Mewn trafodaethau, mae edefynnau’n tyfu wrth i ddefnyddwyr ymateb i’r postiadau cychwynnol a dilynol. Mae ymatebion yn adeiladu ar ben ei gilydd i lunio sgwrs. Wrth i nifer y postiadau dyfu, mae defnyddwyr yn gallu hidlo, sortio, casglu a thagio postiadau, os caniateir tagio.

Moesau trafodaethau

I helpu myfyrwyr i ddeall eich disgwyliadau, sefydlwch foeseg trafodaeth ar unwaith. Gallwch fodelu ryngweithio ar-lein cywir ac atgyfnerthu ymddygiad priodol gyda chydnabyddiaeth gyhoeddus. Yn ogystal, gallwch ddarparu canllawiau penodol:

  • Defnyddiwch linellau pwnc disgrifiadol i wneud edefynnau yn hawdd i’w dilyn a sganio.
  • Cadwch bostiadau yn gryno a defnyddio iaith seml. Mae’ch cynulleidfa yn darllen ar sgrin ac efallai y bydd sawl neges i’w darllen.
  • Cefnogwch eich datganiadau gyda thystiolaeth pan rydych yn cytuno neu'n anghytuno gydag eraill.
  • Defnyddiwch iaith broffesiynol, yn cynnwys gramadeg cywir, mewn postiadau academaidd. Ni chaniateir defnyddio slang, gwenogluniau, nac acronymau sgwrsio.
  • Defnyddiwch atodiadau neu ddolenni i wefannau i roi gwybodaeth hir, fanwl.
  • Byddwch yn berthnasol. Os ydych eisiau cyflwyno pwnc newydd, edrychwch am fforwm addas neu cychwynnwch drywydd newydd os caniateir i chi wneud hyn.
  • Parchwch farn pobl eraill a chofiwch y rheol euraidd - dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddyn nhw eich trin chi.

Ar gyfer fforymau a thrywyddion graddedig, esboniwch i fyfyrwyr yr hyn a ddisgwyliwch yn benodol o ran nifer ac ansawdd postiadau. Gallwch hyd yn oed rannu esiamplau o bostiadau da. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfarwyddebau i helpu myfyrwyr i ddeall eich amcanion. 


Ymateb i drafodaeth

Ar eich dyfais symudol neu eich bwrdd gwaith, neidiwch i mewn i drafodaethau ar unrhyw adeg. 

O’r ffrwd gweithgarwch: Y ffrwd gweithgarwch yw’ch allwedd i gael mynediad cyflym i gynnwys cwrs newydd yn Blackboard Learn. Gallwch gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth ar gyfer unrhyw un o’ch cyrsiau ar unwaith. Dewiswch drafodaeth yn y rhestr a bydd haen yn agor. Amlygir ymatebion ac atebion newydd fel y gallwch weld yr hyn sydd wedi newid ers y tro diwethaf i chi ymweld â’r drafodaeth. Caewch yr haen i ddychwelyd i’r ffrwd gweithgarwch.

Mewn cwrs: Gallwch gyrchu trafodaeth o dudalen Cynnwys y Cwrs neu o’r dudalen Trafodaethau.

Sylwer nad yw awdur y drafodaeth yn ymddangos uwchben y rhestr Cyfranogwyr. Gall pob aelod o'r cwrs weld pwy sydd wedi creu’r drafodaeth. Gallwch bennu a ganiateir i fyfyrwyr greu trafodaethau.

Gallwch ddefnyddio’r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun, atodi ffeiliau, a phlannu ffeiliau amlgyfrwng.

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.

Cyfrif geiriau ar gyfer ymatebion i drafodaethau

Wrth ichi a'ch myfyrwyr greu ymatebion i drafodaethau, ymddengys y cyfrif geiriau o dan y golygydd. Ar ôl i chi gadw eich ymateb, nid ymddengys y cyfrif geiriau bellach.

Cynhwysir yr eitemau hyn yn y cyfrif geiriau:

  • Geiriau unigol
  • Dolenni Gwe
  • Testun yn rhestrau â bwledi neu rifau, ond ni chynhwysir y bwledi neu rifau eu hunain
  • Testun uwchysgrif ac isysgrif nid yw'n rhan o air

Nid yw'r eitemau nac elfennau ffurfweddu hyn yn effeithio ar y cyfrif geiriau:

  • Delweddau, fideos ac atodiadau ffeil
  • Fformiwlâu mathemateg
  • Bylchau a llinellau gwag
  • Testun amgen

Pan ddefnyddiwch atalnodi i atodi geiriau neu rifau, bydd effaith ar y cyfrif. Er enghraifft, caiff "Aethom ni...hebddoch chi" ei gyfrif fel tri gair. Cyfrifir y geiriau neu rifau ar bob ochr yr atalnodi fel un gair.


Dileu atebion ac ymatebion

Gall hyfforddwyr olygu neu ddileu atebion ac ymatebion unrhyw un. Gall myfyrwyr ddileu dim ond eu hatebion ac ymatebion eu hunain.

Agorwch y ddewislen ar gyfer ateb neu ymateb i gael mynediad at y swyddogaethau Golygu a Dileu. Os ydych yn dileu'ch ymateb cychwynnol, mae'r holl ymatebion eraill yn aros. Bydd y system yn dangos neges am eich dilead er mwyn i eraill wybod beth sydd wedi digwydd.