Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Yn Learn Ultra, mae gennych nifer o ffyrdd o ychwanegu ffeiliau a chyfryngau at eich cwrs. Gallwch ychwanegu ffeiliau yn uniongyrchol at dudalen Cynnwys y Cwrs , yn ogystal ag yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog mewn dogfennau ac asesiadau Ultra ac unrhyw le arall sy'n cynnwys swyddogaeth y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Dysgu rhagor am: 


Ychwanegu ffeiliau, delweddau, sain, a fideo at dudalen Cynnwys y Cwrs

Mae nifer o ffyrdd o ychwanegu ffeiliau a chyfryngau at dudalen Cynnwys y Cwrs. Gallwch bori am y ffeiliau a'u hychwanegu o'ch cyfrifiadur eich hun, o le storio yn y cwmwl, o'r Casgliad o Gynnwys, neu o'r Content Market.

Mae gennych yr opsiwn i roi breintiau gweld a lawrlwytho i fyfyrwyr pan fyddwch yn uwchlwytho ffeiliau a chyfryngau. Rhoddir gwybod i fyfyrwyr yn eu ffrydiau gweithgarwch pan fyddwch yn ychwanegu cynnwys.

Mae mathau o ffeil a gefnogir yn cynnwys DOC, DOCX, HTM, HTML, MP4, MPG, PDF, PPT, PPTX, XLS, XLSX, RTF, TXT, ZIP, a'r rhan fwyaf o fathau o ffeiliau delwedd.

Llusgo a gollwng ffeiliau a ffolderi. Gallwch uwchlwytho ffeiliau, a ffolderi sy'n cynnwys ffeiliau, o'ch cyfrifiadur eich hun i dudalen Cynnwys y Cwrs. Yn syml, dewch o hyd i'r ffolder neu'r ffeil(iau) rydych eisiau eu hychwanegu, wedyn llusgwch nhw a'u gollwng yn y lleoliad o'ch dewis ar dudalen Cynnwys y Cwrs

Image of a folder being dragged to the course content page with arrow pointing at folder

Unwaith ei bod wedi'i huwchlwytho, byddwch yn gweld yr eitem newydd wedi'i rhestru. Os ydych wedi uwchlwytho ffolder, gallwch ei hehangu i weld y ffeiliau unigol sydd ynddi. 

Image of Course Content page with box highlighting a folder item. An arrow is pointing to the files inside the expanded folder.

Pan gaiff ffeiliau a ffolderi eu hychwanegu at y dudalen, ni fydd modd i fyfyrwyr eu gweld yn ddiofyn. Gallwch olygu a all myfyrwyr eu gweld drwy ddewis y ddewislen gwelededd dan enw arddangos yr eitem.

Gallwch wneud golygiadau eraill drwy ddewis y botwm tri dot ar ochr dde'r eitem. Mae agor y ddewislen hon yn caniatáu i chi:

  • golygu'r enw arddangos
  • alinio â nodau
  • disodli'r ffeil
  • ychwanegu disgrifiad
  • golygu a all myfyrwyr weld neu lawrlwytho'r ffeil

Os byddwch yn llusgo ac yn gollwng mwy na 25 ffeil ar y tro, bydd rhybudd yn rhoi gwybod i chi y gallai gymryd ychydig o funudau i gwblhau'r broses uwchlwytho. Yn ystod y broses uwchlwytho, bydd modd canslo ar unrhyw bryd. Os yw'r broses uwchlwytho yn cael ei chanslo, dilëir y ffeiliau o dudalen Cynnwys y Cwrs.

Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch ddefnyddio'r offeryn i sicrhau bod cynnwys eich cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr. Mae dangosyddion sgôr hygyrchedd a fformatau amgen yn ymddangos wrth ochr ffeiliau. Dysgu rhagor am Ally yn nes ymlaen yn y pwnc hwn.

Fel arall, gallwch uwchlwytho ffeil drwy ddewis yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu eich ffeil. Yn y ddewislen a fydd yn agor, dewiswch Uwchlwytho i bori am ffeiliau ar eich cyfrifiadur. Mae'r dull hwn dim ond yn cefnogi uwchlwytho ffeiliau unigol, nid ffolderi.

Image of Course Content page with menu open to add files. Upload option is highlighted.

Ychwanegu ffeiliau o’r storfa cwmwl. Os oes gennych ffeiliau a storiwyd yn y cwmwl yn barod, megis yn OneDrive® neu Google Drive™, gallwch eu hychwanegu at eich cwrs. Dewiswch yr arwydd plws lle rydych eisiau uwchlwytho ffeiliau. Gallwch ddewis ffeiliau lluosog o storfa cwmwl i’w hychwanegu at eich tudalen Cynnwys y Cwrs mewn un weithred. Bydd y ffeiliau a ychwanegwch yn gopïau. Os ydych am olygu ffeil a gedwir ar eich storfa cwmwl, bydd angen i chi uwchlwytho copi newydd ohono i’ch cwrs. 

Rhagor am storfa cwmwl

Ychwanegu ffeiliau o'r Content Market. Gallwch ychwanegu ffeiliau o'r Content Market yn uniongyrchol at dudalen Cynnwys y Cwrs.  Dewiswch yr arwydd plws lle rydych eisiau uwchlwytho ffeiliau ac wedyn dewiswch Content Market. Bydd hyn yn agor tudalen gyda darparwyr cynnwys ac offer y sefydliad. Dewiswch yr offeryn trydydd parti rydych eisiau ei lansio a phori am gynnwys i’w ychwanegu.

Rhagor am y Content Market

Ychwanegu ffeiliau o’r Casgliad o Gynnwys. Os oes gennych ffeiliau wedi'u storio eisoes yn y Casgliad o Gynnwys, gallwch ychwanegu atynt yn eich cwrs. Dewiswch yr arwydd plws lle rydych eisiau uwchlwytho ffeiliau ac wedyn dewiswch Casgliad o Gynnwys. Mae hyn yn agor tudalen a fydd yn caniatáu i chi bori am ffeiliau yn y Casgliad o Gynnwys a ffeiliau eraill o'ch sefydliad.

Ni fydd dolenni i ddelweddau, ffeiliau PDF, neu ffeiliau eraill a gopïwyd a gludwyd o'r bar URL yn y Casgliad o Gynnwys yn gweithio.  Mae'r URLau hyn ar gael dros dro.

Rhagor am ychwanegu ffeiliau o'r Casgliad o Gynnwys

Rheoli beth mae myfyrwyr yn ei weld. Mae'r holl gynnwys wedi'i guddio rhag myfyrwyr hyd nes i chi benderfynu ei ddangos. Mae pob eitem a restrir ar dudalen Cynnwys y Cwrs yn nodi a all myfyrwyr ei gweld neu beidio. Golygu a all myfyrwyr eu gweld drwy ddewis y ddewislen gwelededd dan enw arddangos yr eitem.

Gallwch hefyd olygu gwelededd myfyrwyr gan ddefnyddio dim ond eich bysellfwrdd. Tabiwch i'r ddewislen gwelededd a phwyswch Enter i agor y ddewislen. Defnyddiwch Alt/Option + y saethau i fyny ac i lawr i ddewis opsiwn.

Golygu, disodli neu ddileu ffeiliau ar dudalen Cynnwys y Cwrs

Image of Course Content item with box surrounding edit and delete icon

Golygu neu ddisodli ffeiliau. I olygu neu ddisodli ffeiliau, dewiswch y botwm tri dot ar ochr dde'r eitem rydych eisiau gweithio gyda hi. Mae hyn yn agor panel a fydd yn caniatáu i chi olygu:

  • Enw arddangos. Dewiswch yr enw arddangos ar frig y panel i olygu'r enw a gaiff ei ddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs ar gyfer eich eitem. 
  • Ychwanegu nodau a safonau. Gallwch chi a'ch sefydliad ddefnyddio nodau i fesur cyflawniad myfyrwyr ar draws rhaglenni a chwricwla. Ar ôl i chi uwchlwytho ffeil yn llwyddiannus, gallwch alinio un nod neu ragor. Dewiswch y botwm tri dot ar ochr dde'r eitem rydych eisiau gweithio gyda hi a dewiswch Golygu. Yn y panel, dewiswch Alinio â nodau i chwilio am y nodau sydd ar gael i'w halinio â'r ffeil.

Ni all myfyrwyr weld y nodau rydych yn eu halinio â ffeil.

  • Disodli'r ffeil. Defnyddiwch yr opsiwn hwn i roi un ffeil yn lle ffeil arall. Er enghraifft, efallai eich bod yn dod o hyd i fersiwn â chydraniad uwch o ddelwedd a uwchlwythoch. Os yw'r ffeil dan sylw yn cael ei dangos mewn sawl lleoliad yn y cwrs, mae neges yn gofyn a ydych am ddisodli'r ffeil ym mhob enghraifft neu ddim ond yr enghraifft hon. Ni chedwir yr hen ffeil pan gaiff ei disodli gan y fersiwn newydd, oni bai eich bod yn ei disodli mewn un enghraifft yn unig. Mae hyn yn rhyddhau lle storio ar gyfer eich sefydliad. 
  • Ychwanegu disgrifiad. Mae'r disgrifiad yn ymddangos dan yr enw arddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dyma le y gallwch roi mwy o wybodaeth am yr eitem i fyfyrwyr. Hyd mwyaf disgrifiad yw 750 nod. Bydd rhybudd yn ymddangos dan faes y disgrifiad pan fydd 75 nod neu lai yn weddill.
  • Golygu mynediad myfyrwyr at ffeil. Gallwch olygu gallu myfyrwyr i lawrlwytho neu weld y ffeil. 

Dileu ffeiliau. Gallwch ddileu ffeil o’ch cwrs neu ei chuddio rhag myfyrwyr i gadw’r wybodaeth. Ni all myfyrwyr gyrchu eitemau cudd ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Os byddwch yn dileu ffolder neu fodiwl dysgu sydd â chynnwys, caiff y cynnwys ei dynnu o dudalen Cynnwys y Cwrs hefyd.

Aildrefnu eitemau. Gallwch aildrefnu dilyniant deunyddiau eich cwrs yn hawdd ar dudalen Cynnwys y Cwrs drwy lusgo a gollwng eitemau. Gallwch hefyd symud eitem i ffolder ehangedig yn yr un modd. Dewiswch res yr eitem rydych eisiau ei symud a'i llusgo i'r lleoliad o'ch dewis

Image of course content item being dragged to a new location.

Gallwch hefyd symud ac aildrefnu eitemau ar dudalen Cynnwys y Cwrs gan ddefnyddio dim ond eich bysellfwrdd. 

  1. Tabiwch i eicon symud eitem.
  2. Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
  3. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
  4. Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.

Image of Course Content item with tab box surrounding Move icon

Ally yn Learn - Hyfforddwr

Gweld a gwella hygyrchedd cynnwys

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae'ch dosbarth yn llawn myfyrwyr amrywiol sydd â galluoedd dysgu unigryw. Mae darparu cynnwys gwreiddiol mwy hygyrch i fyfyrwyr yn golygu eu bod pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddynt. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.

Mae dangosyddion sgôr hygyrchedd a fformatau amgen yn ymddangos nesaf at ddogfennau a phrofion cwrs.

Dechrau arni gydag Ally

  1. Canfod y cynnwys rydych eisiau ei wella.
  2. Nesaf at y cynnwys mae eicon sy’n dangos y sgôr hygyrchedd.
  3. Dewiswch eicon y sgôr i ddysgu sut i wella’r sgôr hygyrchedd.
  4. Bydd Ally yn agor ac yn dangos camau i chi ar sut i olygu'ch cynnwys er mwyn gwella'i hygyrchedd a'i optimeiddio ar gyfer fformatau amgen.

Sut mae gwella hygyrchedd yng nghynnwys cyrsiau

Nid yw myfyrwyr yn gweld sgôr hygyrchedd y cynnwys. Yn hytrach, gall myfyrwyr ddewis y fformatau amgen mae Ally yn eu cynhyrchu ar gyfer y cynnwys. Gallwch helpu Ally i greu fformatau amgen gwell trwy ddilyn arferion gorau ar gyfer creu cynnwys hygyrch.

Gweld fformatau amgen

Ar ôl i chi ychwanegu cynnwys at gwrs, bydd Ally yn creu fformatau amgen o'r cynnwys yn seiliedig ar y ffeil wreiddiol. Er enghraifft, os mai PDF yw'r cynnwys gwreiddiol, bydd Ally yn creu fformatau sain, braille electronig ac ePub o'r un cynnwys. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r ffeil wreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.

Mae'r fformatau amgen a grëir yn dibynnu ar y math o gynnwys gwreiddiol. Os nad ydych yn gweld opsiwn i lawrlwytho fformatau amgen, nid yw Ally wedi'i alluogi ar gyfer y cwrs hwnnw neu ni chefnogir y math hwnnw o gynnwys.

Canfod cynnwys yn eich cwrs. Dewiswch y ddewislen nesaf at y ffeil a dewiswch Fformatau Amgen. Dewiswch y fersiwn sydd orau i'ch anghenion chi! Dewiswch Lawrlwytho i gadw'r fformat amgen ar eich dyfais.

student view of Download alternative formats modal

Rhagor am fformatau amgen cynnwys cyrsiau


Mewnosod ffeiliau yn y golygydd

Gallwch uwchlwytho ffeiliau yn y golygydd mewn ardaloedd penodol o gwrs Ultra. Er enghraifft, gallwch gynnwys delwedd neu ddogfen i helpu myfyrwyr ddeall eich cyfarwyddiadau neu'ch ysgogiad cychwynnol yn well.

Mae'r golygydd ond yn cefnogi gwylio mewnol ar gyfer fideos yn y fformat MP4. Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho fideos sy'n defnyddio mathau eraill o ffeiliau, megis MOV neu MPEG. Ni allwch ychwanegu atodiadau yn y golygydd mewn eitemau calendr.

Dewiswch y botwm Atodi (sydd ar ffurf clip papur). Porwch am ffeil o'ch cyfrifiadur. Bydd ffenestr statws yn ymddangos i ddangos cynnydd uwchlwytho'r ffeil. Gallwch hefyd ychwanegu ffeiliau o storfa cwmwl drwy ddewis yr eicon plws. Gallwch hefyd lusgo ffeil o'ch cyfrifiadur a'i gollwng yn y golygydd:

  1. Dewiswch a daliwch fotwm y llygoden i lawr dros y ffeil rydych eisiau ei symud. 
  2. Symudwch y ffeil â'r llygoden neu'r pad cyffwrdd i'r golygydd. 
  3. Tynnwch eich bys oddi ar fotwm y llygoden a chaiff y ffeil ei symud.

Gallwch olygu gosodiadau'r ffeil, gan gynnwys:

  • enw arddangos
  • testun amgen
  • ymddygiad arddangos (a yw'r ffeil yn ymddangos fel dolen neu a oes modd ei gweld yn fewnol gyda chynnwys arall yn y golygydd)

Mewnosod delweddau yn y golygydd

Mewn rhai ardaloedd o gwrs Ultra, gallwch ddefnyddio swyddogaethau’r golygydd i ychwanegu delweddau ynghyd â chynnwys testun. Gallwch ychwanegu delweddau sydd wedi'u lletya ar-lein neu gallwch uwchlwytho delwedd o'ch gyriant lleol

Ychwanegu delweddau o'ch gyriant lleol. Llusgwch y ddelwedd o'ch cyfrifiadur a'i gollwng yn y golygydd: 

  1. Dewiswch a daliwch fotwm y llygoden i lawr dros y ffeil rydych eisiau ei symud. 
  2. Symudwch y ffeil â'r llygoden neu'r pad cyffwrdd i'r golygydd. 
  3. Tynnwch eich bys oddi ar fotwm y llygoden a chaiff y ffeil ei symud.

Ni allwch ychwanegu delweddau yn y golygydd mewn eitemau calendr.

Ychwanegu delweddau o'r we. Dewiswch Mewnosod Cynnwys (botwm yr arwydd plws) > Delwedd. Teipiwch neu gludwch URL delwedd i blannu delwedd a letyir ar-lein. Mae rhaid i chi ddefnyddio'r protocol http://. Cynhwyswch ddisgrifiad o'r ddelwedd yn y blwch Testun amgen ar gyfer darllenyddion sgrin a ddefnyddwyr na allant weld y ddelwedd. 

Ailfeintio a dileu delweddau

Ni chefnogir ailfeintio cyfryngau ar ddyfeisiau symudol.

Gallwch ailfeintio delweddau'n hawdd yn y golygydd. Mae mathau o gyfryngau sydd ar gael i'w hailfeintio hefyd yn cynnwys fideos a chyfryngau eraill a fewnosodwyd drwy URL.

  1. Unwaith bod delwedd wedi'i hychwanegu at y golygydd, dewiswch y ddelwedd honno â'ch cyrchwr. Bydd y ddelwedd a ddewiswyd yn dangos pedair dolen yn y corneli.
  2. Dewiswch un o'r dolennau a daliwch fotwm y llygoden i lawr wrth i chi lusgo'r ddolen i fwyhau neu leihau maint y ddelwedd.  
  3. Pan fyddwch yn fodlon ar y maint, tynnwch eich bys oddi ar fotwm y llygoden a dewiswch Cadw
Resize media by dragging corner handle

Gallwch hefyd ailfeintio delwedd drwy lywio â'r bysellfwrdd: 

  1. Gwnewch yn siŵr bod eich cyrchwr yn weithredol ar y sgrin Learn Ultra.
  2. Dewiswch y fysell tab nes i chi amlygu'r ddelwedd rydych eisiau ei hailfeintio. 
  3. Daliwch y fysell Shift i lawr a defnyddiwch y bysellau saethau i fwyhau neu leihau'r ddelwedd
  4. Pan fydd maint y ddelwedd wedi'i newid i'r maint o'ch dewis, tynnwch eich bys oddi ar y botwm Shift. 

Wrth ailfeintio, cofiwch ystyried y manylion hyn ar gyfer ailfeintio cyfryngau:

  • Mae pob ffeil gyfrwng sydd wedi'i hatodi neu wedi'i mewnosod drwy URL yn cynnal y gymhareb agwedd.
  • Mae pob ffeil gyfrwng yn cael ei halinio yn y canol.
  • Maint mwyaf y cyfryngau (100%) yw'r lled mwyaf mae'r golygydd cynnwys yn ei ganiatáu.
  • Maint lleiaf pob cyfrwng yw 200 o bicseli.

Dileu delwedd. Dewiswch y ddelwedd â'ch cyrchwr a bydd yr eicon dileu yn ymddangos yng nghornel dde uchaf y ddelwedd. Dewiswch yr eicon hwnnw i ddileu'r ddelwedd. Gallwch hefyd amlygu'r ddelwedd â'ch cyrchwr a dewis y fysell backspace.


Mewnosod cyfryngau yn y golygydd

Gallwch ddefnyddio’r opsiwn Mewnosod Cyfryngau i fewnosod ffeiliau cyfryngau a ffeiliau menter Office365 yn uniongyrchol yn y golygydd. Mae'r golygydd yn plannu'r cynnwys yn awtomatig gyda’r cynnwys arall rydych yn ei gynnwys. Gall myfyrwyr weld y cyfryngau, fel fideo, yn yr un ffenestr—ni fydd rhaid iddynt lywio i wefan y cyfryngau.

Gallwch blannu cynnwys o'r gwefannau hyn:

  • VidGrid
  • Panopto™
  • FlipGrid
  • SlideShare
  • Prezi
  • VoiceThread
  • Khan Academy
  • Kaltura
  • SoundCloud
  • Spotify®
  • Genial.ly
  • NearPod
  • Quizlet
  • EdPuzzle
  • H5P
  • Vimeo®
  • YouTube™
  • Office365

I ychwanegu cyfryngau: 

  1. Yn y golygydd, dewiswch Mewnosod Cynnwys > Cyfryngau.

  2. Gludwch URL y ffynhonnell o'r wefan.
  3. Ychwanegwch destun amgen sy'n disgrifio'r eitem ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin neu sy'n methu â llwytho'r cynnwys.
  4. Dewiswch Mewnosod. Mae'r eitem yn cael ei phlannu'n awtomatig yn y golygydd.

Ailfeintio cyfryngau. Gweler cyfarwyddiadau yn "Mewnosod delweddau yn y golygydd cynnwys."

Plannu ffeiliau menter Office365. Dewiswch Rhannu yn eich ffeil Office365 i greu dolen i'r ffeil. Dewiswch ba ganiatâd rydych eisiau ei roi i'r defnyddiwr a dewiswch Copïo’r Ddolen. Bydd hyn yn copïo'r ddolen i’ch clipfwrdd. I blannu’r cynnwys, dewiswch Mewnosod Cynnwys > Cyfryngau o'r golygydd. Gludwch y ddolen yn URL y Cyfryngau. Dewiswch Mewnosod.


Mewnosod fideo YouTube

Dewiswch Mewnosod Fideo YouTube i bori am ac ychwanegu fideos YouTube yn uniongyrchol yn y golygydd. Nid oes angen i chi adael eich cwrs i ganfod dolen. Gallwch ddewis dangos fideo fel dolen neu blannu'r fideo wrth ochr y cynnwys arall rydych wedi'i ychwanegu. Gall myfyrwyr wylio'r fideo o fewn yr un ffenestr—ni fydd rhaid iddynt lywio i YouTube.

Wrth fewnosod fideo yn y modd golygu, bydd eicon rhagolwg yn ymddangos yn y gornel dde uchaf i chwarae'r fideo mewn ffenestr arall tra eich bod yn y modd golygu. Mae hyn yn caniatáu i chi gael rhagolwg o'r fideo cyn i chi ei gadw. Mae'r eicon rhagolwg yn ymddangos sut bynnag rydych yn mewnosod cyfryngau. 

Ailfeintio fideo. Gweler cyfarwyddiadau yn "Mewnosod delweddau yn y golygydd cynnwys."

Dileu fideo. Dewiswch y fideo â'ch cyrchwr a bydd yr eicon dileu yn ymddangos yng nghornel dde uchaf y fideo. Dewiswch yr eicon hwnnw i ddileu'r fideo. Gallwch hefyd amlygu'r fideo â'ch cyrchwr a dewis y fysell backspace.

Resize media video play icon in edit mode

Rhagor am fewnosod fideos YouTube


Mewnosod recordiad adborth yn y golygydd

Gallwch blannu recordiadau sain a fideo o'ch adborth yn y golygydd wrth i chi raddio cyflwyniadau. Mae'r opsiwn recordio yn ymddangos yn y golygydd adborth ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau a raddir yn eich cwrs. Mae myfyrwyr yn gwylio neu'n gwrando ar eich adborth ochr yn ochr ag unrhyw destun a gynhwysir gennych.

Ni chefnogir y swyddogaeth hon ar bob porwr. Am y profiad gorau, defnyddiwch Chrome neu Firefox.

In the feedback panel, the expanded purple plus sign lets you insert feedback, and the  "Insert/Edit Recording" option is highlighted.

Rhagor am ychwanegu adborth sain/fideo


Mewnosod ffeiliau Content Market

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Y Content Market yw’ch porth i ddeunyddiau dysgu gwerthfawr o ddarparwyr cynnwys dibynadwy. Gallwch hefyd fanteisio ar adnoddau a dolenni y mae’ch gweinyddwr wedi'u darparu ar draws eich sefydliad.

Image of Content Market option being selected in the content editor of an assessment.

Gallwch ychwanegu cynnwys o’r Content Market yn uniongyrchol at y golygydd yn aseiniadau, profion a dogfennau eich cwrs. Yn y golygydd, dewiswch Mewnosod Cynnwys (y botwm plws) > Content Market

Dewiswch offeryn i’w lansio a phori am gynnwys i’w ychwanegu. Fel arall, gallwch ddewis yr arwydd plws ar gerdyn Offer y Sefydliad i ychwanegu’r adnodd cyfan yn y golygydd. Wrth ychwanegu adnodd neu ddarn o gynnwys yn y golygydd, bydd yn ymddangos fel dolen.

Rhagor am y Content Market


Ychwanegu ffeiliau o'r Casgliad o Gynnwys

Gallwch ddefnyddio'r Casgliad o Gynnwys i drefnu, rhannu ac ailddefnyddio ffeiliau yn eich cyrsiau a'r ffeiliau hynny a rennir ar draws y sefydliad. Gallwch ychwanegu ffeiliau o'r Casgliad o Gynnwys o dudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag y byddwch am ychwanegu ffeiliau. Yn y ddewislen, dewiswch Casgliad o Gynnwys i bori'r ffeiliau sydd ar gael i chi a'u hychwanegu at eich cwrs.

Gallwch hefyd ddod o hyd i'r Casgliad o Gynnwys yn y panel Mewngludo Cynnwys. Dewiswch Casgliad o Gynnwys i bori'r ffeiliau sydd ar gael i chi a'u hychwanegu at eich cwrs. I gyflymu'r broses, gallwch ddewis ffeiliau lluosog i'w hychwanegu ar yr un pryd.

Dewiswch Pori’r Casgliad o Gynnwys i ddechrau arni. Bydd yn mynd â chi i system y Casgliad o Gynnwys, lle gallwch ddod o hyd i ffeiliau sydd wedi'u storio o'ch cyrsiau eraill. Bydd gennych fynediad i ffeiliau y mae eich sefydliad wedi'u hychwanegu a'u rhannu. Defnyddiwch y swyddogaethau pori i archwilio.

Y tro cyntaf y byddwch yn agor y Casgliad o Gynnwys yn eich cwrs Ultra, gallwch ei agor yn y ffenestr bresennol neu mewn ffenestr newydd. Dewiswch yr opsiwn sy'n gweithio orau i chi. Gallwch newid y gosodiad nes ymlaen. Dewiswch yr eicon Gosodiadau Porwr ar frig y ffenestr.

Pan ddewch o hyd i ffeil rydych eisiau ei hychwanegu at eich cwrs, dewiswch y blwch ticio drws nesaf i enw'r ffeil. Gallwch chi barhau i bori a dewis ffeiliau. Mae'r system yn dangos y nifer o ffeiliau rydych wedi'u dewis ar waelod y ffenestr. Pan fyddwch yn barod i'w hychwanegu, dewiswch Cyflwyno i adolygu'ch rhestr o eitemau a ddewiswyd.

Os ydych am bori'r Casgliad o Gynnwys heb ychwanegu ffeil at eich cwrs, gallwch gyrchu'r Casgliad o Gynnwys ar y dudalen Offer. Gallwch hefyd ychwanegu dolenni i eitemau yn y Casgliad o Gynnwys.

Adolygu'r rhestr

Gallwch adolygu'r rhestr ffeiliau a ddewiswyd cyn eu mewngludo i'ch cwrs. Adolygwch Enw'r Eitem, y Dyddiad Addasu, a'r Maint i gadarnhau mai'r rhain yw'r ffeiliau cywir. Os ydych wedi anghofio rhywbeth, gallwch ychwanegu mwy o eitemau at y rhestr. Dewiswch Yn ôl i'r Casgliad o Gynnwys i barhau i bori.

I dynnu neu olygu ffeil o'r rhestr, agorwch y ddewislen ar gyfer yr eitem. Dewiswch Dileu os nad ydych am gopïo'r ffeil i'ch cwrs mwyach. Dewiswch Golygu i newid enw neu ddisgrifiad y ffeil.

Dewiswch Cadw i ychwanegu'r cynnwys at eich cwrs. Mae'r ffeiliau wedi'u cuddio rhag myfyrwyr yn ddiofyn er mwyn i chi allu parhau i adeiladu cynnwys y cwrs.

Sut mae ffeiliau'r Casgliad o Gynnwys yn ymddwyn

Pan fyddwch yn ychwanegu ffeil o'r Casgliad o Gynnwys at eich cwrs Ultra, bydd y ffeil yn eich cwrs yn cadw cysylltiad â'r lleoliad gwreiddiol. Cadwch y nodweddion hyn mewn cof wrth ychwanegu ffeiliau Casgliad o Gynnwys at eich cwrs:

  • Nid yw caniatadau ffeil yn y Casgliad o Gynnwys yn cael effaith ar allu myfyrwyr i weld ffeil yn eich cwrs. Rydych yn rheoli gosodiadau gweladwyedd y ffeiliau hyn yn yr un modd â'r holl gynnwys arall yn eich cwrs.
  • Os yw ffeil rydych yn ei hychwanegu at eich cwrs yn cael ei diweddaru neu ei disodli yn y Casgliad o Gynnwys, bydd y ffeil yn eich cwrs yn adlewyrchu'r newid hwnnw hefyd.
  • Os yw ffeil rydych yn ei hychwanegu at eich cwrs yn cael ei dileu yn y Casgliad o Gynnwys, ni fydd y ffeil ar gael yn eich cwrs mwyach. Mae’r ffeil yn dal i ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs, ond bydd gwall yn ymddangos pan fydd defnyddiwr yn ei hagor.
  • Pan fyddwch yn dileu ffeil cwrs rydych wedi'i hychwanegu o'r Casgliad o Gynnwys, bydd y ffeil yn aros yn y Casgliad o Gynnwys. Yr unig ffeil sy'n cael ei thynnu yw'r un o fewn eich cwrs.