Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Defnyddiwch Pronto i gysylltu â myfyrwyr, staff dysgu, ymgynghorwyr, a'r staff gweinyddol mewn amser real, bryd bynnag. Mae Pronto yn darparu dyluniad graenus a chyfoes sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu o'ch dyfeisiau symudol neu'n uniongyrchol o fewn platfformau LMS Blackboard.
Dolen i Pronto o'ch cwrs
Defnyddiwch y Content Market i ychwanegu dolen i Pronto o'ch cwrs.
- Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws ble bynnag yr ydych am ychwanegu cynnwys. Gallwch ehangu neu greu ffolder hefyd ac ychwanegu cynnwys hefyd.
- Dewiswch Content Market.
- Lleolwch yr offeryn Pronto a dewiswch yr arwydd plws. Ychwanegir dolen i Pronto at eich cwrs.
- Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gwnewch y ddolen Pronto yn weladwy i fyfyrwyr.