Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Chwlio am gynnwys cwrs yn ôl teitl

Gallwch chwilio am eitemau yn ôl y teitl ar dudalen Cynnwys y Cwrs.  Dewiswch fotwm y chwyddwydr yng nghornel dde uchaf y dudalen i ehangu'r botwm i agor bar chwilio.

Image of main course content page with magnifying glass icon on right side

Yn y bar chwilio, teipiwch ychydig o lythrennau cyntaf yr allweddair sy'n gysylltiedig â'r eitem rydych yn chwilio amdani.

Image of course content search bar at top part of course content page

Mae'r swyddogaeth chwilio am gwrs yn dangos teitlau'r eitemau sy'n cyfateb wrth i chi deipio llythrennau. Dewiswch yr eitem o'r rhestr i agor y cynnwys cyfatebol.

Delwedd o'r bar chwilio am gynnwys cwrs yn dangos eitemau rhestr sy'n cyfateb i'r llythrennau a deipiwyd yn y bar chwilio

Dewiswch y ddolen Dangos pob canlyniad eitem ar waelod y rhestr i ddangos gwedd fanwl o'r holl eitemau sy'n cyfateb. Dewiswch yr eitem yr hoffech ei gweld.

I wneud chwiliad newydd, dewiswch y botwm 'X' yn y bar chwilio i glirio'r ymholiad blaenorol. Gallwch hefyd ddileu cynnwys y bar chwilio a theipio allweddair arall.

Delwedd o restr fanwl o ganlyniadau'r chwiliad

Dewiswch y ddolen Clirio'r Chwiliad ger cornel chwith uchaf y rhestr i glirio'r rhestr fanwl o ganlyniadau chwilio. Byddwch yn mynd yn ôl i'r dudalen Cynnwys y Cwrs lawn.

Mae dangosydd y chwiliad yn gweithredu mewn ffordd wahanol pan nad yw'r porwr yn y modd sgrin lawn. 

Golygu, disodli, dileu ac aildrefnu cynnwys

Golygu, disodli a dileu

Gallwch wneud newidiadau i eitemau cynnwys sydd eisoes yn bodoli ar eich tudalen Cynnwys y Cwrs. Yn rhes eitem, dewiswch fotwm y ddewislen i gyrchu'r swyddogaethau Golygu a Dileu.

Image of Course Content item with box surrounding edit and delete icon

Golygu neu ddisodli ffeiliau. I olygu neu ddisodli ffeiliau, dewiswch y botwm tri dot ar ochr dde'r eitem rydych eisiau gweithio gyda hi. Bydd hyn yn agor panel a fydd yn caniatáu i chi olygu:

  • Enw arddangos. Dewiswch yr enw arddangos ar frig y panel i olygu'r enw a gaiff ei ddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs ar gyfer eich eitem. 
  • Ychwanegu nodau a safonau. Gallwch chi a'ch sefydliad ddefnyddio nodau i fesur cyflawniad myfyrwyr ar draws rhaglenni a chwricwla. Ar ôl i chi uwchlwytho ffeil yn llwyddiannus, gallwch alinio un nod neu ragor. Dewiswch y botwm tri dot ar ochr dde'r eitem rydych eisiau gweithio gyda hi a dewiswch Golygu. Yn y panel, dewiswch Alinio â nodau i chwilio am y nodau sydd ar gael i'w halinio â'r ffeil.

Ni all myfyrwyr weld y nodau rydych yn eu halinio â ffeil.

  • Disodli'r ffeil. Defnyddiwch yr opsiwn hwn i roi un ffeil yn lle ffeil arall. Er enghraifft, efallai eich bod yn dod o hyd i fersiwn â chydraniad uwch o ddelwedd a uwchlwythoch. Os yw'r ffeil dan sylw yn cael ei dangos mewn sawl lleoliad yn y cwrs, mae neges yn gofyn a ydych am ddisodli'r ffeil ym mhob enghraifft neu ddim ond yr enghraifft hon. Ni chedwir yr hen ffeil pan gaiff ei disodli gan y fersiwn newydd, oni bai eich bod yn ei disodli mewn un enghraifft yn unig. Mae hyn yn rhyddhau lle storio ar gyfer eich sefydliad. 
  • Ychwanegu disgrifiad. Mae'r disgrifiad yn ymddangos dan yr enw arddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dyma le y gallwch roi mwy o wybodaeth am yr eitem i fyfyrwyr. Hyd mwyaf disgrifiad yw 750 nod. Bydd rhybudd yn ymddangos dan faes y disgrifiad pan fydd 75 nod neu lai yn weddill.
  • Golygu mynediad myfyrwyr at ffeil. Gallwch olygu gallu myfyrwyr i lawrlwytho neu weld y ffeil. 

Dileu ffeiliau. Gallwch ddileu eitem o’ch cwrs neu ei guddio rhag myfyrwyr i gadw’r wybodaeth. Ni all myfyrwyr gyrchu eitemau cudd ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Os byddwch yn dileu ffolder neu fodiwl dysgu sydd â chynnwys, caiff y cynnwys ei dynnu o dudalen Cynnwys y Cwrs hefyd.

Aildrefnu cynnwys ar dudalen Cynnwys y Cwrs 

Dewiswch res yr eitem rydych eisiau ei symud a'i llusgo i leoliad newydd. Gallwch hefyd symud cynnwys i mewn i ffolder. Ehangwch y ffolder a llusgwch yr eitem i’r maes dan deitl y ffolder.

Mae Learn Ultra yn cefnogi hyd at dri lefel o hierarchaeth ar gyfer nythu cynnwys ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Er enghraifft, mae ffolder mewn ffolder yn ddau lefel. Mae ffolder mewn ffolder mewn modiwl dysgu yn enghraifft o dri lefel. Mae gan eich sefydliad yr opsiwn i ychwanegu un lefel ychwanegol o nythu cynnwys mewn cyrsiau ar draws y sefydliad. Gofynnwch i'ch gweinyddwr Ultra a yw eich sefydliad yn defnyddio'r opsiwn hwn.

Image of Course Content item with tab box surrounding Move icon

Gan ddefnyddio eich bysellfwrdd, gallwch symud eitem i leoliad newydd a symud eitem i mewn i ffolder.

  1. Tabiwch i fotwm symud eitem (mae'r botwm yn ddwy saeth fertigol: un yn pwyntio i fyny, un yn pwyntio i lawr).
  2. Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
  3. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
  4. Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.

Yn rhes eitem, agorwch y ddewislen i gyrchu'r swyddogaethau Golygu a Dileu.


Rheoli argaeledd cynnwys

Gallwch osod pob darn o gynnwys y cwrs i fod yn weladwy i fyfyrwyr neu wedi’i guddio rhagddynt yn hwylus. Gallwch wneud y gosodiad hwn pan fyddwch yn creu pob darn o gynnwys, neu gallwch wneud newid ar ôl i’r cynnwys ymddangos yn eich cwrs.

Trwy ddangos yn amlwg pa mor weladwy yw pob eitem, gallwch chi fod yn hyderus nad ydych chi’n dangos cynnwys sydd ddim yn barod eto i fyfyrwyr. Mae gennych chi’r hyblygrwydd i arbrofi â chynnwys cyn i chi ei ryddhau i fyfyrwyr. Er enghraifft, efallai byddwch yn dangos dim ond wythnos gyntaf y cynnwys – a chadw’r gweddill yn gudd wrth i chi ei fireinio.

Gyda'ch bysellfwrdd, tabiwch i'r rhestr welededd a gwasgwch Enter i agor y ddewislen. Defnyddiwch Alt/Option a'r saethau i fyny ac i lawr i ddewis opsiwn.

Ni all myfyrwyr gyrchu eitemau i ymddangos ar ddyddiadau yn y dyfodol, ond gallant weld y rhain yn y rhestr. Gallwch hefyd greu rheolau i ryddhau cynnwys yn seiliedig ar sut mae myfyriwr yn perfformio ar eitemau eraill yn eich cwrs.

Ally yn Learn - Hyfforddwr

Gweld a gwella hygyrchedd cynnwys

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae'ch dosbarth yn llawn myfyrwyr amrywiol sydd â galluoedd dysgu unigryw. Mae darparu cynnwys gwreiddiol mwy hygyrch i fyfyrwyr yn golygu eu bod pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddynt. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.

Mae dangosyddion sgôr hygyrchedd a fformatau amgen yn ymddangos nesaf at ddogfennau a phrofion cwrs.

Dechrau arni gydag Ally

  1. Canfod y cynnwys rydych eisiau ei wella.
  2. Nesaf at y cynnwys mae eicon sy’n dangos y sgôr hygyrchedd.
  3. Dewiswch eicon y sgôr i ddysgu sut i wella’r sgôr hygyrchedd.
  4. Bydd Ally yn agor ac yn dangos camau i chi ar sut i olygu'ch cynnwys er mwyn gwella'i hygyrchedd a'i optimeiddio ar gyfer fformatau amgen.

Sut mae gwella hygyrchedd yng nghynnwys cyrsiau

Nid yw myfyrwyr yn gweld sgôr hygyrchedd y cynnwys. Yn hytrach, gall myfyrwyr ddewis y fformatau amgen mae Ally yn eu cynhyrchu ar gyfer y cynnwys. Gallwch helpu Ally i greu fformatau amgen gwell trwy ddilyn arferion gorau ar gyfer creu cynnwys hygyrch.

Gweld fformatau amgen

Ar ôl i chi ychwanegu cynnwys at gwrs, bydd Ally yn creu fformatau amgen o'r cynnwys yn seiliedig ar y ffeil wreiddiol. Er enghraifft, os mai PDF yw'r cynnwys gwreiddiol, bydd Ally yn creu fformatau sain, braille electronig ac ePub o'r un cynnwys. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r ffeil wreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.

Mae'r fformatau amgen a grëir yn dibynnu ar y math o gynnwys gwreiddiol. Os nad ydych yn gweld opsiwn i lawrlwytho fformatau amgen, nid yw Ally wedi'i alluogi ar gyfer y cwrs hwnnw neu ni chefnogir y math hwnnw o gynnwys.

Canfod cynnwys yn eich cwrs. Dewiswch y ddewislen nesaf at y ffeil a dewiswch Fformatau Amgen. Dewiswch y fersiwn sydd orau i'ch anghenion chi! Dewiswch Lawrlwytho i gadw'r fformat amgen ar eich dyfais.

student view of Download alternative formats modal

Rhagor am fformatau amgen cynnwys cyrsiau