Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Beth yw dolen gwrs?
Mae dolen gwrs yn llwybr byr i faes, offeryn neu eitem sydd eisoes yn bodoli mewn cwrs. Ychwanegwch ddolenni cwrs wrth ochr deunyddiau cwrs perthnasol i greu profiad gwell ar gyfer myfyrwyr. Er enghraifft, efallai byddwch eisiau i'ch myfyrwyr fynd yn ôl i aseiniad darllen blaenorol i atgyfnerthu eu dysgu cyn cwis. Mae dolenni cwrs yn rhoi mynediad at gynnwys targed heb sgrolio a chlicio ychwanegol i ddod o hyd i leoliad gwreiddiol yr eitem darged.
Defnyddio dolenni cwrs
I ychwanegu dolen, dewiswch Creu drwy ddewis yr opsiwn plws ar dudalen Cynnwys y Cwrs lle rydych eisiau i'ch dolen ymddangos. Bydd hyn yn agor y panel Creu Eitem. Dewiswch yr opsiwn Dolen.
Bydd hyn yn agor tudalen Dolen Newydd gyda dau dab:
- Creu Dolen We (ar gyfer cysylltu â gwefannau y tu allan i'ch cwrs)
- Creu Dolen Gwrs (ar gyfer cysylltu â chynnwys mewn cwrs)
Dewiswch y tab Creu Dolen Gwrs i ychwanegu dolen gwrs.
I chwilio am yr eitem o gynnwys darged, teipiwch allweddair. Gallwch hefyd ddewis un neu fwy o flychau ticio yn y rhestr Categorïau. Gan ddibynnu ar le rydych yn creu dolenni cwrs yn y cwrs, mae'r ddewislen hon o opsiynau yn newid. Pan fyddwch yn ychwanegu dolen gwrs at lefel gwraidd neu uchaf tudalen Cynnwys y Cwrs, gallwch ychwnaegu dolenni cwrs at unrhyw eitem o gynnwys, yn cynnwys Dogfen, Asesiadau (pob math), SCORM, Ffeil, Dyddlyfr, Ffolder, a Modiwl Dysgu.
Dewiswch Chwilio i weld y canlyniadau chwilio. Dewiswch eitem o gynnwys o'r rhestr a ddangoswyd. Unwaith bod eitem wedi'i dewis, gallwch olygu'r Enw Arddangos. Os oes gan eich eitem darged ddisgrifiad, mae'n cael ei gynnwys yma. Gallwch olygu neu ychwanegu disgrifiad. Nid yw newid yr enw arddangos neu'r disgrifiad ar y dudalen hon yn effeithio ar enw arddangos na disgrifiad yr eitem darged.
Gallwch olygu a all myfyrwyr weld y cynnwys a'r amodau rhyddhau drwy ddewis y ddewislen gwelededd myfyrwyr dan y teitl arddangos.
Cofiwch fod newidiadau a wneir i welededd myfyrwyr neu amodau rhyddhau ar y ddolen gwrs yn effeithio ar y cynnwys targed, a bod newidiadau i'r cynnwys targed hefyd yn effeithio ar y ddolen gwrs. Gallwch ddefnyddio swp-olygu i addasu eitemau cysylltiedig ond nid dolenni cwrs cysylltiedig.
Eithriadau dolenni
Gallwch greu dolenni cwrs ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau a gweithgareddau cwrs. Cofiwch yr eithriadau hyn.
- Ni allwch greu dolenni cwrs ar gyfer trafodaethau a dolenni gwe.
- Ni allwch ddefnyddio dolenni cwrs gyda modiwlau dysgu os yw dilyniant gorfodol wedi'i alluogi. Byddai hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gyrchu cynnwys na ddylent ei cyrchu eto.
- Os yw dolen gwrs yn bodoli mewn modiwl dysgu, nid oes modd galluogi dilyniant gorfodol.
Copïo cynnwys
Pan gaiff cwrs ei gopïo i gwrs newydd, diweddarir dolenni cwrs i gysylltu â'r cwrs newydd hwnnw. Mae eithriadau:
- Ni allwch gopïo dolenni cwrs ar gyfer dogfennau na chynnwys trydydd parti (LTI).
- Wrth gopïo neu drosi cwrs Learn Gwreiddiol, bydd y broses copïo yn eithrio dolenni cwrs ar gyfer ffolderi, modiwlau dysgu, a dolenni gwe.
Ar gyfer gweinyddwyr: Mae'r nodwedd hon ar gael ar gyfer pob cwrs Ultra. Nid oes angen ffurfweddiadau.