Mae gwaith grŵp yn gwella sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau, a'r gallu i addasu a chyfathrebu.
Gallwch greu grwpiau o fyfyrwyr yn eich cyrsiau er mwyn iddynt allu rhyngweithio gyda’i gilydd a dangos eu gwybodaeth.
Sut mae gwaith grŵp o fudd i fyfyrwyr
Mae ymchwilwedi dangos y gall myfyrwyr gael budd o weithio mewn grŵp mewn sawl ffordd:
- Mae myfyrwyr yn cadw gwybodaeth yn hwy nag yn achos dulliau addysgu eraill.
- Mae persbectifau gan aelodau grŵp yn cynnig cyfle arall i ddysgu deunydd newydd.
- Mae gan fyfyrwyr deimlad cadarnhaol am ddeunydd y cwrs.
- Mae gan fyfyrwyr sy'n sefydlu perthnasau da â'u cyd-fyfyrwyr brofiad dysgu mwy cadarnhaol.
- Mae gwaith grŵp llwyddiannus yn arwain at fyfyrwyr yn teimlo'n well amdanynt eu hunain.
- Mae myfyrwyr yn cynyddu eu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu.
- Mae myfyrwyr yn cynyddu eu sgiliau meddwl yn feirniadol.
Ffynhonnell: "44 Benefits of Collaborative Learning." gdrc.org n.d. Gwe. 3 Ion. 2020.