Defnyddiwch osodiadau gwelededd ac amodau rhyddhau i ddiffinio pryd gall myfyrwyr weld a chael mynediad i gynnwys cwrs. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gallwch gael mynediad at osodiad gweladwyedd pob eitem a ffolder sydd yn eich rhestr o gynnwys. Yn y ddewislen gwelededd, dewiswch Amodau rhyddhau i agor panel Amodau Rhyddhau'r eitem.

Gydag amodau rhyddhau, gallwch osod cyfuniad o'r rheolau hyn:  

  • Pa aelodau cwrs neu grwpiau sydd â mynediad.
  • Pryd bydd cynnwys y cwrs ar gael, yn weladwy, ac wedi'i guddio.
  • Pa berfformiad myfyriwr sydd ei angen, fel cwblhau aseiniad neu gael sgôr sy'n uwch na throthwy ar brawf.
The release conditions page, with Add new rule and Add performance criteria options called out

 


Rhyddhau cynnwys yn ôl aelodau cwrs neu grwpiau

Dan Dewis aelodau, dewiswch pa aelodau cwrs neu grwpiau sydd â mynediad i gynnwys y cwrs. Gyda'r opsiwn hwn, gallwch greu llwybrau adfer ar gyfer myfyrwyr penodol a darparu cynnwys gwahanol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig mewn cwrs.

Select member options for release condition rules

Rhyddhau cynnwys yn ôl dyddiad

Dewiswch Dyddiad/Amser i ddiffinio'r cyfnod y gall myfyrwyr gyrchu'r cynnwys ynddo. 

  • Enghraifft: Mae cynnwys yn cael ei drafod mewn trefn ddynodedig. Rydych eisiau i'r myfyrwyr gyrchu cynnwys dim ond ar ôl i chi ei drafod yn y dosbarth. Nid ydych eisiau i fyfyrwyr weithio ymlaen.
  • Enghraifft: Rhyddhau eich prawf terfynol yn ystod wythnos o brofion terfynol eich sefydliad.
Course content Release conditions date rules

Rhyddhau cynnwys yn seiliedig ar berfformiad

Dewiswch Perfformiad i ryddhau eitem neu ffolder pan fydd myfyriwr yn ennill sgôr penodol ar eitem neu golofn llyfr graddau yn eich cwrs.  I ddiffinio'r trothwy, dewiswch yr eitem a raddir a'r gofyniad gradd. 

  • Enghraifft: Mae'n rhaid i fyfyrwyr gwblhau gwaith cwrs mewn trefn benodol ac ar ôl iddynt ddangos dealltwriaeth. Rydych eisiau i fyfyrwyr symud ymlaen i'r eitem nesaf ar ôl iddynt gael sgôr o B neu'n uwch.
  • Enghraifft: Mae'n rhaid i fyfyrwyr sgorio 70 pwynt neu fwy mewn cwis er mwyn cael mynediad i Brawf Pennod 1.

I osod meini prawf perfformiad ychwanegol, fel ail drothwy mae'n rhaid i'r myfyriwr gwrdd ag ef, dewiswch Ychwanegu meini prawf perfformiad ychwanegol

Course content Release conditions performance options

Gosodiadau gwelededd

Os byddwch yn dewis mwy nag un amod ar gyfer eich cynnwys, bydd yn rhaid i fyfyrwyr fodloni'r holl amodau er mwyn i'r gwaith fod ar gael.

Pan fyddwch yn gosod amodau rhyddhau dyddiad/amser neu berfformiad, dan Pryd bydd y cynnwys yn ymddangos?, gallwch hefyd ddewis a ydych eisiau i gynnwys fod yn weladwy i aelodau'r cwrs cyn neu ar ôl iddynt fodloni'r gofynion mynediad. 

  • Dangos. Gall myfyrwyr weld dyddiad ac amser rhyddhau'r cynnwys, yr amodau mae angen iddynt eu bodloni, a phryd na fydd modd iddynt gael mynediad iddo mwyach. Mae eitemau'n ymddangos ar galendr y cwrs a'r dudalen Graddau, ond nid mewn ffrydiau gweithgarwch myfyrwyr. Pan ddaw mynediad i ben, bydd y cynnwys yn parhau i fod yn weladwy, ond ni all myfyrwyr gael mynediad iddo.
  • Cuddio. Bydd cynnwys dim ond yn weladwy i fyfyrwyr pan fyddant yn gallu cael mynediad iddo. Ni fydd myfyrwyr yn gweld y dyddiad nac amser pan na fydd modd iddynt gael mynediad ato bellach. Pan ddaw mynediad i ben, bydd y cynnwys yn cael ei guddio rhag myfyrwyr. 

Os ydych yn gosod dyddiad penodol i ryddhau ffolder, ni fydd myfyrwyr yn gallu ehangu neu weld cynnwys y ffolder tan y dyddiad hwnnw, hyd yn oed os ydych yn gwneud y ffolder yn weladwy cyn bod gan fyfyrwyr fynediad ati. Ar ôl y dyddiad rhyddhau, os nad oes gan y cynnwys gyfyngiadau ar y dyddiadau, gall myfyrwyr weld cynnwys yn y ffolder.

Ni fydd amodau rhyddhau'n gweithio os byddwch yn dileu'r cynnwys y mae amod yn seiliedig arno. Cewch rybudd ar dudalen Cynnwys y Cwrs sy’n dweud nad oes modd i fyfyrwyr gael mynediad i gynnwys. Agorwch y panel Amodau Rhyddhau i ddiweddaru'ch gosodiadau.


Rhyddhau cynnwys modiwlau dysgu mewn dilyniant gorfodol

Mae modiwlau dysgu yn caniatáu i fyfyrwyr lywio o un eitem o gynnwys i'r nesaf heb ymyriadau neu gliciau ychwanegol. Gallwch hefyd osod dilyniant gorfodol ar fodiwl er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod pa gynnwys i'w defnyddio ac ym mha drefn.

O'r sgrin ychwanegu neu olygu modiwl dysgu, dan Symud ymlaen mewn dilyniant, dewiswch Dilyniant Gorfodol

Forced sequence options for a content module

Gwylio fideo am Amodau Rhyddhau yn Blackboard Learn Ultra

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.

Fideo: Amodau Rhyddhau yn Blackboard Learn Ultra yn dangos nodweddion yr ap ar gyfer dyfeisiau Windows.