Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Ar gyfer Brawddegau Anghyflawn, mae’n rhaid i’r myfyrwyr ddewis geiriau neu ymadroddion o ddewislen i gwblhau brawddeg. Bydd yr un ddewislen yn ymddangos ar gyfer pob bwlch, a gall gynnwys atebion cywir ac anghywir. Gallwch ychwanegu uchafswm o 100 o atebion at y ddewislen.

Graddir cwestiynau Trefn Gymysg yn awtomatig.

Teipiwch y cwestiwn fel y bydd myfyrwyr yn ei weld, ond amnewidiwch y wybodaeth sydd ar goll gyda newidynnau mewn cromfachau sgwâr. Gall newidynnau gynnwys llythrennau, digidau (0-9), atalnodau llawn ( . ), tanlinellau ( _ ) a llinellau toriad ( - ). Mae’n rhaid i enwau atebion posibl fod yn unigryw, a chewch ddim eu hailddefnyddio.

Enghraifft:

Cynhelir moleciwlau dŵr unigol at eu gilydd gan [a] rhwymau a chynhelir moleciwlau dŵr lluosog at ei gilydd gan [b] rhwymau. Y math o rwym lle mae atomau’n rhannu electronau, ond lle nad ydynt yn eu rhannu’n gyfartal, yw [c].


Creu cwestiwn Brawddeg Anghyflawn

Neges Atgoffa: Mae’r un set o atebion posibl yn ymddangos ar gyfer pobl bwlch.

  1. Cyrchwch brawf, arolwg, neu gronfa. O ddewislenCreu Cwestiwn, dewiswchBrawddeg Anghyflawn.
  2. Dewiswch Creu/Golygu Cwestiwn Brawddeg Anghyflawn, teipiwch y cwestiwn ac ychwanegu’r atebion posibl mewn cromfachau petryal.
  3. Dewiswch Caniatáu Credyd Rhannol os ydych chi am roi i bob ateb cywir ffracsiwn o gyfanswm gwerth y pwynt.
  4. Dewiswch Nifer yr Atebion o’r ddewislen. Dewiswch Dileu i ddileu atebion ychwanegol.

    Teipiwch atebion yn y blychau Ateb. Gallwch gynnwys atebion cywir yn unig, neu atebion cywir ac anghywir. Ar y tudalen nesaf, rydych yn dewis yr ateb cywir ar gyfer pob newidyn.

  5. Dewiswch Nesaf.
  6. Ar y dudalen Creu/Golygu nesaf, defnyddiwch y ddewislen i ddewis yr atebion cywir ar gyfer pob newidyn.
  7. Fel arall, teipiwch adborth ar gyfer atebion cywir ac anghywir.
  8. Dewiswch Cyflwyno a Chreu Un Arall neu Cyflwyno i ychwanegu'r cwestiwn at y prawf.

Credyd rhannol

Dewiswch y blwch ticio Caniatáu Clod Rhannol i ddyfarnu canran o gyfanswm y pwyntiau pan fydd myfyrwyr yn rhoi atebion cywir ar gyfer rhai o'r bylchau. Caiff maint y credyd rhannol ei ddyfarnu’n awtomatig, gan ddibynnu ar nifer posibl y pwyntiau ar gyfer y cwestiwn a nifer yr atebion. Bydd yr opsiwn hwn ond yn ymddangos os dewiswch chi ef ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau.

Mwy o wybodaeth am gredyd rhannol