Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Gallwch greu cynnwys sy'n cyfuno amrywiaeth o ddeunyddiau i'w gweld gyda'i gilydd, megis testun, eitemau amlgyfrwng ac atodiadau.

Gallwch greu dogfen neu eitem o gynnwys o gyfuniad o elfennau gweledol neu destun. Gall dogfen fod mor syml ag un llinell o destun neu gyfuniad o elfennau. 

Er enghraifft, fel un ddogfen, gallwch gynnwys testun cyflwyniadol ar gyfer gwers, delwedd y gall eich myfyrwyr ei gweld a rhyngweithio â hi, a dolenni i adnoddau ar y we. Caiff y deunyddiau eu cyflwyno gyda'i gilydd yn y rhestr o gynnwys. Yr hiraf eich eitem o gynnwys, y mwyaf bydd rhaid i'ch myfyrwyr sgrolio i weld yr holl ddeunyddiau eraill yn yr ardal gynnwys.

Crëir dogfennau gydag amrywiaeth o fathau o flociau. Mae llawer o opsiynau ar gyfer dylunio cynnwys ac mae gennych reolaeth dros amrywiaeth o elfennau gweledol. 

Full view of an enhanced Document with blocks filled with text and images

Mae mynediad i Ddogfennau yn cael eu pennu gan rolau cwrs. Mae gan y rolau cwrs canlynol y fraint o olygu Dogfen:

  • Cwrs/Mudiad (Meysydd Cynnwys) > Golygu Deunyddiau

Mae gan y rolau cwrs canlynol y fraint o ychwanegu, golygu neu ddileu Gwiriadau Gwybodaeth mewn Dogfen:

  • Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Offer) > Profion, Arolygon a Chronfeydd > Profion
  • Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Offer) > Profion, Arolygon a Chronfeydd > Profion > Adeiladu Prawf
  • Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Offer) > Profion, Arolygon a Chronfeydd > Profion > Dileu Prawf

Ar y dudalen hon, gallwch ddysgu am: 


Gwylio fideo am Greu Dogfen

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.

Fideo: Creu Dogfen

 

Creu Dogfen

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gallwch greu dogfen neu dudalen i gynrychioli cyfuniad o gynnwys. Gallwch gynnwys testun cyflwyniadol ar gyfer gwers, ffeil sain o ddarlith, a delwedd. Pan fydd myfyrwyr yn dewis teitl y ddogfen, bydd y deunyddiau ychwanegoch chi oll yn cael eu cyflwyno ar un dudalen. Bydd myfyrwyr yn gweld y cynnwys yn union fel rydych chi'n ei weld, heb yr opsiynau golygu.

Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych am ychwanegu'ch dogfen. Yn y ddewislen, dewiswch Creu i agor y panel Creu Eitem a dewiswch Dogfen. Bydd y dudalen Dogfen Newydd yn agor.

Gallwch hefyd ehangu neu greu ffolder neu fodiwl dysgu ac ychwanegu dogfen.

Course Content page, with the Create Item dropdown open

Gwiriadau Gwybodaeth yn Nogfennau Blackboard

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.

Fideo: Gwiriadau Gwybodaeth yn Nogfennau Blackboard

 

 

Ychwanegu cynnwys

Gallwch ddylunio Dogfennau drwy ddewis o amrywiaeth o fathau o flociau. 

Block options for a Document
  • Bloc cynnwys 
    Ychwanegu cynnwys drwy'r golygydd cynnwys. 
  • Gwiriad gwybodaeth
    Ychwanegu gwiriad gwybodaeth. Mae gwiriadau gwybodaeth yn profi dealltwriaeth myfyrwyr o ddogfen trwy ofyn cwestiwn amlddewis neu amlateb. Mae gwiriadau gwybodaeth yn cynnwys:
    • Adborth: Gallwch darparu adborth ar atebion cywir ac anghywir ymlaen llaw
    • Rhyngweithiad myfyrwyr: Bydd myfyrwyr yn cael adborth ar unwaith i roi gwybod iddynt a yw eu hateb yn gywir neu'n anghywir. Mae gwiriadau gwybodaeth yn caniatáu ymgeisiau diderfyn.
    • Metrigau: Mae gennych fynediad i fetrigau manwl am sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â'r gwiriad gwybodaeth.
  • Bloc HTML 
    Ychwanegu cynnwys drwy HTML neu CSS yn y Ddogfen. 
    Sylwer: Mae'n rhaid i weinyddwr ffurfweddu parth amgen er mwyn i'r bloc HTML ymddangos. Dysgu mwy am osod parth amgen. 
  • Bloc uwchlwytho ffeil 
    Pori am ffeiliau ar y peiriant lleol i'w huwchlwytho i'r Ddogfen. 
    Sylwer: Gall gweinyddwyr ddiffinio maint mwyaf ffeiliau y gall defnyddwyr eu huwchlwytho. 
  • Bloc uwchlwytho o'r cwmwl 
    Mewngofnodi i wasanaeth cwmwl a dewis ffeil i'w hychwanegu at y Ddogfen. 
  • Bloc Casgliad o Gynnwys 
    Porir Casgliad o Gynnwys a dewis ffeil i'w hychwanegu at y Ddogfen. 
  • Trosi bloc ffeil 
    Pori am ffeiliau ar eich peiriant lleol. Pan fydd wedi'i dewis, bydd y system yn trosi'r ffeil yn fformat y Ddogfen. Mae mathau o ffeiliau a gefnogir yn cynnwys ffeiliau PDF, PowerPoint (ppt, pptx, pps), a Word (doc, docx, odt). Dylid adolygu cynnwys a drosir i sicrhau ei fod yn gywir.
    Sylwer: Yn y rhyddhad hwn, mae'r opsiwn i drosi ffeil dim ond ar gael yn y prif fan awduro. Yn y panel Ychwanegu Cynnwys (y ddewislen +), nid yw'r opsiwn i drosi ffeil yn ymddangos. Byddwn yn newid hyn mewn rhyddhad yn y dyfodol. 

Gallwch hefyd agor y panel ar y chwith drwy ddewis y + a dewis y bloc o'ch dewis. 

Gallwch hefyd ddefnyddio’r golygydd i blannu delweddau ac atodi ffeiliau ynghyd â’ch testun. I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.

Bar dewislen y ddogfen

Bydd bar y ddewislen yn parhau i fod i'w weld wrth i chi sgrolio'r Ddogfen i weld, ychwanegu neu olygu cynnwys. Bydd bar y ddewislen yn cynnwys yr opsiwn Golygu pan fydd yn y cyflwr gweld. Ar ôl dewis Golygu, mae bar y ddewislen yn dangos yr opsiynau canlynol: 

  • Golygu 
  • Ychwanegu Blociau 
  • Dadwneud/Ailwneud 
  • Canslo 
  • Cadw 
A document with the + icon to add a new block displayed

Ailfeintio a symud blociau 

Gallwch greu cynlluniau apelgar drwy ailfeintio a llusgo/gollwng blociau i golofnau a rhesi. 

  • Mae pob rhes yn cynnwys dewislen ag opsiynau i symud neu ddileu'r bloc. 
  • Mae pob bloc yn cynnwys dewislen ag opsiynau i olygu, symud neu ailfeintio, neu ddileu'r bloc. 
Movement options expanded in a document

Cynhyrchu delweddau'n awtomatig

Os yw eich sefydliad wedi troi'r Nodwedd AI Design Assistant ymlaen, gallwch fewnosod delweddau a gynhyrchir gan AI neu ddelweddau stoc yn uniongyrchol yn y golygydd testun drwy ddewis y botwm Delwedd. Gweld y pwnc "AI Design Assistant" i ddysgu mwy am y nodwedd.

Pan fyddwch yn defnyddio Unsplash, bydd y termau chwilio yn cael eu llenwi'n awtomatig yn seiliedig ar eich testun. Gallwch ddewis y botwm X a defnyddio'ch termau chwilio eich hun os byddai'n well gennych.

Image of the Insert Image popup options for Unsplash

Gyda'r AI Design Assistant, gallwch gynhyrchu delwedd i'w mewnosod yn eich testun. Rhowch ddisgrifiad ar gyfer eich delwedd ac wedyn dewiswch Cynhyrchu.

Image of the Insert Image panel, with AI options displayed

Gall myfyrwyr ddim ond uwchlwytho delweddau yn unig ac ni allant gynhyrchu delweddau na defnyddio Unsplash.

Addasu ymddangosiad delwedd

Ar ôl i chi ddewis delwedd i'w mewnosod, dewiswch Nesaf. Gallwch nawr addasu sut mae'r ddelwedd yn ymddangos yn y testun.

Image of the Aspect Ratio and zoom options on the Insert Image panel

Gallwch ddewis cymhareb agwedd ar gyfer y ddelwedd. Gallwch gadw'r gymhareb agwedd wreiddiol, neu ei throsi i gael ei dangos ar draws neu ar i fyny. Mae'r llinellau grid gwyn yn dangos i chi pa ran o'r ddelwedd wreiddiol a gaiff ei dangos ar sgriniau.

Hefyd, mae gennych yr opsiwn i addasu'r llithrydd i nesáu neu bellhau, a gallwch ddewis a llusgo'r llinellau grid i newid y ffocws.

Dewiswch Nesaf pan fyddwch yn barod i fewnosod y ddelwedd.

Image of the Edit File Options panel, showing the Accessibility and File Options

Mae'n rhaid i chi roi enw arddangos. Rydym yn argymell ychwanegu testun amgen hefyd, i wneud y ddelwedd yn hygyrch i ddefnyddwyr sy'n defnyddio darllenyddion sgrin.

Yn ddiofyn, gall defnyddwyr weld a lawrlwytho'r ddelwedd. Os dewiswch Lawrlwytho yn unig ar gyfer y ddelwedd, dangosir dalfan ar sgriniau defnyddwyr nes bod defnyddwyr yn lawrlwytho'r ddelwedd.

Image of the Placeholder symbol with the display name of the image

Gwelededd y ddogfen

  • Dangos neu guddio'r ddogfen. Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld dogfen tan i chi dewis ei dangos. Gallwch greu'ch holl gynnwys ymlaen llaw a dewis beth rydych chi eisiau i fyfyrwyr ei weld yn seiliedig ar eich amserlen. Gallwch hefyd bennu amodau argaeledd yn seiliedig ar ddyddiad, amser a pherfformiad ar eitemau eraill yn llyfr graddau’r cwrs. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gall myfyrwyr weld pryd y bydd y ddogfen ar gael.

Gosodiadau'r ddogfen

  • Caniatáu sgyrsiau dosbarth. Beth os oes gan eich myfyrwyr gwestiynau? Gallwch ganiatáu sgyrsiau o fewn dogfen, ac mae unrhyw yn gallu cyfrannu. Dewiswch Gosodiadau i agor panel Gosodiadau'r Ddogfen a dewiswch flwch ticio sgyrsiau. Wrth i'r sgwrs ddatblygu, mae'n ymddangos gyda'r ddogfen yn unig.

    Rhagor am sgyrsiau

  • Ychwanegu nodau a safonau. Gallwch chi a'ch sefydliad ddefnyddio nodau i fesur cyflawniad myfyrwyr ar draws rhaglenni a chwricwla. Pan fyddwch yn creu dogfen, gallwch alinio un nod neu ragor. Yn y ddogfen, dewiswch Gosodiadau. Dewiswch Alinio gyda nodau i chwilio am nodau sydd ar gael i'w alinio gyda'r ffeil. Ni fydd myfyrwyr yn gallu gweld y nodau y byddwch yn eu halinio gyda dogfen.

    Rhagor am sut i alinio nodau â chynnwys cwrs

  • Ychwanegu disgrifiad dewisol. Bydd y disgrifiad yn ymddangos gyda theitl y ddogfen ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dyma le y gallwch roi mwy o wybodaeth am y ddogfen i fyfyrwyr neu roi cyfarwyddiadau ychwanegol.  

    Hyd mwyaf disgrifiad yw 750 nod.

Image of Document Settings panel with example text typed in Description field

Cyfrif geiriau yn y golygydd

Wrth i chi roi testun yn y golygydd, mae'r cyfrif geiriau yn ymddangos dan y golygydd. Ar ôl i chi gadw, nid ymddengys y cyfrif geiriau bellach.

Cynhwysir yr eitemau hyn yn y cyfrif geiriau:

  • Geiriau unigol
  • Dolenni Gwe
  • Testun yn rhestrau â bwledi neu rifau, ond ni chynhwysir y bwledi neu rifau eu hunain
  • Testun uwchysgrif ac isysgrif nid yw'n rhan o air

Nid yw'r eitemau nac elfennau ffurfweddu hyn yn effeithio ar y cyfrif geiriau:

  • Delweddau, fideos ac atodiadau ffeil
  • Fformiwlâu mathemateg
  • Bylchau a llinellau gwag
  • Testun amgen

Pan ddefnyddiwch atalnodi i atodi geiriau neu rifau, bydd effaith ar y cyfrif. Er enghraifft, caiff "Aethom ni...hebddoch chi" ei gyfrif fel tri gair. Cyfrifir y geiriau neu rifau ar bob ochr yr atalnodi fel un gair.

Ychwanegu HTML

Ychwanegu HTML neu CSS personol

Yn y Wedd Cwrs Ultra, wrth alluogi parth amgen ar gyfer eich safle, gallwch bellach ddefnyddio HTML neu CSS personol mewn dogfen.  Dewiswch Ychwanegu HTML fel bloc newydd i blannu golygydd HTML mewnol gan drydydd parti yn y ddogfen. Gallwch ysgrifennu neu ludo cod HTML yn y golygydd a dewis Cadw. Anfonir yr HTML wedi’i amgodio i Learn yn BbML er dyfalwch. Bydd yr HTML yn cael ei ddynodi yn y BbML â data-bbtype newydd. Os byddwch yn llwytho BbML a grëwyd yn flaenorol sy’n cynnwys HTML yn y modd darllen-yn-unig, llwythir yr HTML o barth arall mewn iframe.

Mae pecyn CodeEditor newydd yn delio â phob un o'r ffeiliau a fewngludir sydd eu hangen ar y golygydd trydydd parti ac yn safoni ffurfweddiadau'r golygydd. Fel arall, bydd y pecyn yn amlapio dull chwistrellu ei hun y golygydd mewn elfen DOM. Bydd cyfarwyddebau ac ategion sy’n plannu’r golygydd ar y dudalen yn dibynnu ar y pecyn.

 


Gwirydd Hygyrchedd Ultra (Wedi'i bweru gan Ally)

Mae cynnwys hygyrch yn sicrhau cynhwysiant ac ymgysylltiad ystyrlon ar gyfer dysgwyr gwahanol. I greu cynnwys hygyrch yn eich dogfennau, gallwch ddefnyddio'r Gwirydd Hygyrchedd Ultra (wedi'i bweru gan Ally).  

Mae'r Gwirydd Hygyrchedd Ultra yn sganio cynnwys yn y golygydd cynnwys cyfoethog ar gyfer dogfennau i adnabod problemau hygyrchedd. Mae'n cynnig esboniadau am y problemau hyn ac yn cynnig trwsiadau cyflym i fynd i'r afael â nhw, gan wneud eich cynnwys yn hygyrch.  

Mae Ally yn gynnyrch â thrwydded sy'n cael ei integreiddio â System Rheoli Dysgu i wella hygyrchedd i chi a'ch myfyrwyr. Mae gallu'r Gwirydd Hygyrchedd Ultra wedi'i gynnwys yn Learn Ultra yn barod. Nid oes angen trwydded Ally ar eich sefydliad i ddefnyddio'r Gwirydd Hygyrchedd Ultra.  

Rhagor am Wirydd Hygyrchedd Ultra (Wedi'i bweru gan Ally) 

Instructor view - Ultra Document content editor with Score Gauge indicator

Golygu, aildrefnu a dileu Dogfennau

Gallwch wneud newidiadau i ddogfennau sydd eisoes yn bodoli a newid lle maent yn ymddangos ar eich tudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch res y ddogfen rydych eisiau ei symud a'i llusgo i leoliad newydd. Gallwch hefyd symud dogfen i mewn i ffolder ehangedig.

Image of Course Content item with tab box surrounding Move icon

Gallwch ddefnyddio'ch bysellfwrdd i symud dogfen.

  1. Tabiwch i fotwm Symud eitem.
  2. Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
  3. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
  4. Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.

Mewn rhes dogfen, agorwch y ddewislen a dewiswch Golygu neu Dileu.

Image of Course Content item with box surrounding edit and delete icon

Dileu Dogfennau

Gallwch ddileu dogfen o'ch cwrs neu ei chuddio o fyfyrwyr er mwyn cadw'r wybodaeth. Nid yw myfyrwyr yn gallu cael mynediad at aseiniadau cudd ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Golygu Dogfennau a ffeiliau amlgyfrwng

Yn seiliedig ar elfen y ddogfen, gallwch ei symud, ei olygu, ei dileu neu ei lawrlwytho.

Agorwch ddewislen elfen er mwyn cael mynediad at yr opsiynau. Pwyswch y botwm Symud i symud elfen i leoliad newydd ar dudalen y ddogfen.

Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych chi eisiau ychwanegu ffeil neu floc testun arall ar dudalen y ddogfen.

Opsiynau gweld ffeiliau amlgyfrwng

Os yw'ch porwr yn caniatáu ffeiliau amlgyfrwng mewnol, mae'r ffeiliau amlgyfrwng a ychwanegwch at Ddogfennau'n ymddangos yn fewnol yn ddiofyn. Fel arall, maent yn ymddangos fel atodiad.

Mae delweddau sy’n ymddangos yn fewnol wedi'u plannu mewn bloc 768 picsel ar y torbwyntiau mwyaf. Yr agosaf yw'r delweddau i'r maint hwnnw, y lleiaf o badin sy'n ymddangos o'u hamgylch.

Gallwch hefyd ychwanegu testun amgen i ddisgrifio'r delweddau a ychwanegwch. Caiff y testun amgen ei darllen yn uchel gan ddarllenwyr sgrin ac mae'n helpu disgrifio beth nad yw rhai defnyddwyr yn gallu gweld.

Gallwch olygu gosodiadau'r ffeil, gan gynnwys yr enw arddangos, y testun amgen, a'r ymddygiad arddangos. Dewiswch a ydych eisiau mewnosod y ffeil fel dolen yn y golygydd neu blannu'r ffeil yn uniongyrchol er mwyn iddi ymddangos gyda'r cynnwys arall a ychwanegoch. I olygu testun amgen neu ymddygiad dangos y ffeil, dewiswch y ffeil yn y golygydd ac wedyn dewiswch Golygu Atodiad.

Yn y rhan fwyaf o borwyr, gallwch ddewis y lleoliad mae’r ffeiliau rydych yn eu hagor mewn cyrsiau yn cael eu lawrlwytho iddo. Er enghraifft, yn Chrome, ewch i Settings > Advanced > Downloads. Gallwch ddewis y lleoliad ar gyfer lawrlwytho ffeiliau a dewis a ydych eisiau i'r porwr ofyn bob tro. Yn Safari, mae gennych yr un galluoedd. Ewch i Preferences > General > File download location. Gallwch chwilio ar y rhyngrwyd i ddysgu am ddewisiadau lawrlwytho ffeiliau ym mhorwyr eraill.


Ychwanegu sain a fideo gan ddefnyddio Stiwdio Fideos

Mae Stiwdio Fideos yn offeryn sain/fideo i'ch helpu i greu profiad dysgu sy'n fwy atyniadol i fyfyrwyr. Mae'r datrysiad ysgafn ac integredig iawn yn rhoi'r gallu i ddefnyddwyr recordio neu uwchlwytho recordiadau sain a fideo o fewn Dogfennau gwell.

Am fanylion am Stiwdio Fideos, ewch i'r pwnc Help Stiwdio Fideos ar gyfer hyfforddwyr.

Gall gweinyddwyr system ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer gosodiadau a ffurfweddu ar y dudalen Stiwdio Fideos ar gyfer Gweinyddwyr.

Instructor getting ready to record a video

Deall beth sy'n digwydd yn ystod copïo a mewngludo

Gallwch fewngludo cwrs neu gopïo'r holl gynnwys o un o'ch cyrsiau ar y system i gwrs arall. Caiff y cynnwys newydd ei ychwanegu at ddiwedd rhestr cynnwys y cwrs rydych ynddo.

Wrth gopïo dogfen gyda gwiriad gwybodaeth o'r panel Gweinyddu, mae'n rhaid copïo'r cwrs cyfan. Ni chefnogir copi gronynnog ar gyfer gwiriadau gwybodaeth o'r panel Gweinyddu, ond gallwch wneud copïau gronynnog o'ch cwrs.

Rhagor am fewngludo cynnwys

Rhagor am gopïo cwrs neu gopïo cynnwys o gyrsiau Ultra eraill

Pan fyddwch yn mewngludo cynnwys Gwreiddiol neu'n dewis cael rhagolwg o'ch cwrs Gwreiddiol yng Ngwedd Cwrs Ultra, caiff eitemau cynnwys eu trosi yn Ddogfennau. Bydd unrhyw destun, atodiadau a dolenni a ychwanegoch yn y golygydd yn cael eu trosi a bydd ffeiliau amlgyfrwng yn agor yn fewnol yn ddiofyn. Bydd ffeiliau a ychwanegoch fel atodiadau yn yr adran ar ôl y golygydd Gwreiddiol yn cael eu grwpio gyda'i gilydd yn nhrefn yr wyddor ar ddiwedd y ddogfen. Bydd ffeiliau amlgyfrwng yn agor yn fewnol yn ddiofyn. Gallwch olygu delweddau, fideos a ffeiliau sain i newid y drefn ddiofyn a gallwch newid teitl unrhyw ffeil. Bydd angen i fyfyrwyr lawrlwytho rhai mathau o gynnwys er mwyn eu gweld.

Mwy ar eitemau cynnwys Gwreiddiol

Adolygwch y ddogfen oherwydd efallai bydd ychydig o'r fformatio wedi cael ei golli yn ystod y broses o drosi. Er enghraifft, os ychwanegoch chi deitl at un o'ch ffeiliai yn y Wedd Cwrs Wreiddiol, efallai ni fydd y teitl yn ymddangos yn Ultra. Gallwch olygu'r ffeil i newid enw'r ffeil. Gallwch aildrefnu'r eitemau yn y ddogfen yn ôl yr angen.