Agorwch y llinell gyfathrebu ac ennyn diddordeb eich myfyrwyr mewn trafodaethau ar-lein.

Mae trafodaethau'n ffordd dda o annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am eu gwaith cwrs a rhyngweithio â syniadau myfyrwyr eraill. Gallwch greu trafodaethau o gwmpas gwersi cwrs unigol neu ar gyfer eich cwrs yn gyffredinol. Fel hyfforddwr, chi sy'n berchen ar y trafodaethau. Ar ôl i chi gychwyn trafodaeth, gallwch bostio'ch sylwadau eich hun i dywys myfyrwyr.

Y ffurf mwyaf cyffredin o ryngweithio mewn cwrs ar-lein yw trwy drafodaeth a gychwynnir gan hyfforddwr. Nid yw cyfranogiad a rhyngweithio mewn trafodaethau yn digwydd yn naturiol. Mae angen i chi ei gynllunio’n fwriadol yn rhan o’ch cwrs. I annog trafodaethau dengar o ansawdd, lluniwch eich cwestiynau'n ofalus a chreu ymholiad.


Datblygu trafodaethau ar-lein llwyddiannus

Helpwch eich myfyrwyr i deimlo'n gyfforddus a rhowch gyfarwyddiadau iddynt wrth iddynt gychwyn cymryd rhan mewn trafodaethau.

Dyma phedwar cam cyffredinol at ddatblygu trafodaethau llwyddiannus ar-lein i helpu i adeiladu cymuned a chyflawni aseiniadau.

  1. Diffiniwch ofynion y cyfranogiad.
    • Rhannwch eich disgwyliadau. Crëwch drafodaeth lle gall y myfyrwyr ddarllen am foesau a chael mynediad at wybodaeth ar raddio.
    • Modelwch ryngweithio ar-lein cywir ac atgyfnerthu ymddygiad priodol gyda chydnabyddiaeth gyhoeddus.
  2. Gofynnwch gwestiwn effeithiol
    • Ymgorfforwch adnoddau amlgyfrwng yn eich cwestiynau i leihau undonedd rhyngweithio gyda thestun yn unig. Gyda phoblogrwydd gwasanaethau fel YouTube™, gallwch ofyn i fyfyrwyr wylio clip a gofyn am ymatebion.
  3. Anogwch syniadau newydd.
    • Os yw postiadau trafodaeth yn cynnwys gormod o gytuno a dim digon o gwestiynu syniadau, dywedwch wrth fyfyrwyr gyda chyfenw yn dechrau gyda A-M i gefnogi un ochr a gyda chyfenw yn dechrau gyda N-Z i gefnogi'r llall.
  4. Cymedrolwch.
    • Sefydlwch eich presenoldeb. Gofyn am eglurhad, adnoddau, neu fewnbwn gan gyfranogwyr distaw.

Ynghylch trafodaethau

Mae trafodaethau'n ffordd hwylus o ennyn diddordeb myfyrwyr yn eich cwrs! Mae trafodaethau'n annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am eu gwaith cwrs a rhyngweithio â syniadau myfyrwyr eraill.

Gallwch greu trafodaethau cwrs a grŵp. Gallwch hefyd wneud i drafodaethau gyfrif tuag at radd a threfnu trafodaethau mewn ffolderi.

Eisiau i'r myfyrwyr arwain? Gallwch ganiatáu iddynt greu trafodaethau sy’n ymddangos yn y rhestr gyda’r label Crëwyd gan fyfyriwr.

Video: Create a Discussion


Watch a video about discussions

The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.


Video: Create a discussion shows how you can easily create and manage a discussion.


Creu trafodaethau

Mae pob trafodaeth newydd yn gudd i ddechrau. Gallwch eu golygu a'u gwneud yn weladwy pan fyddwch yn barod am gyfranogiadau gan fyfyrwyr.

Gallwch greu trafodaethau mewn dau leoliad o fewn eich cwrs.

  1. Crëwch drafodaeth yn uniongyrchol ar dudalen Cynnwys y Cwrs er mwyn i fyfyrwyr allu ei gweld mewn cyd-destun gyda deunyddiau eraill.
  2. Dewiswch y tab Trafodaethau ar y bar llywio i agor tudalen trafodaethau'r cwrs. Dewiswch yr arwydd plws yn y gornel dde uchaf i agor y ddewislen. Gallwch ychwanegu trafodaethau a’u trefnu gyda ffolderi. Dewiswch yr eicon gêr i agor panel Gosodiadau'r Drafodaeth. Gallwch ganiatáu i fyfyrwyr greu trafodaethau sy’n ymddangos yn y rhestr gyda’r label Crëwyd gan fyfyriwr. Gallwch droi'r gosodiad hwn ymlaen a’i ddiffodd ar unrhyw bryd.

    Rhagor am drafodaethau a grëwyd gan fyfyrwyr

Pan fyddwch yn trosi’ch cwrs o’r Wedd Cwrs Gwreiddiol i'r Wedd Cwrs Ultra, gwastateir rhai trafodaethau a thynnir rhai gosodiadau. Dysgu rhagor am y broses trosi.


Tudalen Trafodaeth Newydd

Gallwch ychwanegu trafodaethau ar gyfer pawb neu ofyn i fyfyrwyr gyfranogi mewn trafodaethau grŵp. Gallwch hefyd wneud i drafodaethau gyfrif tuag at radd.

  1. Teipiwch deitl ystyrlon i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i’r drafodaeth gywir. Os nad ydych yn ychwanegu teitl, bydd "Trafodaeth Newydd" a'r dyddiad yn ymddangos fel y teitl i chi a’ch myfyrwyr.
  2. Cynhwyswch ganllawiau a disgwyliadau. Gallwch ddefnyddio’r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun, atodi ffeiliau, a phlannu ffeiliau amlgyfrwng.

    I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.

  3. Dangoswch neu cuddiwch y drafodaeth. Cuddir trafodaethau newydd yn ddiofyn. Ni all myfyrwyr weld trafodaeth nes i chi ddewis ei dangos. Gallwch greu'ch holl gynnwys ymlaen llaw a dewis beth rydych chi eisiau i fyfyrwyr ei weld yn seiliedig ar eich amserlen. Gallwch chi hefyd bennu amodau argaeledd ar sail dyddiad, amser a pherfformiad ar eitemau eraill yn llyfr graddau’r cwrs.
  4. Dewiswch opsiynau’r trafodaethau. Dewiswch eicon Gosodiadau’r Drafodaeth i agor panel sydd ag opsiynau ar gyfer eich trafodaeth:
    • Cynnwys y drafodaeth gydag eitemau eraill o gynnwys. Dewiswch Dangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs i gynnwys y drafodaeth ar dudalen Cynnwys y Cwrs.
    • Annog syniadau gwreiddiol. Efallai bydd rhai myfyrwyr yn dibynnu’n ormodol ar feddyliadau myfyrwyr eraill pan fyddant yn drafftio ymatebion. Mae ymatebion ac atebion cudd yn gallu helpu myfyrwyr i ddatblygu eu syniadau eu hunain ar eich pwnc trafod cychwynnol. Dewiswch Postio Gyntaf i guddio gweithgarwch yn y drafodaeth rhag myfyrwyr nes iddynt ymateb i'r drafodaeth. Pan fyddwch eisiau defnyddio postio gyntaf a grwpiau, dewiswch Postio Gyntaf cyn neilltuo grwpiau.
    • Graddio'r drafodaeth. I ysgogi myfyrwyr i bostio cyfraniadau diddorol, gallwch wneud i'r drafodaeth gyfrif tuag at radd. Pan fyddwch yn dewis graddio trafodaeth, bydd rhagor o opsiynau yn ymddangos fel y dyddiad cyflwyno a’r uchafswm o bwyntiau. Defnyddir yr uchafswm o bwyntiau gydag un neu fwy o bostiadau a wnaed gan fyfyriwr. Pan fyddwch yn galluogi graddio ar gyfer trafodaeth, crëir colofn yn awtomatig yn y llyfr graddau.
    • Alinio nodau gyda'r drafodaeth. Gallwch chi a'ch sefydliad ddefnyddio amcanion i fesur cyflawniad myfyrwyr ar draws rhaglenni a chwricwla. Pan fyddwch yn creu trafodaeth, gallwch alinio un nod neu ragor. Dewiswch Alinio â nodau i chwilio am y nodau sydd ar gael. Ar ôl i chi drefnu bod y drafodaeth yn weladwy, gall myfyrwyr weld y nodau er mwyn iddynt wybod eich disgwyliadau.

      Rhagor am sut i alinio nodau â chynnwys cwrs

    • Ychwanegu grwpiau. Gallwch bennu myfyrwyr i grwpiau trafod er mwyn cynnwys llai o bobl. Gallwch hefyd bennu pwnc penodol ar gyfer pob grŵp. Gallwch raddio trafodaethau grŵp.

Trafodaethau a grëwyd gan fyfyrwyr

Pan fyddwch yn caniatáu i fyfyrwyr greu trafodaethau, bydd eu teitlau yn ymddangos gyda’r label Crëwyd gan fyfyriwr ar brif dudalen Trafodaethau. Gallwch aildrefnu trafodaethau myfyrwyr er mwyn i bob un ohonynt ymddangos gyda’i gilydd neu eu symud i ffolder.

Pan fydd aelodau cwrs yn agor trafodaeth, rhestrir yr awdur yn y panel ochr.

Gall myfyrwyr olygu neu ddileu eu postiadau eu hunain a gallant ddileu eu trafodaethau eu hunain os nad yw neb wedi ymateb.


Trafodaethau neu sgyrsiau?

Er gallwch ddefnyddio trafodaethau dosbarth i ddatblygu neu rannu syniadau, gallwch hefyd ddefnyddio sgyrsiau am gyfnewidiadau cyflym ar gynnwys penodol. Er enghraifft, pan fyddwch yn creu aseiniadau, gallwch alluogi sgyrsiau. Gall unrhyw un wneud cyfraniad at y sgwrs ar yr aseiniad-gofyn am gymorth, rhannu ffynonellau, neu ateb cwestiynau sydd gan bobl eraill. Gall pawb ddarllen y sgyrsiau wrth iddynt weld yr aseiniad.

Mae sgyrsiau'n ymddangos gyda'r eitem gynnwys berthnasol yn unig ac nid ydynt yn ymddangos ar y dudalen sgyrsiau.