Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Trosolwg Myfyriwr

Defnyddiwch Trosolwg Myfyriwr fel un lle i gael gwybodaeth berthnasol am fyfyriwr a phersonoli eich cyfathrebiadau â nhw. Gallwch weld sut mae eich myfyrwyr wedi perfformio dros amser â dadansoddiadau. Gallwch hefyd ddefnyddio'r nodwedd negeseuon i gysylltu'n gyflym â myfyriwr am unrhyw ddarn o wybodaeth ar y Trosolwg Myfyriwr.

Image of the header of the Student Overview, showing additional student information and buttons for other features.

Mae pennyn Trosolwg Myfyriwr yn cynnwys gwybodaeth bwysig am eich myfyrwyr. Byddwch yn gweld:

  • Enw a chyfenw'r myfyriwr
  • Y dyddiad pan gyrchodd y myfyriwr eich cwrs ddiwethaf
  • Gradd gyffredinol, os rydych wedi troi'r nodwedd hon ymlaen
  • Cymwysiadau, os rydych wedi ychwanegu unrhyw gymwysiadau ar gyfer dyddiadau cyflwyno neu derfynau amser

Mae gan y Trosolwg Myfyriwr wybodaeth ychwanegol hefyd, os yw myfyriwr wedi rhoi:

  • Enw arall
  • Enw defnyddiwr
  • Rhif Adnabod Myfyriwr
  • Rhagenwau
  • Disgrifiad o'r ynganiad
  • Recordiad o ynganiad yr enw

Gellir cyrchu tair nodwedd arall o'r Trosolwg Myfyriwr:

  • Adroddiad Gweithgarwch Myfyriwr. Mae hyn yn rhoi trosolwg i chi o sut mae myfyriwr yn rhyngweithio â'ch cwrs dros amser. Gallwch arsylwi ar sut mae ymgysylltiad a pherfformiad myfyriwr wedi newid fesul wythnos. Ewch i'r pwnc "Data Gweithgarwch Cwrs Myfyrwyr" am ragor o wybodaeth am y nodwedd.
  • Cymwysiadau. Gallwch roi cymwysiadau dyddiad cyflwyno a therfyn amser i fyfyrwyr penodol.
  • Anfon negeseuon. Cysylltu â'ch myfyrwyr am eu graddau neu gynnydd.

Cyrchu'r Trosolwg Myfyriwr

Gallwch gyrchu'r Trosolwg Myfyriwr o bum lleoliad gwahanol:

O unrhyw bwynt mynediad, dewiswch enw myfyriwr i agor y Trosolwg Myfyriwr.

Tab Graddau

Select the ellipsis icon in the Grades tab to exempt any item from being graded for that specific student.

Mae pum colofn ar y tab Graddau: Enw'r Eitem, Dyddiad Cyflwyno, Statws, Gradd, ac Adborth. Gellir trefnu pob colofn mewn trefn esgynnol neu ddisgynnol. Dewiswch yr eicon tri dot i esgusodi unrhyw eitem rhag cael ei graddio ar gyfer y myfyriwr penodol hwnnw.

Ewch i'r pwnc "Rheoli Ymgeisiau" i gael rhagor o wybodaeth am esgusodiadau.

Dewiswch unrhyw le yn y rhes i agor cyflwyniad myfyriwr ar gyfer unrhyw eitem. Gallwch raddio neu adolygu'r eitem o'r panel hwn. Bydd eitemau graddadwy yn gweithio'n wahanol yn seiliedig ar y math o eitem raddadwy a'r gosodiadau sydd ar gael ar gyfer y nodwedd honno.

Tab Cynnydd

Image of the Progress tab, showing item name and status.

Mae'r tab Cynnydd yn dangos enwau a statysau eitemau. Yn ddiofyn, bydd y tab dim ond yn dangos cynnwys y gall myfyrwyr ei weld. Mae pedwar statws:

  • Heb ei agor, wedi'i ddangos gan eicon cylch
  • Dechreuwyd, wedi'i ddangos gan eicon cylch hanner llawn
  • Cwblhawyd, wedi'i ddangos gan dic gwyrdd
  • Marciwyd fel cwblhawyd, hefyd wedi'i ddangos gan dic gwyrdd

Gallwch newid yr hidlydd i ddangos yr holl gynnwys gan ddefnyddio'r ddewislen Argaeledd cynnwys ar frig y tab a dewis Popeth. Mae'r wedd hon yn cynnwys yr eitemau na all myfyrwyr eu gweld. Mae hyn yn eich helpu i ddeall cynnydd myfyrwyr o ran holl gynnwys cwrs yn well.

Ewch i'r pwnc "Olrhain Cynnydd" i gael rhagor o wybodaeth am y nodwedd.

Tab Nodiadau

Mae'r nodwedd Nodiadau yn caniatáu i chi adael nodiadau i chi eich hun neu hyfforddwyr eraill yn y cwrs am eich myfyrwyr. Mae nodiadau yn breifat a dim ond hyfforddwyr, gweinyddwyr a rolau uwch sy'n gallu eu cyrchu.

Gallwch ddefnyddio nodiadau mewn sawl ffordd i hysbysu eich dysgu a rhyngweithio gyda myfyrwyr:

  • Olrhain datblygiad myfyriwr dros amser a gadael nodiadau defnyddio am eu cynnydd
  • Gwneud nodyn ysgrifenedig am gytundebau gyda myfyriwr, fel estyniad ar gyfer aseiniad neu gyfarfod
  • Gwneud nodyn o'r myfyrwyr sydd â phroblemau ymddygiad neu hanes o anonestrwydd academaidd
  • Cofnodi pethau i'w hystyried wrth raddio, fel myfyriwr yn cael trafferthion gartref neu bwy sydd wedi bod ar absenoldeb meddygol

Dewiswch y tab Nodiadau. Gallwch adolygu nodiadau hŷn neu ychwanegu nodyn newydd. Mae'r nodiadau mwyaf diweddar yn ymddangos ar frig y rhestr. Dewiswch rywle yn y maes Ychwanegu nodyn i greu nodyn.

Image of the Notes tab on the Student Overview, with the tab outlined with a blue rectangle. 2 notes about the student are below the Add Note field

Mae gan y golygydd testun nifer o opsiynau ar gyfer fformatio. Er enghraifft, gallwch newid arddull testun i fod yn drwm neu'n italig, newid lliwiau, defnyddio arddulliau, ac addasu maint y ffont.

Image of the Notes field, showing tools for modifying text highlighted with a blue rectangle, and the Save button at the bottom right highlighted with a blue rectangle

Dewiswch y botwm Cadw i gadw'ch nodyn. Mae pob nodyn yn cynnwys enw'r awdur a stamp amser gyda'r dyddiad creu. Gallwch fynd yn ôl i'ch nodiadau hŷn neu eu dileu drwy ddewis yr eicon tri dot. Ni all hyfforddwyr eraill olygu eich nodiadau ac ni allwch olygu nodiadau hyfforddwyr eraill. Os yw nodyn wedi'i olygu, bydd stamp amser ar wahân ar gyfer y fersiwn diweddaraf.

Close-up of a note left previously. The ellipsis menu has a dropdown list featuring icons for Edit and Delete. The timestamp for when the note was last edited is outlined with a blue rectangle.

Sylwer: Gall gweinyddwyr lanhau'r tab Nodiadau ar gyfer nodiadau amherthnasol neu hen. Gallant ddileu sylwadau niweidiol yn yr un ffordd.