Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Gallwch ddefnyddio cwestiynau Graddfa Farn/Likert i fesur agweddau myfyrwyr neu ymatebion gyda graddfa gymaradwy. Yn ddiofyn, mae pum dewis o atebion yn ymddangos sy'n amrywio o Cytuno'n Gryf i Anghytuno'n Gryf. Mae chweched opsiwn yn gadael i fyfyrwyr ddewis Ddim yn Berthnasol. Gallwch newid testun y dewisiadau ateb ac addasu nifer yr atebion o 2 i 100.

Mae cwestiynau Graddfa Farn/Likert yn cael eu graddio'n awtomatig.

Mae cwestiynau Graddfa Farn/Likert yn ddelfrydol ar gyfer arolygon. Os byddwch yn cynnwys y cwestiynau mewn prawf, mae'n rhaid i chi ddewis ateb cywir. Os ydych chi eisiau barn yn unig, newidiwch werth y pwynt i sero er mwyn i'r cwestiwn beidio ag effeithio ar gyfanswm y prawf.


Creu cwestiwn Graddfa Farn/Likert

  1. Cyrchwch brawf, arolwg, neu gronfa. O ddewislen Creu Cwestiwn, dewiswch Graddfa Farn/Likert.
  2. Teipiwch gwestiwn neu ddatganiad.
  3. Dewiswch Rhifo Atebion a Lleoliad Atebion o'r dewislenni neu gadewch yr opsiynau diofyn.
  4. Dewiswch Nifer yr Atebion o’r ddewislen neu gadewch yr opsiwn diofyn, sef 6. Dewiswch Tynnu i ddileu blwch ateb.
  5. I newid yr atebion diofyn neu i ychwanegu atebion os ydych chi wedi cynyddu nifer yr atebion posib, teipiwch ateb ym mhob blwch.
  6. Os byddwch yn cynnwys cwestiwn mewn prawf, rhaid i chi ddewis ateb cywir.
  7. Fel arall, teipiwch adborth ar gyfer atebion cywir ac anghywir.
  8. Dewiswch Cyflwyno a Chreu Un Arall neu Cyflwyno i ychwanegu'r cwestiwn at y prawf.

Credyd rhannol

Gallwch ganiatáu credyd rhannol ar gyfer cwestiynau Graddfa Farn/Likert. Mae credyd rhannol yn gwobrwyo myfyrwyr y mae eu hatebion yn dangos eu bod yn gwybod rhan o'r deunydd. Rydych yn teipio'r ganran credyd rhannol ar gyfer pob ateb.

Rhaid i chi alluogi'r opsiynau i bennu credyd rhannol ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau er mwyn eu defnyddio mewn cwestiynau unigol.

Rhagor am gredyd rhannol