Recordio adborth
Gallwch gynnwys recordiad o'ch adborth fel ei fod yn ymddangos ag unrhyw destun rydych wedi'i ychwanegu ar gyfer y myfyriwr. Ychwanegwch adborth lle bynnag y byddwch yn dechrau graddio. Yn y golygydd, dewiswch Mewnosod/Golygu Recordiad i ddechrau.
Ni chefnogir y nodwedd hon ar bob porwr. Am y profiad gorau, defnyddiwch Chrome neu Firefox.
Yn y ffenestr sy'n agor, dewiswch yr eicon camera ar y rhyngwyneb recordio i alluogi'ch camera. Heb fod y camera wedi'i alluogi, dim ond pan fyddwch yn dechrau y bydd yr offeryn yn recordio sain. Pan fyddwch y barod, dewiswch y botwm Recordio i gipio eich adborth sain a fideo.
Pan fydd eich meicroffon a'ch camera wedi'u gosod, byddwch yn barod i ddechrau arni.
- Dewiswch y botwm recordio coch a gwyliwch wrth i'r offeryn gyfrif i lawr. Gallwch wneud recordiad sy’n para am hyd at bum munud.
- Dewiswch Oedi recordio i stopio ac ailddechrau recordio'ch adborth neu dewiswch Stopio recordio i adolygu'r recordiad ac i’w gadw neu’i ddileu. Gallwch ddileu'r recordiad a dechrau eto os ydych am ailrecordio.
- Adolygwch eich recordiad a dewiswch Cadw a gadael os ydych yn fodlon â’r y recordiad ac eisiau ei rannu â'r myfyriwr.
- Mae'r recordiad yn cael ei fewnosod yn awtomatig yn y golygydd.
Ailenwi eich recordiad
Gallwch ailenwi enw arddangos y recordiad ac ychwanegu testun amgen i'w wneud yn hygyrch i bob defnyddiwr. Mae'r system yn defnyddio'r amser a'r dyddiad recordio ar gyfer y meysydd hyn yn ddiofyn. Dewiswch y recordiad yn y golygydd a dewiswch Mewnosod/Golygu Recordiad eto yn y ddewislen. Golygu'r enw arddangos a thestun amgen. Yn ddiofyn, mae'r maes testun amgen yn defnyddio'r enw arddangos yn awtomatig, ond gallwch olygu'r testun amgen ar wahân os dymunwch.
Dewiswch Cadw pan fyddwch wedi gorffen golygu.
Ffeiliau recordiadau
Ni chynhwysir ffeiliau recordiadau yn archifau cwrs neu ffeiliau wrth gefn, er cedwir cysylltiad y ffeil. Dylai’r recordiad ymddangos o fewn y ffenestr dargadw data pan adferir y cwrs ar yr un system Blackboard Learn. Cysylltwch â'ch gweinyddwr am wybodaeth fwy penodol am ddargadw data yn eich sefydliad.
Gall eich gweinyddwr gopïo cwrs sydd â defnyddwyr a dargadw’r graddau a ffeiliau recordiadau.
Beth mae myfyrwyr yn ei weld?
Gall myfyrwyr gyrchu'r recordiad â manylion gradd ac unrhyw adborth arall rydych yn ei ychwanegu. Mae'r recordiadau'n ffrydio i ddyfeisiau myfyrwyr ac nid ydynt yn galw arnynt lawrlwytho unrhyw beth. Gall myfyrwyr chwarae'r recordiadau ar y rhan fwyaf o borwyr modern heb unrhyw ategion neu estyniadau ychwanegol. Ni all myfyrwyr lawrlwytho na chadw recordiadau.
Gosodwch eich camera a'ch meicroffon
Dewiswch yr eicon gêr i osod a phrofi eich meicroffon a'ch camera.
- Gosod eich meicroffon: Cael trafferth wrth recordio sain? Defnyddiwch yr opsiwn hwn i brofi'ch sain a dewis y ffynhonnell fewnbwn. Os yw'r lefel uchder yn symud, mae sain eich dyfais yn cael ei chanfod a dylai recordio fel y disgwylir. Dewiswch Ydy - Mae'n gweithio i adael y prawf.
- Gosod eich camera: Dewiswch ffynhonnell fewnbwn ar gyfer eich camera. Os gwelwch eich delwedd ar y sgrîn, rydych chi'n barod! Dewiswch Ydy - Mae'n gweithio i adael y prawf.
Problemau gyda’ch sain neu fideo?
- A oes gan eich porwr ganiatâd i ddefnyddio’ch camera a meicroffon?
- A yw’r rheolyddion sain neu fideo wedi’u galluogi? Mae llinell trwy'r eiconau yn golygu nad yw’r y ddyfais wedi’i galluogi.
- A ydych wedi gosod fersiwn diweddaraf eich porwr?