Gallwch ddefnyddio profion ac arolygon i fesur gwybodaeth myfyriwr, mesur cynnydd, a chasglu gwybodaeth gan fyfyrwyr.
Rydych yn neilltuo pwyntiau i gwestiynau prawf, ond ni sgorir cwestiynau arolwg.
Mae canlyniadau arolwg yn ddienw, ond gallwch weld a yw myfyriwr wedi cwblhau arolwg a gweld cyfanswm canlyniadau ar gyfer pob cwestiwn arolwg. Ar yr adeg hon, gallwch greu arolygon yn unig yn y Golwg Cwrs Gwreiddiol .
Terminoleg asesiadau'r Wedd Cwrs Ultra a’r Wedd Cwrs Gwreiddiol
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i enwau nodweddion asesu sy’n seiliedig ar ymchwil defnyddwyr a safonau cyfredol y diwydiant. Mae’r Wedd Cwrs Ultra yn cynnwys y derminoleg newydd sy’n alinio â safonau cyfredol.
Mae’r tabl hwn yn rhestru enwau nodweddion cwestiynau asesiadau yn y ddwy wedd cwrs.
Gwedd Cwrs Ultra | Gwedd Cwrs Gwreiddiol |
---|---|
Cronfa gwestiynau | Bloc ar hap a set cwestiynau |
Banc cwestiynau | Cronfa gwestiynau |
Dadansoddi cwestiynau | Dadansoddiad eitem |
Cod mynediad | Cyfrinair |