Mathau o gynhwysyddion

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gallwch greu ffolderi a modiwlau dysgu i gyflwyno cynnwys mewn modd trefnus sy'n ennyn diddordeb. Gallwch ychwanegu dogfennau, atodiadau ffeil, profion, aseiniadau, ffeiliau amlgyfrwng a dolenni at wefannau, trafodaethau, a dyddlyfrau.

Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych am ychwanegu cynhwysydd. Yn y ddewislen, dewiswch Creu a dewiswch y cynhwysydd rydych am ei ychwanegu.

Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, mae teitlau'r ffolderi a'r modiwlau dysgu'n ymddangos fel dolenni y bydd myfyrwyr yn eu dewis i weld y deunyddiau. Gallwch ychwanegu disgrifiadau i helpu myfyrwyr i ddeall pa gynnwys rydych wedi'i gynnwys.

Cadw trefn gyda ffolderi

Gallwch greu dwy lefel o ffolderi i gadw trefn ar eich cynnwys. Ni fydd myfyrwyr yn mynd ar goll yn edrych am ddeunyddiau, ac mae'n haws rheoli'ch cynnwys. Hefyd, mae myfyrwyr yn gallu llywio'n haws ar sgriniau llai pan nad oes rhaid iddynt chwilio am ddeunyddiau. Pan mae gennych dwy lefel o ffolderi yn barod, ni allwch greu trydydd lefel neu uwchlwytho ffolder i mewn i'r ffolder ail lefel.

Os nad ydych yn ychwanegu teitl, bydd Ffolder Newydd a'r dyddiad yn ymddangos yn y rhestr cynnwys. Os na fyddwch yn ychwanegu cynnwys, bydd ffolder wag gyda dalfan y teitl yn ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Cadw trefn gyda modiwlau dysgu

Gallwch ddefnyddio modiwlau dysgu yn eich cwrs fel cynhwysyddion casgliadau o gynnwys wedi'u trefnu. Mae modiwlau yn caniatáu i fyfyrwyr lywio o un eitem o gynnwys i'r nesaf heb ymyriadau neu gliciau ychwanegol. Mae modiwl dysgu yn helpu i drochi myfyrwyr yn y wers neu gysyniad rydych yn ei dysgu. Os ydych yn defnyddio gwerslyfr neu ddeunyddiau eraill fel sylfaen cwricwlwm eich cwrs, mae modiwlau'n fodd effeithiol a threfnus o grwpio cynnwys i gyd-fynd â'r deunyddiau hyn.

Mwy ar fodiwlau dysgu

Rheoli eich cynhwysyddion

Gallwch aildrefnu, golygu a dileu cynhwysyddion a chynnwys i reoli beth mae myfyrwyr yn ei weld ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Os byddwch yn dileu ffolder neu fodiwl dysgu sydd â chynnwys, caiff y cynnwys ei ddileu o dudalen Cynnwys y Cwrs hefyd. Gallwch chwilio yng nghynnwys eich cwrs yn ôl teitl ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Rhagor am reoli eich cynnwys

Rhagor am reoli argaeledd cynnwys

Rhagor am chwlio am gynnwys cwrs yn ôl y teitl