Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Ychwanegu testun
Mae'r golygydd yn ymddangos lle bynnag y gallwch fformatio testun, megis mewn aseiniadau, profion, trafodaethau, a dyddlyfrau.
Gallwch ychwanegu rhestri â bwledi a rhestri â rhifau a newid testun i fod yn drwm neu'n italig. Defnyddiwch ddewislen Arddull testun i ychwanegu penawdau.
Gallwch hefyd lansio'r golygydd mathemateg i blannu fformiwlâu mathemategol yn eich testun. Mae golygydd WIRIS yn agor mewn ffenestr newydd.
I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.
Ychwanegu dolenni
Gallwch chi ychwanegu dolenni at eich testun wrth ichi weithio yn y golygydd. I ychwanegu dolen, dewiswch eicon Mewnosod/Golygu’r Ddolen, a gynrychiolir gan symbol cadwyn. Teipiwch neu gludwch URL y Ddolen a Testun y Ddolen. Mae rhaid i chi ddefnyddio'r protocol http://. Dewiswch Mewnosod i gadw'r ddolen.
Gallwch ychwanegu dolen at destun rydych eisoes wedi ei deipio hefyd. Amlygwch y testun a dewiswch eicon Mewnosod/Golygu Dolen. Caiff Testun y Ddolen ei ychwanegu'n awtomatig yn seiliedig ar y testun rydych wedi'i dewis yn y golygydd.
Mewnosod ffeiliau Content Market
Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Y Content Market yw’ch porth i ddeunyddiau dysgu gwerthfawr o ddarparwyr cynnwys dibynadwy. Gallwch chi fanteisio ar adnoddau a dolenni y mae’ch gweinyddwr wedi eu cyhoeddi ledled eich sefydliad hefyd.
Gallwch ychwanegu cynnwys o’r Content Market yn uniongyrchol at y golygydd yn aseiniadau, profion a dogfennau eich cwrs. Yn y golygydd, dewiswch Content Market.
Dewiswch offeryn i’w lansio a phori am gynnwys i’w ychwanegu. Fel arall, cliciwch ar y symbol plws ar gerdyn Offer y sefydliad i ychwanegu’r adnodd cyfan yn y golygydd. Wrth ychwanegu adnodd neu ddarn o gynnwys yn y golygydd, bydd yn ymddangos fel dolen.