Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Mae'r Dangosfwrdd Perfformiad yn dangos pob math o weithgarwch gan ddefnyddwyr yn eich cwrs neu fudiad. Rhestrir pob defnyddiwr sydd wedi cofrestru ar eich cwrs, gan gynnwys hyfforddwyr, myfyrwyr, cynorthwywyr dysgu, graddwyr, arsylwyr a gwesteion. Mae gwybodaeth berthnasol am gynnydd a gweithgarwch pob defnyddiwr yn ymddangos.
Tudalen y Dangosfwrdd Perfformiad
Panel Rheoli > Gwerthuso > Dangosfwrdd Perfformiad
Mae tudalen y Dangosfwrdd Perfformiad yn dangos crynodeb o wybodaeth am y cwrs:
- Cyfenw, Enw Cyntaf, ac Enw Defnyddiwr: Yn dangos enwau defnyddwyr a'r enw defnyddiwr a ddefnyddir ganddynt i fewngofnodi i Blackboard Learn.
- Rôl: Yn dangos rolau diffiniedig defnyddwyr o fewn eich cwrs. Mae enghreifftiau o rolau'n cynnwys hyfforddwr, myfyriwr, graddiwr, cynorthwy-ydd addysgu, gwestai ac arsyllwr. Gall fod gan ddefnyddiwr un rôl yn eich cwrs a rôl wahanol mewn cwrs arall.
- Mynediad Diwethaf at y Cwrs: Yn dangos y dyddiad ac amser diwethaf i ddefnyddiwr gael mynediad at eich cwrs.
- Diwrnodau ers y Mynediad Diwethaf at y Cwrs: Mae’n dangos nifer y diwrnodau sydd wedi mynd heibio ers i ddefnyddiwr gael mynediad at eich cwrs.
- Statws Adolygu: Mae'n arddangos sawl eitem a adolygwyd. Am olwg fanwl, dewiswch y rhif a ddangosir. Os nad yw offeryn statws adolygu wedi cael ei alluogi ar gyfer eich cwrs, ni fydd y golofn hon yn ymddangos.
- Rhyddhau Addasol: Yn dangos os yw rhyddhau addasol wedi'i alluogi ar gyfer eich cwrs yn unig. Dewiswch yr eicon i agor ffenestr newydd sy'n dangos trosolwg ar ffurf coeden o'r holl gwrs mewn perthynas â defnyddiwr a'r statws mynediad.
- Bwrdd Trafod: Yn dangos os yw'r bwrdd trafod wedi'i alluogi ar gyfer eich cwrs yn unig. Dewiswch ddolen rhif i agor tudalen y Bwrdd Trafod sy'n rhestru holl bostiadau trafod y defnyddiwr a ddewiswyd yn eich cwrs.
- Personoli'r Ganolfan Dargadw: Fe'i arddangosir yn unig os galluogwyd offeryn y Ganolfan Gadw yn eich cwrs. Mae'r golofn hon yn dangos nifer y rheolau sydd wedi'u sbarduno a nifer cyfanswm y rheolau a all achosi rhybudd. Er enghraifft, mae 2/6 yn golygu bod defnyddiwr wedi sbarduno 2 reol o gyfanswm o 6. Dewiswch y data yn y golofn hon i ddangos tudalen sy'n dangos statws y Ganolfan Dargadwedd ar gyfer y defnyddiwr.
- Gweld Graddau: Yn dangos os yw'r Ganolfan Raddau wedi'i alluogi yn unig. Mae'r golofn hon yn darparu dolenni uniongyrchol i'r Ganolfan Raddau Lawn.
Gallwch ddewis Argraffu i agor y dudalen mewn ffenestr newydd y gellir ei argraffu. Gallwch drefnu colofnau yn ôl yr angen.
Dangosydd y statws adolygu
Mae'r rhifau yng ngholofn Statws Adolygu yn dangos nifer yr eitemau mae myfyriwr wedi'i nodi fel Adolygwyd. Mae'r golofn Statws Adolygu yn weladwy os yw'r offeryn statws adolygu wedi cael ei alluogi ar gyfer eich cwrs yn unig.
Pan fyddwch yn galluogi statws adolygu, rydych yn creu llwybr i'r myfyrwyr symud trwyddo. Mae'n bosib bydd gan bob myfyriwr wahanol ofynion i farcio eitemau penodol yn eich cwrs fel Adolygwyd. Ar unrhyw adeg, gall eitemau yn llwybr myfyriwr fod yn weladwy i'r myfyriwr ai peidio. Mae'r Dangosfwrdd Perfformiad yn darparu golwg cyfredol o argaeledd yr eitem a chynnydd myfyriwr ar ofynion adolygu.
Mae'r rhif Statws Adolygu ar gyfer pob myfyriwr yn cysylltu â rhestr o'r eitemau mae myfyriwr yn ei gweld fel Adolygwyd a Marcio fel wedi'i Adolygu yn eich cwrs.
Rhyddhau addasol
Pan fyddwch yn personoli rhyddhau cynnwys, rydych yn creu cwrs sy'n fwy rhyngweithiol ac wedi'i deilwra i anghenion myfyrwyr unigol. Yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol, gallwch ddefnyddio rhyddhau addasol i ddangos y cynnwys priodol, i unigolion penodol, ar adeg briodol.
Rhagor ynghylch rhyddhau cynnwys
Yn y Dangosfwrdd Perfformiad, mae'r dangosydd rhyddhau addasol ar gyfer pob defnyddiwr yn agor gwedd coeden o ddewislen y cwrs ac yn dangos yr holl eitemau yn eich cwrs. Mae eiconau'n dangos amlygrwydd yr eitem i'r defnyddiwr hwnnw. Mae eicon hefyd yn dangos statws adolygu unrhyw eitemau gyda gofyniad adolygu, os yn berthnasol.
Mae colofn Rhyddhau Addasol yn weladwy os yw rhyddhau addasol wedi cael ei alluogi ar gyfer eich cwrs yn unig.
Rhyddhau Addasol ac Eiconau Statws Adolygu | |
---|---|
Gweladwy: Mae'r eitem yn weladwy i'r defnyddiwr hwnnw. | |
Anweledig: Nid yw'r eitem yn weladwy i'r defnyddiwr hwnnw. | |
Adolygwyd: Mae'r eitem wedi cael ei farcio fel Adolygwyd gan y defnyddiwr. | |
Marc Adolygwyd: Caiff yr eitem ei dangos fel Marcio fel wedi'i Adolygu i'r defnyddiwr, ond nid yw wedi cael ei farcio fel wedi'i adolygu eto. |