Mae cwestiynau Ateb Lluosog yn galluogi myfyrwyr i ddewis mwy nag un ateb. Defnyddiwch y math hwn o gwestiwn pan fod mwy nag un ateb yn gywir. Er enghraifft, yn y maes meddygol, gofynnwch i ddefnyddwyr ddewis symptomau sy'n gysylltiedig â chyflwr meddygol.
Creu cwestiwn Ateb Lluosog
- Cyrchwch brawf, arolwg, neu gronfa. O'r ddewislen Creu Cwestiwn, dewiswch Ateb Lluosog.
- Teipiwch Destun y Cwestiwn.
- Dewiswch Rhifo Atebion a Lleoliad Atebion o'r dewislenni neu gadewch yr opsiynau diofyn.
- Y nifer diofyn o atebion yw 4. Os ydych eisiau cynyddu hyn, dewiswch Nifer o Atebion o'r ddewislen. I leihau nifer yr atebion, dewiswch Tynnu nesaf at y blychau ateb i'w dileu. Mae'n rhaid bod gan gwestiwn Ateb Lluosog o leiaf 2 ateb a ddim mwy na 100 o atebion.
- Cwblhewch y blwc Ateb ar gyfer pob cwestiwn.
Gallwch hefyd ychwanegu ffeiliau neu gyfryngau at destun y cwestiwn.
- I ddewis yr atebion cywir, dewiswch y blwch ticio Cywir ar gyfer pob ateb.
- Fel arall, teipiwch adborth ar gyfer atebion cywir ac anghywir.
- Dewiswch Cyflwyno a Chreu Un Arall neu Cyflwyno i ychwanegu'r cwestiwn at y prawf.
Mae cwestiynau Ateb Lluosog yn cael eu graddio'n awtomatig. Os oes gan brawf y math hwn o gwestiwn yn unig, mae'r sgorau prawf yn cael eu postio'n awtomatig i fyfyrwyr eu gweld.
Mwy am gwestiynau Ateb Lluosog a JAWS®
Credyd rhannol a negyddol
Gallwch ganiatáu credyd rhannol a negyddol ar gyfer cwestiynau Amlateb. Mae credyd rhannol yn gwobrwyo myfyrwyr y mae eu hatebion yn dangos eu bod yn gwybod rhan o'r deunydd. Defnyddiwch gredyd negyddol i beidio â chefnogi dyfalu. Gallwch ganiatáu sgorau negyddol ar gyfer atebion anghywir ac ar gyfer y cwestiwn.
Mae'n rhaid i chi alluogi'r opsiynau i bennu credyd rhannol neu negyddol ar y dudalen Gosodiadau Cwestiwn i'w defnyddio ar gyfer cwestiynau unigol. Ni fydd yr opsiwn i alluogi sgorau negyddol yn ymddangos oni bai eich bod wedi dewis yr opsiwn i ganiatáu credydau rhannol.