Tudalen Negeseuon Cyffredinol
Gallwch chi a’ch myfyrwyr anfon negeseuon at eich gilydd, a’u hanfon at nifer o bobl, neu at bawb yn y dosbarth. Mae gweithgarwch negeseuon yn aros y tu mewn i'r system, ac nid oes rhaid i chi boeni am gyfeiriadau e-bost a allai fod yn anghywir neu'n hen.
Fel hyfforddwr, gallwch anfon negeseuon yn gyflym at yr holl fyfyrwyr am derfynau amser a newidiadau amserlen pwysig.
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fudiadau hefyd.
Peidiwch â cholli unrhyw beth sy'n digwydd. Y negeseuon diweddaraf ar gyfer pob cwrs sy'n ymddangos gyntaf. Os oes gennych gymysgedd o gyrsiau Gwreiddiol ac Ultra, gallwch gyrchu negeseuon ar gyfer y ddau ar y dudalen hon. Mae negeseuon newydd yn ymddangos mewn ffont trwm.
Cael mynediad at negeseuon dros amser. Gallwch weld negeseuon o gyrsiau cyfredol, blaenorol a'r rhai sydd yn y dyfodol. Defnyddiwch y saethau i symud i gyfnod amser arall. Er enghraifft, gallwch weld negeseuon o gyrsiau blaenorol rydych eisiau eu hailddefnyddio.
Neidiwch i'ch negeseuon. Dewiswch gerdyn cwrs i weld yr holl negeseuon newydd a chyfredol yn eich cwrs. Gallwch ddileu negeseuon y tu mewn i'ch cwrs.
Barod i rannu? Dewiswch yr eicon Neges Newydd yng ngherdyn cwrs i anfon neges i un person, nifer o bobl, neu ddosbarth. Yn y Wedd Cwrs Ultra, dechreuwch deipio a bydd enwau derbynyddion yn ymddangos. Yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol, dewiswch At. Bydd rhestr o holl aelodau'r cwrs yn ymddangos. Yn y blwch cyntaf, dewiswch y derbynyddion ac yna dewiswch y saeth sy'n wynebu'r dde i'w symud i'r blwch Derbynyddion
Negeseuon cwrs
Unrhyw le mewn cwrs, gallwch gyrchu negeseuon ar y bar llywio. Mae tudalen negeseuon y cwrs yn dangos yr holl negeseuon sy'n benodol i'r cwrs rydych ynddo.
Nid oes angen i chi ychwanegu dolen at negeseuon cwrs. Mae'r eicon Negeseuon bob amser yn rhan o lywio cwrs yn y Wedd Cwrs Ultra.
Negeseuon cwrs darllen yn unig ar gyfer myfyrwyr
Mae gan bob sefydliad ddewisiadau a pholisïau cyfathrebu gwahanol. Efallai bydd rhai sefydliadau eisiau cyfyngu sut mae myfyrwyr yn cyfathrebu ag eraill yn eu cyrsiau. Gall eich sefydliad ddewis peidio â chaniatáu i fyfyrwyr ymateb i neu greu negeseuon yn eu cyrsiau. Dim ond y rôl myfyriwr sydd â’r cyfyngiadau hyn. Ni allwch droi'r gosodiad hwn ymlaen a’i ddiffodd yn eich cyrsiau unigol.
Pan fydd y gosodiad hwn wedi’i droi ymlaen, gall myfyrwyr ond ddarllen negeseuon a anfonir atynt gan rolau eraill, megis hyfforddwyr a chynorthwywyr addysgu. Ni fydd modd i fyfyrwyr flaenyrru negeseuon maent yn eu derbyn.
Llif gwaith hyfforddwr
Pan all myfyrwyr ond ddarllen negeseuon cwrs, byddwch yn derbyn hysbysiad wrth greu neges. Mae’r blwch ticio Caniatáu atebion i'r neges hon yn berthnasol i’r rolau yn y cwrs sydd â chaniatâd i ateb a chreu negeseuon, megis hyfforddwyr eraill a chynorthwywyr addysgu.
Llif gwaith myfyriwr
Yn y ffurf darllen yn unig, tynnir yr arwydd plws i ychwanegu neges o dudalen Negeseuon gyffredinol myfyrwyr a thudalen Negeseuon cyrsiau Ultra.
Pan fydd myfyrwyr yn gweld neges gwrs Ultra unigol, byddant yn gweld neges yn y blwch Ateb sy’n dweud: Ni ellir ymateb i'r neges hon am fod yn nodwedd wedi'i hanalluogi.