Gallwch fanteisio i’r eithaf ar y diogelwch ar gyfer pob prawf yn Blackboard Learn
Mae Blackboard mewn partneriaeth ag Examity®, arweinydd y diwydiant mewn meddalwedd a chefnogaeth goruchwylio. Mae Examity yn helpu i gynyddu effeithlonrwydd, diogelwch a hwylustod profi ar-lein mewn cannoedd o prifysgolion a chorfforaethau.
Mae technoleg berchnogol Examity yn diogelu arholiadau, yn gwirio hunaniaeth y sawl sy’n sefyll profion, ac yn atal rhag twyllo. Mae gan sefydliadau yr hyblygrwydd i ddewis y lefel diogelwch sy'n cyfateb i'w hanghenion unigryw, tra mae hyfforddwyr hefyd yn gallu rheoli canllawiau prawf. Ac mae’r swyddogaethau goruchwylio ac archwilio gorau ar gyfer pob prawf yn sicrhau’r lefel uchaf o gywirdeb a boddhad cwsmeriaid.
Pam Examity?
Mae Examity yn cynnig datrysiad goruchwylio ar-lein eang sy’n diwallu anghenion sefydliadau, cyfadrannau, a myfyrwyr. Mae Examity yn gwella’r profiad dysgu ac addysgu ar-lein tra’n cynnal uniondeb y broses asesu.
- Mae integreiddio ddi-dor gyda Blackboard Learn yn galluogi mewngofnodi unwaith ac allgludo gwybodaeth berthnasol yn awtomatig.
- Mae lefelau FairExam® yn caniatáu i sefydliadau ddewis gofynion diogelwch a theilwra rheolau arholiadau.
- Mae hyfforddiant a rheolaeth cyfrif ddynodedig yn darparu arbenigedd er mwyn sicrhau bod anghenion yn cleient yn cael eu diwallu bob amser.
- Mae datrysiad cwbl hyblyg yn bodloni disgwyliadau myfyrwyr ac yn cynnig mynediad ar unrhyw amser o unrhyw leoliad.
- Mae dadansoddi ystyrlon yn gwella effeithlonrwydd ac yn sicrhau tryloywder.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch adolygu Canllaw Examity Ar-lein i Hyfforddwyr Blackboard neu fynd i'r dudalen Cwestiynau Cyffredin Hyfforddwyr.