Gyda chwestiynau Paru, mae myfyrwyr yn paru eitemau mewn un golofn ag eitemau mewn colofn arall. Nid oes rhaid i'r nifer o eitemau ym mhob colofn fod yn gyfartal oherwydd gallwch chi ailddefnyddio atebion ac ychwanegu dewisiadau ateb heb eu paru. Mae dewisiadau ateb heb eu paru yn tynnu sylw nad ydynt yn paru ag unrhyw eitem ac yn cynyddu anhawster y cwestiwn. Mae rhai hyfforddwyr yn defnyddio tynwyr sylw er mwyn i fyfyrwyr fedru dyfalu atebion trwy'r broses ddileu.

Enghraifft:

Parwch yr anifeiliaid â'u deiet.

Mae myfyrwyr yn paru mochyn, llew, sebra, ceffyl a draenog â'r atebion: cigysydd, hollysydd, a llysysydd.

Yn yr enghraifft hon, mae angen i fyfyrwyr ddefnyddio rhai atebion fwy nag unwaith.


Creu cwestiwn Paru

  1. Cyrchwch brawf, arolwg, neu gronfa. O'r ddewislen Creu Cwestiwn, dewiswch Paru.
  2. Teipiwch Destun y Cwestiwn.
  3. Dewiswch Rhifo Atebion o'r ddewislen neu gadewch yr opsiwn diofyn.
  4. Dewiswch Nifer o Gwestiynau o'r ddewislen. Y nifer diofyn o gwestiynau yw 4 a'r uchafswm yw 100. Os ydych eisiau llai na 4 o gwestiynau, gallwch ddewis Dileu uwchben golygydd y cwestiwn.
  5. Teipiwch barau cwestiwn ac ateb. Gallwch ailddefnyddio ateb o bâr arall. Dan faes ateb, dewiswch y blwch ticio: Ailddefnyddiwch ddewis ateb o a dewiswch yn y ddewislen.

    Gallwch hefyd ychwanegu ffeiliau neu gyfryngau at destun y cwestiwn.

  6. Yn ddewisol, gallwch ddewis Ychwanegu dewisiadau ateb heb eu paru a dewis rhif. Gall dewisiadau ateb heb eu paru gynyddu anhawster y cwestiwn.
  7. Gosodwyd Trefn Atebion i Ar hap yn ddiofyn. Gallwch ddewis  llaw i bwyso a llusgo atebion i'r safleoedd rydych eisiau iddynt ymddangos ynddynt.
  8. Fel arall, teipiwch adborth ar gyfer atebion cywir ac anghywir.
  9. Dewiswch Cyflwyno a Chreu Un Arall neu Cyflwyno i ychwanegu'r cwestiwn at y prawf.

Credyd rhannol a negyddol

Gallwch ganiatáu credyd rhannol a negyddol ar gyfer cwestiynau Paru. Mae credyd rhannol yn gwobrwyo myfyrwyr y mae eu hatebion yn dangos eu bod yn gwybod rhan o'r deunydd. Rydych yn teipio'r ganran credyd rhannol ar gyfer pob ateb. Defnyddiwch gredyd negyddol i beidio â chefnogi dyfalu. Gallwch ganiatáu sgorau negyddol ar gyfer atebion anghywir ac ar gyfer y cwestiwn.

Mae'n rhaid i chi alluogi'r opsiynau i bennu credyd rhannol neu negyddol ar y dudalen Gosodiadau Cwestiwn i'w defnyddio ar gyfer cwestiynau unigol. Ni fydd yr opsiwn i alluogi sgorau negyddol yn ymddangos oni bai eich bod wedi dewis yr opsiwn i ganiatáu credydau rhannol.

Mwy am gredydau rhannol a negyddol