Cefndir, sut mae'n gweithio, a beth sydd ei angen  

Mae Dilysiad Sefydliadol yn wasanaeth mewngofnodi unwaith ar gyfer Blackboard Data sy'n darparu dilysiad di-dor rhwng Blackboard Learn SaaS a Blackboard Data. Mae'n rhoi lefel uwch o ddiogelwch a rheolaeth dros ddulliau dilysu Cyfrif Blackboard Data (Gweler Cwestiynau Cyffredin isod) ac yn galluogi nodweddion ychwanegol yn Blackboard Data. 

Mae'r canlynol yn ddisgrifiad o Ddilysiad Sefydliadol, beth sydd ei angen, a'r newidiadau o ran llifau gwaith mewngofnodi/dilysu. 


Cefndir  

Ar hyn o bryd, mae Blackboard Data yn cynnig dau ddull mewngofnodi: Cyfrif Blackboard Data y mae angen ei ddilysu drwy gyfeiriad e-bost a chyfrinair ac mae angen rheoli cyfrifon drwy docyn cymorth, a Dilysiad Sefydliadol sy'n defnyddio eich manylion mewngofnodi sefydliadol presennol a gall gweinyddwr sefydliadol ei reoli ei hun.  

Mae Dilysiad Sefydliadol yn rhoi rhagor o reolaeth i chi dros bwy sy'n cael cyrchu Blackboard Data a beth y gallant ei weld.Mae Dilysiad Sefydliadol yn defnyddio eich enwau defnyddwyr a chyfrineiriau presennol, a'ch cyfeiriadau enwau neu ddarparwr manylion adnabod presennol, yn ogystal â grwpiau dilysu a/neu rolau system yn Learn i anfon data at Blackboard Data Developer a Reporting. 

Mae Dilysiad Sefydliadol yn cefnogi ddau ddarparwr dilysu neu "Cysylltwyr":  

  1. Ein Cysylltydd SAML: Unrhyw ddarparwr adnabod sy'n seiliedig ar SAML (IdP SAML: Shibboleth, ADFS, ac ati)  
    • Mae Cysylltwyr SAML bob amser yn defnyddio eich tudalen manylion adnabod ar y we fel yr ydych chi neu eich IdP SAML wedi'i darparu.
    • Mae angen i'r Cysylltydd SAML gael defnyddio grwpiau SAML i reoli pwy sydd â mynediad at Blackboard Data Reporting a Developer.
  2. Ein Cysylltydd Learn: Ar gyfer y rhai hynny sy'n defnyddio LDAP neu Ddarparwr Dilysu Diofyn Blackboard Learn. 
    • Mae Cysylltwyr Learn bob amser yn defnyddio tudalen mewngofnodi wedi'i brandio ar gyfer eich sefydliad. 
    • Mae'r Cysylltydd Learn yn defnyddio'r cyfrinair a gadwyd yn Learn ar gyfer defnyddiwr, fel arfer nid yw hyn yn bodoli os ydych yn defnyddio SSO i gyrchu Learn, felly efallai bydd y dull hwn yn ychwanegu at faich gweinyddu gweinyddwr y system gan y bydd angen iddynt osod a rheoli cyfrinair ar ran defnyddwyr. 
  3. Cyfuniad o'n Cysylltydd SAML a'n Cysylltydd Learn. 

Mae'r llwybr dilysu mae Anthology yn ei argymell yn seiliedig ar SAML. Argymhellir hyn gan fod gwybodaeth a diogelwch dilysu rhaglenni gwe mae SAML yn eu cynnig yn fwy na'r hyn mae'r LDAP a darparwyr dilysu diofyn Learn hŷn yn ei ddarparu.  

  • Dylai sefydliadau nad ydynt yn defnyddio SAML fel eu darparwr manylion adnabod ystyried ei ddefnyddio i gael manteision diogelwch llawn Dilysiad Sefydliadol.  
  • Yn ychwanegol, bydd angen i sefydliadau sy'n gwahanu eich defnyddwyr rhwng eu cyfrifon darparwr manylion adnabod SAML a'u cyfrifon Blackboard Learn yn unig ailystyried rheoli defnyddwyr ar Learn yn unig.

Gosod Dilysiad Sefydliadol   

Rydym yn cydnabod y gall newid fod yn bryder ac rydym wedi gwneud ein gorau glas i'ch helpu i wneud mabwysiadu Dilysiad Sefydliadol mor hawdd â phosibl.

I ofyn am osod Dilysiad Sefydliadol, cyflwynwch docyn cymorth i ofyn am "Dilysiad Sefydliadol ar gyfer Blackboard Learn". Bydd cynrychiolydd cymorth yn cysylltu â chi i'ch arwain drwy'r broses mabwysiadu.   

Gall y broses gosod fod yn llawer mwy cyflym os y gallwch gynnwys y manylion canlynol yn eich cais: 

  1. Cadarnhad o'r darparwr manylion adnabod y byddwch yn ei ddefnyddio (SAML gyda grwpiau neu'r Cysylltydd Learn). 
  2. Manylion cyswllt arbenigwr dilysu yn eich sefydliad.

Mewngofnodi â Dilysiad Sefydliadol

I fewngofnodi â Dilysiad Sefydliadol i Blackboard Data:

  1. Ewch i https://data.blackboard.com a dewiswch y botwm Mewngofnodi ar y brif dudalen neu yng nghornel dde uchaf unrhyw dudalen.
  2. Dewiswch Mewngofnodi â'ch cyfrif sefydliadol. Bydd y wefan yn mynd â chi i wefan mewngofnodi Blackboard.
  3. Yn y bar chwilio, rhowch enw eich sefydliad, a'i ddewis o'r canlyniadau chwilio.
  4. Bydd tudalen mewngofnodi eich sefydliad yn ymddangos (naill ai tudalen mewngofnodi Blackboard Learn neu eich tudalen mewngofnodi SAML). Mewngofnodwch â'ch manylion adnabod sefydliadol.

 

Cwestiynau Cyffredin

A yw Dilysiad Sefydliadol yn disodli SSO fy sefydliad?

Nac ydy. Mae Dilysiad Sefydliadol yn defnyddio SSO eich sefydliad i gyrchu Blackboard Data, ond nid yw'n ei ddisodli.

A yw Dilysiad Sefydliadol yn amharu ar fy ngallu i fewngofnodi i Blackboard Learn?

Nac ydy. Mae Dilysiad Sefydliadol wedi'i gynllunio i fod mor dryloyw â phosib i ddefnyddwyr wrth barhau i ddilyn arferion gorau'r diwydiant. Er y bydd defnyddwyr yn gweld rhywfaint o ailgyfeirio ar ôl mewngofnodi am y tro cyntaf, byddant yn defnyddio'r un enwau defnyddiwr a'r un cyfrineiriau ag y maent ar hyn o bryd.

A fydd Anthology yn darparu cymorth?

Bydd. Bydd modd delio ag unrhyw broblemau gyda mewngofnodi â Dilysiad Sefydliadol a mynediad at gynnyrch cysylltiedig drwy gyflwyno tocyn cymorth drwy Behind the Blackboard.

Sylwer bod cymorth gydag enwau defnyddwyr a chyfrineiriau yn cael ei ddarparu gan eich sefydliad neu, os oes gennych gytundeb, gan Anthology Student Services.

A yw Dilysiad Sefydliadol yn ddiogel?

Yn hollol! Mae Dilysiad Sefydliadol wedi'i greu ar bentwr technoleg sy'n seiliedig ar ddatrysiadau ac arferion gorau'r diwydiant diogelwch y mae nifer o gwmnïau tra hysbys hefyd yn ei ddefnyddio: Okta™, Microsoft 365™, Azure™, ac Amazon™ i enwi ychydig ohonynt.

Hefyd, drwy beidio ag amlygu cyfeiriaduron enwau i raglenni allanol ar y rhyngrwyd neu beidio â mynnu defnyddio enwau defnyddir a chyfrineiriau ychwanegol ar gyfer rhaglenni allanol, rydym yn creu amgylchedd dilysu mwy diogel i chi a'ch Cyfadran, Myfyrwyr a Staff.

Image describing the Institutional Authentication Single Sing-on process described in the page.

Enghraifft o lif gwaith Mewngofnodi Unwaith Blackboard (BbSSO).

A oes terfyn amser ar gyfer Mewngofnodiadau?

Oes, er mwyn cydymffurfio â gofynion diogelwch a chyfreithiol, mae amser eich sesiynau Blackboard Data yn dod i ben ar ôl 15 munud. Ond, ni fydd hyn yn eich allgofnodi o raglenni eraill sy'n gysylltiedig drwy SSO.

Pwy yn eich sefydliad a ddylai fod yn rhan o broses Mabwysiadu Dilysiad Sefydliadol?

Yn ogystal â deall sut mae cyfrifon eich defnyddwyr yn cael eu rheoli yn Blackboard Learn, bydd angen i'r broses mabwysiadu Dilysiad Sefydliadol ddeall systemau eich cyfeiriadur enwau neu ddarparwr manylion adnabod. Ar y lleiaf, dylai'r staff canlynol gymryd rhan yn cwblhau'r holiadur a dylent fod ar gael ar gyfer profi Cysylltwyr. Os ydych yn defnyddio'r Cysylltydd Learn: eich Gweinyddwr Blackboard Learn. Os ydych yn defnyddio SAML: eich Gweinyddwr Blackboard Learn a gweinyddwr SAML neu swyddog diogelwch eich sefydliad.

Pa lefel o ymdrech sydd ei angen?

Ar gyfer cleientiaid y Cysylltydd Learn, yr ymdrech sydd ei angen yw bron dim - rydym yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith caled; bydd dim ond angen i'ch Gweinyddwr Blackboard Learn droi'r broses Dilysiad Sefydliadol ymlaen a chaiff mewngofnodiadau drwy Learn yn y dyfodol eu prosesu drwy Ddilysiad Sefydliadol.

Gofynnir i gleientiaid sy'n defnyddio SAML gwblhau arolwg byr a bydd staff Blackboard yn eu harwain drwy'r broses mabwysiadu. Unwaith bod Blackboard wedi ffurfweddu eich cysylltiad SAML yn y Dilysiad Sefydliadol. bydd angen i chi ddiweddaru ffurfweddiad eich IdP gyda'r wybodaeth rydym yn ei darparu. Ar ôl cwblhau'r cam hwn, gall proses profi'r cysylltiad barhau. Ar ôl cwblhau hynny, bydd angen i'r Gweinyddwyr Learn droi proses Dilysiad Sefydliadol ymlaen a chaiff mewngofnodiadau drwy Learn yn y dyfodol eu prosesu drwy Ddilysiad Sefydliadol.

Pa mor hir yw'r broses gychwynnol?

Os nad ydych yn defnyddio SAML ac rydych yn defnyddio Cysylltydd Blackboard Learn, gall y broses o amser cyflwyno'r cais gymryd gyn lleied â dau ddiwrnod gwaith o'r dechrau i'r diwedd. Yn y rhan fwyaf o achosion, gall y newid hwn ddigwydd bron yn syth ac mae dim ond yn fater o alluogi'r nodwedd yn Blackboard Learn.

Os ydych yn defnyddio SAML, bydd y broses yn cymryd mwy o amser oherwydd cymhlethdodau ffurfweddiadau SAML a phrofi – mae'r amser hwn yn amrywio'n sylweddol o un achos i'r llall. Dylech ddisgwyl rhwng saith a deng diwrnod ar y lleiaf o'r dechrau i'r diwedd. Rydym yn deall yr amser sydd ei angen ac rydym yn disgwyl y bydd angen llai o amser wrth i ni barhau i wella ein prosesau SAML.