig ar ddyddiad, amser a pherfformiad ar eitemau eraill yn llyfr graddau’r cwrs. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gall myfyrwyr weld pryd rydych yn dewis dangos y dyddlyfr.
  3. Addasu gosodiadau dyddlyfrau. Ym mhanel Gosodiadau'r Dyddlyfr, gallwch ddewis caniatáu i ddefnyddwyr olygu a dileu cofnodion neu sylwadau ai peidio. Dan Nodau a Safonau, gallwch ddewis Alinio â nodau i sicrhau bod y gweithgaredd yn mesur y canlyniadau dysgu o'ch dewis. I gymell myfyrwyr i bostio cyfraniadau diddorol, gallwch wneud i ddyddlyfr gyfrif tuag at radd. Mae mwy o opsiynau gosodiadau ar gael ar gyfer dyddlyfrau a raddir.
  4. Cynhyrchu dyddlyfr yn awtomatig. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio'r nodwedd AI Design Assistant, gallwch ddefnyddio AI i greu dyddlyfr. Dewiswch y botwm Cynhyrchu Dyddlyfr yn Awtomatig i agor y panel creu.

Cynhyrchu dyddlyfr yn awtomatig

Cynhyrchir dyddlyfrau yn seiliedig ar deitl a disgrifiad eich cwrs.

Image of the auto-generate panel for journals, with customization options beside autogenerated prompts

Mae gennych sawl ffordd o addasu'r dyddlyfrau mae'r AI Design Assistant yn eu cynhyrchu. 

  • Rhoi disgrifiad (wedi'i gyfyngu i 2000 nod) i gulhau ffocws y dyddlyfrau 
  • Dewis y lefel gwybyddol a ddymunir
    • Defnyddio
    • Dadansoddi
    • Gwerthuso
    • Creu
    • Mae Ysbrydolwch fi! yn darparu cymysgedd o lefelau i chi
  • Addasu cymhlethdod ffocws y dyddlyfrau drwy symud y llithrydd
  • Dewis a ydych eisiau cynhyrchu teitl ar gyfer dyddlyfrau ai peidio
  • Dewiswch y saeth wrth ochr Opsiynau uwch i newid yr iaith allbwn 

Mae lefelau gwybyddol yn seiliedig ar Dacsonomeg Bloom.

Yn ddewisol, gallwch ddewis pa eitemau cwrs yr hoffech i'r AI Design Assistant ddarparu cyd-destun ar eu cyfer ar gyfer dyddlyfrau. Dewiswch Dewis eitemau cwrs i ddechrau arni.

Dewiswch y blwch wrth ochr unrhyw eitem o gynnwys cwrs i'w gynnwys yn y cyd-destun ar gyfer eich dyddlyfr. 

Context picker

Gallwch ddewis y saeth wrth ochr ffolder neu fodiwl dysgu i gynnwys eitemau ohonynt. Pan fyddwch wedi gorffen dewis eitemau ar gyfer cyd-destun, dewiswch Dewis eitemau i fynd yn ôl i gynhyrchu cwestiynau. 

Mae'r mathau o ffeiliau a gefnogir gan y dewisydd cyd-destun yn cynnwys ffeiliau PDF, Word, PowerPoint, testun, RTF, a HTML.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich gosodiadau, dewiswch Cynhyrchu. Adolygwch bob dyddlyfr er mwyn sicrhau ei fod yn gywir ac a oes ganddo ragfarn. Dewiswch y dyddlyfr hoffech ei ychwanegu at eich cwrs, wedyn dewiswch Ychwanegu.

Rhagor am yr AI Design Assistant


Agor dyddlyfr 

Pan fydd rhywun yn cyfrannu at ddyddlyfr, bydd eicon gweithgarwch yn ymddangos nesaf at y teitl ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch y teitl i agor y dyddlyfr. Gallwch hefyd agor dyddlyfr o’r ffrwd gweithgarwch.

Image of a journal entry with a blue circle beside the name

Mae gan y dyddlyfr ddau dab. Mae'r tab Dyddlyfr yn dangos yr anogwr rydych wedi'i roi. Mae gan ddyddlyfrau heb eu graddio dab Cyfranogiad ac mae gan ddyddlyfrau a raddir dab Graddau a Chyfranogiad.

Image of a journal prompt's page with the Journal and Grades & Participation tabs highlighted

Gweld cofnodion a sylwadau

Ar ôl i chi ddewis enw myfyriwr yn y tab Cyfranogiad, gallwch weld yr holl gofnodion a wnaeth y myfyriwr hwnnw a'ch ymatebion. Os oes llawer o gofnodion ar y dudalen, gallwch addasu'r nifer o eitemau i'w ddangos gydag uchafswm o ugain.

Image of a student responding to a journal prompt

Gallwch raddio'r dyddlyfr yn uniongyrchol drwy roi'r radd yn y bilsen raddio neu ddewis yr eicon Adborth, a ddangosir fel arwydd plws, i adael adborth. Gallwch olygu'ch adborth ar ôl i chi ei gyhoeddi gan ddefnyddio'r ddewislen tri dot.

Image of the More options menu highlighted beside a journal's grade pill

Mae cofnodion neu sylwadau newydd mewn dyddlyfr yn achosi i eicon NEWYDD ddangos gyda nhw.

Image of the blue NEW icon

Dewiswch Sylw dan gofnod i ymateb i gofnod myfyriwr drwy agor y blwch testun. Mae'r golygydd testun cyfoethog yn caniatáu i chi addasu ymddangosiad eich ymateb a phlannu cyfryngau. Mae gwneud sylw ar gofnod yn creu edefyn.

Image of the rich text editor dropdown within a journal response

Gallwch hefyd greu cofnod newydd yn nyddlyfr myfyriwr. Dewiswch y blwch testun sy'n dangos Teipiwch gofnod. Gall y myfyriwr wedyn ymateb i'ch cwestiwn neu sylw.

Gallwch ddewis y ddewislen Mwy o opsiynau sy'n gysylltiedig â chofnod neu sylw dyddlyfr i'w olygu neu ei ddileu. Mae'n rhaid i chi roi caniatâd i ddefnyddwyr olygu neu ddileu cofnodion neu sylwadau er mwyn i'r opsiynau golygu neu ddileu ymddangos. Mae caniatâd ar gyfer golygu a dileu cofnodion ar wahân i olygu a dileu sylwadau.

Image of the More Options menu dropdown highlighted beside a student entry

Ar ôl i gofnod gael sylwadau, gallwch ddewis Cuddio Sylwadau i weld dim ond y sylw cyntaf mewn edefyn. I ddangos yr holl sylwadau eto, dewiswch Dangos Sylwadau. I symud rhwng cofnodion dyddlyfr myfyrwyr heb ddychwelyd i'r tab Cyfranogiad, gallwch ddewis botymau'r saethau i'r chwith ac i'r dde ar frig y cofnod.

Image of the header of a journal entry with arrows on both sides of the display

Golygu a rheoli dyddlyfrau

Os ydych yn golygu unrhyw sylwadau yn y dyddlyfr, ni roddir gwybod i fyfyrwyr fod cynnwys newydd yn ymddangos.

Gallwch newid dyddlyfr o ddyddlyfr a raddir i ddyddlyfr heb ei raddio os nad oes cofnodion na sylwadau. Ar ôl i gofnodion a sylwadau gael eu cyflwyno, ni allwch newid math y dyddlyfr.

Os ydych yn dileu dyddlyfr a raddir, tynnir y dyddlyfr o dudalen Cynnwys y Cwrs a’r llyfr graddau.


Trosi a chopïo dyddlyfrau

Cynhwysir dyddlyfrau, hysbysiadau a gosodiadau’r Wedd Cwrs Gwreiddiol mewn archifau a ffeiliau allgludo cwrs ac maent yn cael eu trosi yn y Wedd Cwrs Ultra. Dim ond dyddlyfrau o feysydd cynnwys yng nghyrsiau Gwreiddiol sy’n ymddangos yng nghyrsiau Ultra ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Ar yr adeg hon, ni chynhwysir sylwadau a chofnodion gan fyfyrwyr pan fyddwch yn adfer archif.

Gallwch hefyd drosi dyddlyfrau o gwrs Gwreiddiol yn ddyddlyfrau cwrs Ultra fel rhan o’r Rhagolwg Cwrs Ultra.

Llif gwaith copïo

Cynhwysir dyddlyfrau Ultra yn yr eitemau o gynnwys a gefnogir y gallwch eu copïo o gyrsiau Ultra eraill rydych yn eu haddysgu.

Os ydych yn copïo dim ond dyddlyfrau o gwrs Gwreiddiol i gwrs Ultra, bydd y dyddlyfrau a raddir dim ond yn ymddangos yn y llyfr graddau, ond ni allwch olygu'r cynnwys na’u dangos i fyfyrwyr. Ni chopiir dyddlyfrau heb eu graddio. Argymhellwn allgludo neu archifo cwrs i drosi'r dyddlyfrau sy’n ymddangos ym meysydd cwrs y Wedd Cwrs Gwreiddiol i Ultra.