Profion mynediad i’w graddio

Rydych chi’n cyrchu profion sydd angen eu graddio ar y dudalen Angen Graddio neu yn y Ganolfan Raddau.

Caiff colofn yn y Ganolfan Raddau ei chreu'n awtomatig ar gyfer pob prawf y byddwch yn ei greu ac yn ei gysylltu yn eich cwrs. Nodir aseiniad a gyflwynwyd, ond na raddiwyd, gydag eicon Angen Graddio. Er bod y system yn sgorio sawl math o gwestiwn, mae'n rhaid i chi raddio rhai cwestiynau â llaw fel Traethodau, Atebion Byr, ac Ymateb Ffeil.

Mae gennych yr opsiynau i raddio profion yn ddienw, i raddio pob ymateb i gwestiwn penodol, ac i roi credyd llawn am bob ymateb i gwestiwn. Gallwch hefyd ddileu cwestiynau o brawf neu glirio ymgais prawf er mwyn caniatáu i fyfyrwyr ail-wneud prawf.


Anfon nodiadau atgoffa am waith cwrs sydd ar goll

Gallwch anfon e-byst atgoffa o golofnau'r Ganolfan Raddau i fyfyrwyr ac aelodau grwpiau y mae eu gwaith cwrs ar goll. Bydd myfyrwyr yn cael e-bost a gynhyrchir gan y system sy’n rhestru’r cwrs, y gwaith cwrs, a’r dyddiad cyflwyno os rydych wedi pennu un.

Mwy ar anfon negeseuon atgoffa


Neilltuo graddau prawf ar y dudalen Angen Graddio

Ar gyfer cyrsiau gyda llawer o fyfyrwyr wedi eu cofrestru ac eitemau a raddir, gall y dudalen Angen Graddio eich helpu i benderfynu pa brofion sydd angen eu graddio'n gyntaf.

Nid yw profion sydd ar y gweill yn ymddangos ar y dudalen Angen Graddio.

Er enghraifft, gallwch ddidoli yn ôl y dyddiad cyflwyno fel y graddir eich profion terfynol cyn terfyn amser eich sefydliad. Os oes gennych amserlen cyflawni benodol ar gyfer yr holl eitemau y gellir eu graddio, gallwch addasu gwedd eitemau gyda statws Angen Graddio. Gallwch drefnu a hidlo'r rhestr a graddio'r profion pwysicaf yn gyntaf.

Panel Rheoli > adran Canolfan Raddau > tudalen Angen Graddio

Rhagor am y dudalen Angen ei Raddio


Neilltuo graddau prawf yn y Ganolfan Raddau

Mae’r Ganolfan Raddio yn dangos yr holl eitemau i’w graddio. Gall nifer yr eitemau ddylanwadu ar sut y byddwch yn trefnu eich amser ar gyfer graddio tasgau. Gall hefyd fod yn fanteisiol i edrych ar raddau blaenorol myfyriwr wrth i chi raddio.

Cyrchwch y Ganolfan Raddau:

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Canolfan Raddau.
  2. Dewiswch Canolfan Raddau Llawn neu’r wedd gall Profion, os yw ar gael, i gyrchu’r ymdrechion prawf.

I raddio prawf unigol:

  1. Dewch o hyd i'r gell ar gyfer prawf myfyriwr gyda’r eicon Angen Graddio.
  2. Cyrchwch ddewislen y gell a dewiswch Ymgais. Mae’r dudalen Graddio Prawf yn ymddangos.

Graddiwch pob ymgais ar gyfer un prawf:

  1. Cyrchwch ddewislen colofn y prawf.
  2. Dewiswch Graddio Ymdrechion. Mae’r dudalen Graddio Prawf yn ymddangos.

Mwy ar neilltuo graddau yn y Ganolfan Raddau


Y dudalen Graddio’r Prawf

Ar y dudalen Graddio Prawf, gallwch lywio rhwng myfyrwyr ac ymgeisiau, edrych ar gyfarwyddiadau, graddio'n ddienw, ac edrych ar wybodaeth am brawf.

Ehangwch y ddolen Gwybodaeth Prawf i weld y statws, cyfarwyddiadau, a dyddiad ac amseroedd perthnasol. Gallwch glirio ymgais ar brawf fel y gall myfyriwr gyflwyno’r prawf eto. Gallwch hefyd gyflwyno prawf sy'n mynd rhagddo fel y gallwch chi ei raddio.

Os oes gan brawf gwestiynau rydych chi angen neilltuo sgorau iddo, statws y prawf yw Angen Graddio a’r Sgôr Ymgais yw 0.

  1. Ar y dudalen Graddio Prawf, teipiwch sgôr ar gyfer pob cwestiwn nad yw wedi’i raddio’n awtomatig. Gallwch hefyd newid sgoriau sy'n bodoli eisoes.
  2. Fel arall, os cydgysylltoch gyfarwyddyd â chwestiwn Traethawd, Ateb Byr, neu Ymateb Ffeil, dewiswch Gweld y Cyfarwyddyd i raddio’r cwestiwn gan ddefnyddio'r cyfarwyddyd.
  3. Fel arall, ychwanegwch Adborth Ymateb sy'n benodol i'r cwestiwn unigol. Os ydych eisiau i'ch adborth ddangos ar gyfer cwestiynau unigol megis Traethodau, dewiswch yr opsiwn hwnnw ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau. Er bod blwch testun Adborth yn ymddangos yn ddiofyn, ni fydd myfyrwyr yn gweld unrhyw adborth yr ychwanegwch chi oni bai i chi ddewis y blwch ticio hwn. Ni allwch ddarparu adborth unigol ar gyfer atebion i gwestiynau Cywir/Anghywir, Trefnu ac Uno.
  4. Gallwch deipio sylwadau yn y blwch Adborth i Ddysgwyr.
  5. Gallwch deipio sylwadau yn y blwch Nodiadau Graddio. Ni welir y testun hwn gan fyfyrwyr.
  6. Dewiswch Arbed a Gadael i ddychwelyd i’r Ganolfan Raddau Llawn, y dudalen Angen Graddio, neu’r dudalen Manylion Gradd, yn seiliedig ar ble dechreuodd y graddio.

    -NEU-

    Dewiswch Arbed a Nesaf i arddangos y myfyriwr nesaf, os yw ar gael.

    -NEU-

    Defnyddiwch y saethau sy’n pwyntio i’r chwith a’r dde i lywio i’r myfyriwr blaenorol neu nesaf, os ar gael.

Os yw ymgeisiau lluosog wedi eu caniatáu ar gyfer prawf, ni fydd gradd myfyriwr yn cael ei rhyddhau hyd nes bod pob ymgais wedi ei graddio.


Ychwanegu recordiadau adborth

Gallwch blannu recordiad sain neu fideo o'ch adborth yn y golygydd wrth i chi raddio ymgeisiau. Mae'r opsiwn recordio yn ymddangos yn y golygydd adborth ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau a raddir yn eich cwrs. Mae myfyrwyr yn gwylio neu'n gwrando ar eich adborth ochr yn ochr ag unrhyw destun a gynhwysir gennych.

Rhagor am ychwanegu adborth sain/fideo


Graddio profion gydag enwau myfyrwyr wedi’u cuddio

Pan fyddwch yn graddio profion, gallwch guddio enwau defnyddwyr unrhyw adeg yn ystod y broses raddio i ddileu rhagfarn graddio ar gyfer profion pwysig.

Mae graddio yn ddienw yn ychwanegu haen arall o degwch ac mae’n ddiduedd. Ni fyddwch yn gwybod pwy a gyflwynodd aseiniad, felly ni ddylanwadir arnoch yn ormodol gan berfformiad blaenorol myfyriwr, cyfranogiad dosbarth, gwrthdaro, hiliaeth, rhyw neu ddawn gydnabyddedig myfyriwr. Gall yr arfer hwn hefyd gyfrannu at y berthynas myfyriwr-hyfforddwr oherwydd sicrheir myfyrwyr bod y graddio'n ddiduedd.

Pan fyddwch yn graddio'n ddienw, cuddir pob gwybodaeth adnabod ac mae ymgeisiau prawf yn ymddangos mewn trefn ar hap. Neilltuir rhif i bob myfyriwr, fel Myfyriwr 8.

Cyrchwch y dudalen Angen Graddio:

  1. Cyrchwch ddewislen ymgais prawf.
  2. Dewiswch Graddio gydag Enwau Defnyddiwr Wedi Eu Cuddio. Mae’r dudalen Graddio Prawf yn ymddangos.

Cyrchwch y Ganolfan Raddau:

  1. Cyrchwch ddewislen pennawd colofn y prawf.
  2. Dewiswch Graddio gydag Enwau Defnyddiwr Wedi Eu Cuddio. Mae’r dudalen Graddio Prawf yn ymddangos.

Dechreuwch o’r dudalen Graddio Prawf:

  1. Dewiswch Cuddio Enwau Defnyddwyr.
  2. Dewiswch Iawn. Os oedd graddio ar y gweill, collir unrhyw newidiadau nad oedd wedi eu cadw i'r ymgais agored. Mae'r dudalen Graddio Prawf yn adnewyddu, mae ymgais newydd yn ymddangos, a chuddir pob gwybodaeth adnabod.

Graddio profion yn ôl cwestiwn

Ar gyfer pob prawf, gallwch ddewis graddio'r holl ymatebion i gwestiwn penodol. Gallwch symud drwy gyflwyniadau, a gweld a sgorio’r un cwestiwn ar gyfer pob myfyriwr. Gallwch arbed amser gan eich bod yn canolbwyntio ar atebion a gyflwynwyd ar gyfer un cwestiwn yn unig. Gallwch weld sut roedd pob myfyriwr wedi ymateb, a rhoi adborth yn syth am sut roedd y grŵp wedi perfformio ar y cwestiwn penodol hwnnw. Hefyd, gallwch raddio fesul cwestiwn pan fyddwch am ailymweld â chwestiwn sy'n gofyn am addasu sgôr ar gyfer pawb neu sawl myfyriwr.

Ar yr un pryd, gallwch raddio cwestiynau gydag enwau myfyrwyr wedi eu cuddio. Mae pob ymgais prawf yn aros yn statws Angen Graddio tan eich bod wedi graddio'r holl ymatebion ar gyfer pob cwestiwn.

  1. Yn y Ganolfan Raddau, cyrchwch ddewislen y golofn prawf a dewiswch Graddio Cwestiynau.

    -NEU-

    Ar y dudalen Angen Graddio, cyrchwch ddewislen prawf a dewis Graddio Fesul Cwestiwn.

  2. Ar y dudalen Graddio Cwestiynau, gallwch hidlo'r cwestiynau yn ôl statws: Graddiwyd, Angen ei Raddio, neu Ar y Gweill. Gallwch hefyd ddewis y blwch ticio Graddio gydag Enwau Defnyddwyr wedi'u Cuddio os oes angen.
  3. Ar gyfer pob cwestiwn, dewiswch y nifer yn y golofn Ymatebion.
  4. Ar y dudalen Graddio Ymatebion, ehangwch y ddolen Gwybodaeth Cwestiwn i weld y cwestiwn. Os na wnaethoch ddewis graddio dienw cyn hyn, dewiswch Cuddio Enwau Defnyddwyr. Dewiswch Iawn yn y ffenestr naid.
  5. Dewiswch Golygu nesaf i’r sgôr ar gyfer myfyriwr.
  6. Teipiwch radd yn y blwch Sgôr. Fel arall, ychwanegwch Adborth Ymateb sy'n benodol i'r cwestiwn unigol. Mae'r blwch adborth yn ymddangos yn unig ar gyfer mathau penodol o gwestiwn, fel Traethodau. Dewiswch Cyflwyno.
  7. Fel arall, os cydgysylltoch gyfarwyddyd â chwestiwn Traethawd, Ateb Byr, neu Ymateb Ffeil, dewiswch Gweld y Cyfarwyddyd i raddio’r cwestiwn gan ddefnyddio'r cyfarwyddyd.
  8. Ar ôl graddio ymatebion yr holl fyfyrwyr, dewiswch Yn ôl i’r Cwestiynau i ddychwelyd i’r dudalen Graddio Cwestiynau.

Rhoi neu dynnu credyd llawn

Gallwch Roi Credyd Llawn i bob cyflwyniad prawf ar gyfer y cwestiwn rydych chi’n edrych arno. Bydd cyflwyniadau wedi hynny'n cael credyd llawn hefyd. Ar ôl rhoi credyd llawn, gallwch Dynnu Credyd Llawn i ddychwelyd i'r radd awtomatig neu i radd a neilltuwyd â llaw yn flaenorol.

  1. Dilynwch gamau 1-3 yn yr adran flaenorol i gyrchu’r dudalen Graddio Ymatebion.
  2. Ehangwch y ddolen Gwybodaeth Cwestiwn i weld y cwestiwn. Os na wnaethoch ddewis graddio dienw cyn hyn, dewiswch Cuddio Enwau Defnyddwyr. Dewiswch Iawn yn y ffenestr naid.
  3. Dewiswch Rhoi Credyd Llawn i neilltuo credyd llawn ar gyfer y cwestiwn - NEU- Dynnu Credyd Llawn.
  4. Dewiswch Yn ôl i’r Cwestiynau i ddychwelyd i’r dudalen Graddio Cwestiynau.

Golygu, dileu neu newid gwerth cwestiynau

Ar y Cynfas Prawf neu Arolwg gallwch ychwanegu, golygu, a dileu cwestiynau. Gallwch hefyd ychwanegu setiau cwestiwn neu flociau ar hap, aildrefnu cwestiynau, a golygu gwybodaeth prawf neu arolwg cyn i fyfyrwyr gyflwyno cyflwyniadau.

Unwaith y bydd gan brawf gyflwyniadau, ni allwch ychwanegu cwestiwn, addasu nifer y cwestiynau mewn set cwestiynau, neu newid diffiniad neu opsiynau hapfloc.

Hyd yn oed ar ôl i chi gyhoeddi prawf neu arolwg a bod myfyrwyr yn gwneud cyflwyniadau, gallwch ddileu cwestiynau. Mae’r holl gyflwyniadau profion sydd wedi’u heffeithio’n cael eu hystyried, a’r holl ganlyniadau arolwg sydd wedi’u heffeithio’n cael eu diweddaru. Mae rhifau’r cwestiynau’n cael eu diweddaru’n awtomatig. Os oes ymgeisiau ar gyfer prawf a’ch bod yn dileu cwestiwn, bydd y cwestiwn yn cael ei dynnu o'r asesiad, ynghyd ag unrhyw bwyntiau posibl a gafwyd. Ailraddir ymgeisiau prawf fel pe bai'r cwestiwn heb ei gynnwys yn y prawf.

Mwy ar olygu a dileu cwestiynau


Gweld sylwadau myfyrwyr a ffeiliau

Bb Annotate

Gallwch ddefnyddio BB Annotate ar gyfer graddio mewnol yn eich cyrsiau. Mae Bb Annotate yn cynnig cyfres o nodweddion sy’n fwy cadarn i roi adborth y gellir ei addasu i fyfyrwyr. Mae'r nodweddion yn cynnwys gwedd crynodeb bar ochr, offer lluniadu â llaw, gwahanol liwiau a llawer mwy.


Llif gwaith graddio BB Annotate

Ar dudalen Cyflwyniad yr Aseiniad, mae mathau o ffeiliau a gefnogir yn agor yn y porwr. Gallwch weld ac anodi'r mathau hyn o ddogfennau yn y porwr:

  • Microsoft® Word (DOC, DOCX)
  • Microsoft® PowerPoint®(PPT, PPTX)
  • Microsoft® Excel®(XLS, XLSX)
  • Dogfennau OpenOffice® (ODS, ODT, ODP)
  • Delweddau Digidol (JPEG, JPG, PNG, TIF, TIFF, TGA, BMP, HEIC)
  • Cod ffynhonnell (Java, PY, C, CPP, ac ati)
  • Delweddau Meddygol (DICOM, DICM, DCM)
  • PDF
  • PSD
  • RTF
  • txt
  • WPD

Ni chefnogir Macros Office Suite, megis Visual Basic.

Daw sesiynau anodi i ben ar ôl awr. Byddwch yn derbyn neges rhybudd cyn i'ch sesiwn ddod i ben. Cedwir eich anodiadau, adborth a ffeiliau a gwblhawyd ar y dudalen. Pan fyddwch yn dychwelyd, gallwch ailddechrau gweithio.

Mae gifs wedi’u hanimeiddio ond yn dangos y ffrâm gyntaf yn y dangosydd PDF at ddibenion anodi. Lawrlwythwch y cyflwyniad i weld y gif wedi’i animeiddio.

Cedwir y fformat gwreiddiol a delweddau sydd wedi eu plannu Os yw myfyriwr wedi cyflwyno ffeil heb ei chefnogi, gofynnir i chi ei lawrlwytho. Nid yw cyflwyniadau aseiniadau a grëir yn y golygydd yn gydnaws â graddio mewnol.

Yn dechrau Rhagfyr 10, 2020: os yw’r ffeil a gyflwynwyd (heb ei throsi) yn fwy na 300MB, bydd prosesu’n stopio, er mwyn osgoi colli data a sicrhau perfformiad da.

Cefnogir Bb Annotate ar fersiynau presennol Firefox, Chrome, Edge, a Safari.

Editing menu

Fel rhan o’r dyluniad ymatebol, mae ymddangosiad y ddewislen yn newid yn seiliedig ar faint y sgrin. Ar sgriniau canolig a bach, mae’r gosodiadau Gweld y Ddogfen yn dangos rhif y dudalen rydych yn ei gweld. Mae offer anodi mewn pentwr dan eicon Gweld Offer Anodi. Ar sgriniau llai, cuddir y Llyfrgell o Gynnwys.

Opsiynau'r ddewislen o'r chwith i'r dde

  • Bar ochr: Gweld golygon Mân-lun, Amlinelliad neu Anodiad o’r cyflwyniad.
  • Tudalennau: Defnyddio’r saethau i neidio i dudalennau gwahanol yn y cyflwyniad.
  • Tremio: Symud y cyflwyniad ar y dudalen.
  • Chwyddo a Ffitio: Chwyddo i mewn ac allan o’r cyflwyniad neu addasu'r wedd i ffitio’r dudalen, ffitio'r lled, neu ddewis y ffit gorau.
  • Offer anodi: Dewiswch bob offeryn i weld priodweddau’r offeryn.

    Cedwir eich dewis ar gyfer pob offeryn rhwng cyflwyniadau.

  • Lluniadu, Brwsh, a Dilëwr: Lluniadu’n llawrydd ar y cyflwyniad â gwahanol liwiau, trwch ac anhryloywder. Dewiswch y dilëwr i dynnu anodiadau. Gallwch ddileu rhannau o luniad llawrydd â'r dilëwr neu dewiswch yr eicon Dileu i ddileu’r lluniad cyfan.
  • Delwedd neu Stamp: Dewis stamp a lwythwyd ymlaen llaw neu greu stamp neu ddelwedd bersonol eich hun i’w hychwanegu at y cyflwyniad.
  • Dadwneud: Dadwneud neu ddychwelyd y peth diwethaf a wnaethoch.
  • Ailwneud: Gwneud y peth diwethaf a wnaethoch eto.
  • Testun: Ychwanegu testun yn uniongyrchol ar y cyflwyniad. Gallwch symud, golygu a newid y testun a dewis y ffont, maint, aliniad a lliw'r testun.
  • Siapiau: Dewis Llinell, Saeth, Petryal, Elips, Polygon, a Polylinell. Mae gan bob siâp ei osodiadau ei hun i newid y lliw, trwch, anhryloywder a mwy.
  • Sylw: Rhoi adborth mewn sylwadau. Mae eich sylwadau yn ymddangos mewn panel wrth ochr y cyflwyniad.

    Gall myfyrwyr gyrchu’r ffeiliau wedi’u hanodi ond ni fydd modd iddynt ychwanegu anodiadau yn eu cyflwyniadau.

  • Argraffu neu Lawrlwytho: Argraffu neu lawrlwytho’r cyflwyniad gyda'r anodiadau.

    Mae'n bosibl y bydd problem hysbys gyda dangosydd PDF mewnol rhai porwyr yn golygu na fydd pob un o'ch anodiadau'n dangos. Defnyddiwch wyliwr PDF brodorol fel Adobe Acrobat i edrych ar dogfennau PDF wedi'u hanodi.

  • Chwilio: Chwilio’r cyflwyniad am destun penodol.
  • Llyfrgell o Gynnwys: Creu banc o sylwadau y gellir eu hailddefnyddio. Gallwch ychwanegu, golygu, dileu a chwilio am sylwadau yn y llyfrgell. Gallwch hefyd ychwanegu sylw’n uniongyrchol at dudalen y cyflwyniad o'r ddewislen. Dewiswch yr arwydd plws i ychwanegu sylw newydd at y Llyfrgell o Gynnwys. Gallwch Rhoi sylw, Copïo i'r Clipfwrdd, Golygu, neu Dileu cynnwys o'r llyfrgell. Teipiwch allweddeiriau neu ymadroddion i chwilio am sylwadau a gadwyd.<

    Mae’r Llyfrgell o Gynnwys dim ond ar gael mewn amgylcheddau SaaS.

  • Amlygydd: Dewis rhannau penodol o’r cyflwyniad i’w hamlygu. Wrth i chi amlygu testun ar y cyflwyniad, bydd dewislen ychwanegol yn agor. Gallwch amlygu, rhoi llinell drwodd, tanlinellu, sgwiglo neu wneud sylw ar yr adran a amlygir.