Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Gyda Chwestiynau Man Poeth, cyflwynir delwedd i fyfyrwyr ac maen nhw’n dewis man penodol fel yr ateb. Mae enghreifftiau o Gwestiynau Man Poeth yn cynnwys y rhain:
- Anatomeg: Lleoli rhannau o'r corff.
- Daearyddiaeth: Lleolwch ardaloedd ar fap.
- Iaith Dramor: Dewis dillad.
Graddir cwestiynau Man Poeth yn awtomatig.
Sicrhewch fod y ffeil y ddelwedd gennych yn barod cyn i chi greu'r cwestiwn. Gallwch uwchlwytho ffeil y ddelwedd o'ch cyfrifiadur neu greu cyswllt o'r Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys. Mae ffeiliau delweddau a dderbynnir yn cynnwys GIF, JIF, JPG, JPEG, PNG, TIFF, a WMF.
Er nad oes cyfyngiadau'n bodoli, ystyriwch faint y ddelwedd a gwnewch addasiadau gan ddefnyddio rhaglen golygu delwedd cyn llwytho’r ffeil i fyny.
Creu Cwestiwn Man Poeth
- Cyrchwch brawf, arolwg, neu gronfa. O’r ddewislen Creu Cwestiwn, dewiswch Man Poeth.
- Ar y dudalen Creu/Golygu Cwestiwn Man Poeth, teipiwch y cwestiwn.
- Yn yr adran Uwchlwytho Delwedd, dewch o hyd i ffeil y ddelwedd. Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur. Gallwch hefyd lwytho ffeil i fyny o storfa’r cwrs: Os yw ar gael, teipiwch destun amgen sy'n disgrifio’r ddelwedd. Ni fyddwch yn gweld y blwch testun os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard Learn.
- Dewiswch Nesaf.
- Ar y dudalen Creu/Golygu nesaf, mae'r ddelwedd yn ymddangos. Gwasgwch a llusgwch bwyntiwr y llygoden i greu petryal dros yr ateb cywir. Pan fydd myfyrwyr yn dewis pwynt o fewn y petryal, maent yn derbyn clod am yr ateb cywir. Diffinnir ardal y man poeth gan bicseli. Os oes angen, dewiswch Clirio i dynnu'r petryal a dechrau eto.
- Fel arall, teipiwch adborth ar gyfer atebion cywir ac anghywir.
- Dewiswch Cyflwyno a Chreu Un Arall neu Cyflwyno i ychwanegu'r cwestiwn at y prawf.