Gallwch ychwanegu ffeiliau at eich cwrs mewn sawl ffordd, gan gynnwys pan fyddwch yn creu cynnwys cwrs. Pan fyddwch yn ychwanegu ffeiliau at eich cwrs, maent yn cael eu storio yng nghronfa ffeiliau'r cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys.
Tri dull cyffredin o ychwanegu ffeiliau at eich cwrs
Gallwch ychwanegu pob math o ffeil at eich cynnwys. Yn ein henghreifftiau, rydym yn ychwanegu dogfen mewn tair ffordd.
- I reoli ble mae dolen ffeil yn ymddangos yn eich testun, defnyddiwch y golygydd i atodi ffeiliau wrth i chi greu cynnwys.
- Pan fyddwch yn creu cynnwys, atodwch ffeil yn yr adran Atodiadau.
- Ychwanegwch eich ffeiliau i Ffeiliau Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys CYN i chi greu cynnwys.
I reoli ble mae dolen ffeil yn ymddangos, defnyddiwch y golygydd i atodi ffeiliau wrth i chi greu cynnwys
Pan ddefnyddiwch y swyddogaeth Ychwanegu Cynnwys yn y golygydd, gallwch bennu ble mae dolen y ffeil yn ymddangos yn eich cynnwys.
Gan ddibynnu ar y math o gynnwys, gallwch greu dolen i ffeiliau sydd eisoes yn Ffeiliau’r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys neu bori am un ar eich cyfrifiadur. Cedwir unrhyw ffeiliau rydych yn eu huwchlwytho o'ch cyfrifiadur yn yr ystorfa yn y ffolder lefel uchaf. Ni allwch ddewis y ffolder y mae'ch ffeiliau wedi'u lawrlwytho iddo.
Mantais: Mae gennych reolaeth greadigol am sut y mae eich cynnwys yn ymddangos. Os byddwch yn ychwanegu tair ffeil at eich casgliad cynnwys, gallwch rannu nhw ymysg y testun fel y mynnwch.
Enghraifft: Rydych yn rhoi tair astudiaeth achos i'ch myfyrwyr eu darllen. Rhaid iddynt ddewis un i ymchwilio ymhellach. Yn yr un eitem cynnwys, gallwch roi cyflwyniad a dolen ffeil ar gyfer pob astudiaeth achos. Gallwch ddefnyddio enw'r ffeil neu ddarparu teitl dolen ar gyfer pob un
Mae'r ffeiliau'n ymddangos: Mae'r dolenni i'r ffeiliau'n ymddangos yn union lle rydych yn dymuno. Wrth i chi fireinio'ch cynnwys neu mae angen i chi ddiweddaru deunyddiau, gallwch barhau i ychwanegu ffeiliau, delweddau ac amlgyfrwng. Mae hyblygrwydd gennych i newid y drefn a'r ymddangosiad fel y mynnwch.
Mwy am y swyddogaethau yn y golygydd
Pan fyddwch yn creu cynnwys, atodwch ffeil yn yr adran Atodiadau
Wrth i chi greu cynnwys, gallwch ychwanegu ffeil o'ch cyfrifiadur neu o gronfa ffeiliau'r cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys.
Mantais: Gallwch uwchlwytho ffeiliau wrth i chi adeiladu'ch cwrs. Nid oes rhaid i chi lwytho eich deunyddiau i fyny'n gyntaf.
Enghraifft: Mae eich myfyrwyr yn profi anhawster gyda phrosiect grŵp. Gallwch gyflwyno mwy o gyfarwyddiadau a gofyn iddynt lawrlwytho ffeil gydag esiamplau penodol. Wrth i chi greu'r eitem cynnwys newydd, gallwch atodi ffeil. Os yw'r ffeil ar eich cyfrifiadur, gallwch ddewis y ffolder yn Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys yr ydych eisiau uwchlwytho iddo.
Dewiswch Pori Cwrs neu Pori'r Casgliad o Gynnwys i ddod o hyd i'r ffeil ar eich cyfrifiadur a'i huwchlwytho. Fel arall, lleolwch y ffeil yn un o'r ffolderi yn eich ystorfa.
Ychwanegwch eich ffeiliau i Ffeiliau Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys CYN i chi greu cynnwys
Uwchlwythwch ffeiliau a ffolderau i Ffeiliau Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys, naill ai un ar y tro neu mewn sypiau, gan ddefnyddio'r swyddogaethau llusgo a gollwng neu bori.
Mantais: Mewn Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys, gallwch greu ffolderi i drefnu'ch cynnwys.
Enghraifft: Rydych yn penderfynu cyflwyno cynnwys i'ch myfyrwyr ar gyfer pob wythnos. Ar ddewislen y cwrs, gallwch ychwanegu dolenni ar gyfer Wythnos 1, Wythnos 2 ac Wythnos 3. Yn Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys, gallwch greu ffolderi â'r un enwau ac uwchlwytho'ch ffeiliau. Pan fyddwch yn creu cynnwys, gallwch lywio i'r ffolder priodol i leoli'r ffeil y mae ei hangen arnoch.
Cwestiynau cyffredin
Cyn i fi greu cynnwys, oes rhaid i fi uwchlwytho fy holl ffeiliau i'r Casgliad o Gynnwys?
Nac oes. Gallwch ychwanegu ffeiliau’n uniongyrchol at dudalen Cynnwys y Cwrs. Gallwch lwytho un neu fwy o ffeiliau i’ch cwrs ac mae’r ffeiliau’n cael eu cadw'n awtomatig i’r Casgliad o Gynnwys ar gyfer eu cyrchu’n hawdd yn y dyfodol.
Cedwir ffeiliau yn y Casgliad o Gynnwys yn awtomatig pan fyddwch yn uwchlwytho ar dudalen Cynnwys y Cwrs neu gan ddefnyddio’r golygydd.
Mwy ar ffyrdd i atodi ffeiliau
Mae semester newydd wedi dechrau ac mae angen i fi ddiweddaru ffeil fy maes llafur. Beth yw'r ffordd orau i wneud hyn?
Gallwch olygu a disodli ffeiliau unigol yn y Casgliad o Gynnwys wrth barhau i gynnal dolenni'r cwrs i'r ffeiliau hynny.
Enghraifft:
Rydych chi’n llwytho ffeil eich maes llafur i’r dudalen Cynnwys y Cwrs. Yn hwyrach, bydd angen i chi wneud newidiadau i'r ffeil. Yn gyntaf, golygwch gopi o'r ffeil ar eich cyfrifiadur. Wedyn, ewch yn ôl i’r Casgliad o Gynnwys gan ddefnyddio’r ddewislen Offer yn y bar llywio sylfaenol. Dewch o hyd i'r ffeil yn eich ffolder cwrs a chyrchu dewislen yr eitem. Llwythwch fersiwn newydd y maes llafur gyda’r swyddogaeth Ysgrifennu Dros Ffeil. Mae'r ddolen i'r ffeil yn eich cwrs yn aros yn gyfan. Pan fydd myfyrwyr yn cyrchu'r maes llafur yn eich cwrs, maent yn gweld y cynnwys a adolygwyd.
Rhagor am ychwanegu ffeiliau at y Casgliad o Gynnwys
A allaf ychwanegu ffeiliau at fy nghwrs mewn mannau ar wahân i’r dudalen Cynnwys y Cwrs?
Ydych. Gallwch atodi ffeiliau i gynnwys cwrs arall, fel dogfennau, aseiniadau, a phrofion. Gallwch hefyd osod ffeiliau gyda’r golygydd fel bod myfyrwyr ac aelodau eraill y cwrs yn gweld y ffeiliau ochr yn ochr â chynnwys arall rydych chi’n ei ychwanegu. Defnyddiwch y golygydd i osod ffeiliau mewn trafodaethau neu negeseuon.
Sut ydw i'n gwneud cynnwys fy nghwrs yn fwy hygyrch?
Ally yn Nhrosolwg Hyfforddwyr Learn Ultra
Mae'ch dosbarth yn llawn myfyrwyr amrywiol sydd â galluoedd dysgu unigryw. Mae darparu cynnwys gwreiddiol mwy hygyrch i fyfyrwyr yn golygu eu bod pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddynt. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.
Mae dangosyddion sgôr hygyrchedd a fformatau amgen yn ymddangos nesaf at ddogfennau a phrofion cwrs.