Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Tudalen Gosodiadau Cwestiynau

Ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau, gallwch addasu gosodiadau cwestiynau ar gyfer prawf, arolwg neu gasgliad. Er enghraifft, gallwch chi bennu opsiynau ar gyfer sgorio, adborth, delweddau, metadata, credyd ychwanegol, a sut caiff cwestiynau eu harddangos i fyfyrwyr.


Newid gosodiadau cwestiynau

Rydych yn cael mynediad at brofion, arolygon a chasgliadau yn yr un modd.

Panel Rheoli > Offer y Cwrs > Profion, Arolygon a Chronfeydd > Profion

  1. Ar y dudalen Profion, ewch i ddewislen y prawf a dewiswch Golygu.
  2. Ar Cynfas y Prawf, dewiswch Gosodiadau Cwestiynau.
  3. Ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau'r Prawf, gwnewch eich newidiadau i'r opsiynau a restrir yn y tabl. Ceir esboniad o gredyd rhannol, pwyntiau negyddol a chredyd ychwanegol nes ymlaen yn y pwnc hwn. Nid yw'r opsiynau sgorio hyn yn ymddangos ar gyfer casgliadau ac arolygon.
  4. Pan fyddwch wedi gorffen, cyflwynwch eich newidiadau.
Gosodiadau cwestiynau prawf
Opsiwn Disgrifiad
Rhoi adborth ar gyfer atebion unigol Os ydych eisiau i'ch adborth ddangos ar gyfer cwestiynau unigol megis Traethodau, dewiswch yr opsiwn hwn. Er bod blwch testun Adborth yn ymddangos yn ddiofyn, ni fydd myfyrwyr yn gweld unrhyw adborth yr ychwanegwch chi oni bai i chi ddewis y blwch ticio hwn. Ni allwch ddarparu adborth unigol ar gyfer atebion i gwestiynau Cywir/Anghywir, Trefnu ac Uno.
Ychwanegu delweddau, ffeiliau a dolenni gwe at adborth unigol Byddwch yn gallu ychwanegu delweddau, ffeiliau a dolenni gwe at yr adborth unigol ddarparwch chi.
Ychwanegu delweddau, ffeiliau a dolenni gwe at atebion Byddwch yn gallu ychwanegu delweddau, ffeiliau a dolenni gwe at yr atebion ddarparwch chi.
Ychwanegu categorïau, pynciau, lefelau anhawster, allweddeiriau a nodiadau hyfforddwr at gwestiynau Byddwch yn gallu ychwanegu metaddata a'ch nodiadau at gwestiynau. Pan fyddwch yn chwilio am gwestiynau o gasgliad neu brofion ac arolygon eraill, gallwch chwilio am gwestiynau yn ôl y meini prawf hyn.

Mwy ar fetaddata cwestiynau

Nodi pwyntiau diofyn wrth greu cwestiynau Gallwch aseinio yr un gwerth pwynt ddiofyn i bob cwestiwn mewn prawf yn awtomatig. I fod yn effeithiol, rhaid i chi osod y gwerth pwynt ddiofyn cyn i chi greu cwestiynau. Os byddwch yn newid y gwerth pwynt ddiofyn, cwestiynau newydd yn unig fydd â'r gwerth newydd. Bydd gan gwestiynau greoch chi cyn yr addasiad yr hen werth pwynt.

Ni allwch bennu gwerth pwynt ddiofyn ar gyfer cwestiynau mewn casgliadau neu arolygon.
Dynodi opsiynau credyd rhannol ar gyfer atebion Gallwch bennu credyd rhannol ar gyfer rhai mathau o gwestiynau sy'n rhan o brawf. Os yw wedi'i dewis, mae opsiwn i roi credyd rhannol yn ymddangos pan fyddwch yn creu neu'n golygu cwestiynau. Ceir esboniad o gredyd rhannol nes ymlaen yn y pwnc hwn.

Nid yw opsiwn credyd rhannol yn ymddangos ar gyfer cronfeydd neu arolygon.
Dynodi opsiynau pwyntiau negyddol ar gyfer atebion Gallwch bennu pwyntiau negyddol ar gyfer rhai mathau o gwestiwn sy'n rhan o brawf. Rhaid i chi alluogi opsiwn credyd rhannol cyn bydd opsiwn pwyntiau negyddol yn ymddangos. Gallwch deipio pwyntiau negyddol - a ddefnyddir i gosbi atebion anghywir neu ddyfaliadau - fel gwerth canran negyddol ym mlwch credyd rhannol ar gyfer pob ateb anghywir. Os caiff ei ddewis, mae opsiwn i ganiatáu am sgorio negyddol yn ymddangos pan fyddwch yn creu neu'n golygu rhai mathau o gwestiynau. Ceir esboniad o sgorio negyddol nes ymlaen yn y pwnc hwn.

Nid yw opsiwn pwyntiau negyddol yn ymddangos ar gyfer cronfeydd neu arolygon.
Rhoi opsiwn i neilltuo cwestiynau fel credyd ychwanegol. Gallwch bennu credyd ychwanegol ar gyfer cwestiynau sy'n rhan o brawf. Os byddwch yn dewis gwneud hyn, gallwch bennu credyd ychwanegol ar gyfer pob cwestiwn yn unigol wedi i chi eu creu. Ceir esboniad o gredyd ychwanegol nes ymlaen yn y pwnc hwn.

Nid yw opsiwn credyd ychwanegol yn ymddangos ar gyfer casgliadau neu arolygon.
Pennu trefn ar hap i atebion Gallwch bennu bod atebion yn ymddangos mewn trefn ar hap. Os yw wedi'i dewis, mae'r opsiwn yn ymddangos pan fyddwch yn creu neu'n golygu pob cwestiwn.
Pennwch a yw atebion yn ymddangos yn llorweddol neu'n fertigol Dewiswch p'un ai bod atebion yn ymddangos yn fertigol neu'n llorweddol. Os yw wedi'i dewis, mae'r opsiwn yn ymddangos pan fyddwch yn creu neu'n golygu pob cwestiwn.
Dynodi opsiynau rhifo ar gyfer atebion Pennu rhifau'r atebion, megis 1, 2, 3 neu A, B, C. Os yw wedi'i dewis, bydd yr opsiwn yn ymddangos pan fyddwch yn creu neu'n golygu pob cwestiwn.

Pan fod yr atebion ar ffurf rhifau, mae'r sawl sy'n cymryd y prawf yn gallu drysu rhwng rhifau sy'n dynodi trefn yr atebion fel rhan o'r atebion. Er mwyn osgoi dryswch, gallwch ddefnyddio llythrennau i ddynodi trefn yr atebion.

Pennu credyd rhannol

Pan fyddwch yn galluogi credyd rhannol, bydd cyfran o gyfanswm pwyntiau cwestiwn yn cael ei dyfarnu pan nad yw'r ateb yn gwbl gywir. Mae rhai mathau o gwestiynau yn caniatáu i chi neilltuo canrannau i atebion.

Gallwch alluogi credyd rhannol pan fyddwch yn creu neu'n golygu rhai mathau o gwestiynau.

Nid yw opsiwn credyd rhannol yn ymddangos ar gyfer cronfeydd neu arolygon.

Gallwch ddefnyddio credyd rhannol ar gyfer y mathau o gwestiynau hyn:

  • Fformiwla sydd wedi’i Chyfrifo
  • Llenwi Cwestiwn Llenwi Bylchau
  • Brawddeg Anghyflawn
  • Cyfatebol
  • Ateb Lluosog
  • Amlddewis
  • Cwestiwn Graddfa Barn/Likert
  • Trefnu
  • Bowlen Gwis

Gallwch aseinio canrannau penodol ar gyfer credyd rhannol yn y mathau hyn o gwestiynau:

  • Fformiwla sydd wedi’i Chyfrifo
  • Ateb Lluosog
  • Amlddewis
  • Cyfatebol
  • Cwestiwn Graddfa Barn/Likert

Enghraifft:

Os byddwch yn cynnwys y cwestiwn Amlddewis hwn gyda phedwar ateb: "Beth sydd ar draeth?" Yr ateb cywir yw "traeth", gwerth 5 pwynt. Ar gyfer dewis arall, "y cefnfor", gallwch roi credyd rhannol o 40%, gan ddyfarnu 2 bwynt ar gyfer yr ateb hwnnw. Os galluogir credyd rhannol ond nid yw pwyntiau negyddol wedi eu galluogi, rhwng 0.0 i 100.0 mae'r gwerthoedd canran dilys ar gyfer cwestiwn.

Defnyddiwch y camau canlynol i alluogi clod rhannol a defnyddiwch glod rhannol hefyd ar gyfer rhai mathau o gwestiynau:

  1. Ar Cynfas y Prawf, dewiswch Gosodiadau Cwestiynau.
  2. Ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau'r Prawf, dewiswch Pennu opsiynau credyd rhannol ar gyfer cwestiynau.
  3. Dewiswch Cyflwyno.
  4. Ar gyfer pob cwestiwn priodol, dewiswch flwch ticio Caniatáu Credyd Rhannol.
  5. Ar gyfer y cwestiynau sy'n eich galluogi i bennu canrannau, teipiwch werth ym mlwch Credyd Rhannol% yr ateb. Darllenir y rhif hwn fel canran. Er enghraifft, bydd teipio 50 yn rhoi 50% o bwyntiau posib y cwestiwn i'r myfyriwr os bydd yn dewis yr ateb hwnnw. Mae sero yn werth derbyniol.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Ar ôl i fyfyrwyr gyflwyno ymgeisiau, ni allwch analluogi opsiwn credyd rhannol ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau'r Prawf. I dynnu opsiwn credyd rhannol o gwestiwn unigol mewn prawf gydag ymgeisiau, cliriwch flwch ticio'r cwestiwn ar gyfer Caniatáu Credyd Rhannol. Dewiswch Cyflwyno a Diweddaru'r Ymgeisiau ac yna Iawn. Caiff sgôr ymgais pob prawf eu hail-gyfrifo.

Os byddwch chi'n trefnu bod credyd rhannol ar gael, rhowch wybod i fyfyrwyr yng nghyfarwyddiadau'r prawf.


Defnyddio pwyntiau negyddol

Gallwch gosbi atebion anghywir myfyrwyr gyda phwyntiau negyddol. Defnyddiwch y nodwedd hon ar gyfer cwestiynau Amlddewis i beidio ag annog dyfalu. Gallwch alluogi opsiwn pwyntiau negyddol pan fyddwch yn creu neu'n golygu cwestiwn.

Nid yw opsiwn pwyntiau negyddol yn ymddangos ar gyfer cronfeydd neu arolygon.

Gallwch ddefnyddio pwyntiau negyddol ar gyfer atebion anghywir ar gyfer y mathau o gwestiynau hyn:

  • Cyfatebol
  • Ateb Lluosog
  • Amlddewis

Enghraifft:

Os yw cwestiwn Amlddewis yn dyfarnu 5 pwynt am ateb cywir a 0 pwynt am ei neidio. Gallwch osod -20% (neu -1 pwynt) ar gyfer pob un o'r atebion anghywir. Y gwerthoedd canan pwyntiau negyddol dilys ar gyfer cwestiwn yw -100.0 i -0.0.

Defnyddiwch y camau hyn i alluogi opsiwn pwyntiau negyddol a'i defnyddio ar gyfer rhai mathau o gwestiynau:

  1. Ar Cynfas y Prawf, dewiswch Gosodiadau Cwestiynau.
  2. Ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau'r Prawf, dewiswch Pennu opsiynau pwyntiau negyddol ar gyfer cwestiynau. Bydd opsiwn pwyntiau negyddol yn ymddangos dim ond os ydych wedi galluogi opsiwn Pennu opsiynau credyd rhannol ar gyfer cwestiynau.
  3. Dewiswch Cyflwyno.
  4. Ar gyfer pob cwestiwn priodol, dewiswch y blychau ticio ar gyfer Caniatáu Credyd Rhannol a Caniatáu Sgorau Negyddol ar gyfer Atebion Anghywir.
  5. Ar gyfer pob ateb anghywir, teipiwch ganran negyddol ym mlwch % Credyd Rhannol. Er enghraifft, bydd teipio -50 yn tynnu 50% o bwyntiau posib y cwestiwn o radd derfynol y myfyriwr am ddewis yr ateb hwnnw. Mae sero yn werth derbyniol.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Ar ôl i fyfyrwyr gyflwyno ymgeisiau, ni allwch analluogi opsiwn pwyntiau negyddol ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau'r Prawf. I dynnu opsiwn pwyntiau negyddol o gwestiwn unigol mewn prawf gydag ymgeisiau, cliriwch flwch ticio'r cwestiwn ar gyfer Caniatáu Credyd Rhannol. Caiff sgorio negyddol ei analluogi hefyd. Dewiswch Cyflwyno a Diweddaru'r Ymgeisiau ac yna Iawn. Caiff sgôr ymgais pob prawf eu hail-gyfrifo.

Os ydych yn defnyddio pwyntiau negyddol er mwyn atal myfyrwyr rhag dyfalu, rhowch wybod i fyfyrwyr yng nghyfarwyddiadau'r prawf.


Dyfarnu credyd ychwanegol

Gallwch alluogi credyd ychwanegol yn yr opsiynau sgorio a'i roi ar waith ar gyfer cwestiynau unigol. Bydd ateb cywir yn ychwanegu'r pwyntiau a restrir ym mlwch Pwyntiau y cwestiwn at y pwyntiau a enillwyd ar gyfer y prawf. Nid yw ateb anghywir yn arwain at ddidynnu pwyntiau. Caiff cwestiynau wedi'u pennu fel rhai gydag chredyd ychwanegol eu tynnu o gyfrifiad y cyfanswm pwyntiau at ddibenion graddio.

Os yw myfyrwyr yn ateb pob cwestiwn yn gywir mewn prawf gyda chwestiynau credyd ychwanegol, byddant yn derbyn sgôr uwch na 100% ar y prawf.

Nid yw opsiwn credyd ychwanegol yn ymddangos ar gyfer casgliadau neu arolygon.

  1. Ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau'r Prawf, dewiswch Darparu opsiwn i bennu cwestiynau fel credyd ychwanegol.
  2. Dewiswch Cyflwyno.
  3. Ar gyfer pob cwestiwn priodol, dewiswch flwch Pwyntiau.
  4. Yn y ffenestr naid, dewiswch y blwch ticio ar gyfer Credyd Ychwanegol.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

I dynnu credyd ychwanegol ar gyfer cwestiwn unigol, cliriwch flwch ticio Credyd Ychwanegol. Gallwch analluogi credyd ychwanegol ar gyfer y prawf cyfan ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau'r Prawf.

Os byddwch yn trefnu bod credyd ychwanegol ar gael, rhowch wybod i fyfyrwyr yn y cwestiwn neu yng nghyfarwyddiadau'r prawf.


Ynglŷn â metadata

Gallwch greu gwerthoedd metadata ar gyfer cwestiynau i helpu i'w trefnu ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol. Gallwch ddefnyddio'r gwerthoedd metaddata a grëwch chi ar gyfer un cwestiwn pan fyddwch yn creu cwestiynau eraill yn yr un cwrs. Ar dudalen Chwilio Cwestiynau, defnyddiwch y gwerthoedd metaddata hyn i helpu i chwilio am gwestiynau i'w hailddefnyddio.

Rhagor am ailddefnyddio cwestiynau

Gallwch ychwanegu'r gwerthoedd metaddata hyn at gwestiynau:

  • Categorïau
  • Pynciau
  • Lefelau Anhawster
  • Allweddeiriau

Mae'r opsiynau metaddata cwestiynau ond yn ymddangos os ddewisoch Ychwanegu categorïau, pynciau, lefelau anhawster, ac allweddeiriau at gwestiynau yn Gosodiadau'r Cwestiynau.

Enghraifft: Cwestiwn gyda metaddata

Os byddwch yn creu'r cwestiwn hwn: Prifddinas Slofenia yw Ljubljana.

Gallwch ddefnyddio'r metaddata canlynol gyda'r cwestiwn:

  • Categori: Daearyddiaeth
  • Pwnc: Iwgoslafia'n flaenorol
  • Lefelau Anhawster: Isel
  • Geiriau Allweddol: Prifddinasoedd y Byd

Bydd y cwestiwn hwn yn ymddangos yn yr hidlydd gweithredol ar dudalen Canfod Cwestiynau pan fyddwch yn dewis Daearyddiaeth neu Cyn Iwgoslafia.


Ychwanegu metaddata at gwestiwn

Gallwch ychwanegu metaddata at gwestiynau fesul un.

  1. Cyrchwch brawf, arolwg, neu gronfa. O ddewislen Creu Cwestiwn, gallwch greu cwestiwn newydd neu ddewis Golygu yn newislen cwestiwn cyfredol.
  2. Yn adran Categorïau ac Allweddeiriau, dewiswch Ychwanegu at gategori, pwnc, lefel anhawster neu allweddair.
  3. Teipiwch gategori, pwnc, lefel anhawster neu allweddair newydd yn y blwch a dewiswch Iawn. Gallwch hefyd gael eitemau lluosog. Gwahanwch bob un gyda choma.
  4. Dewiswch Dewis o Blith Rhai Cyfredol i ddewis categori, pwnc, lefel anhawster neu allweddair cyfredol. Os does dim dewisiadau'n bodoli, nid yw'r opsiwn hwn yn ymddangos.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Rheoli metaddata cwestiynau

  1. Ewch i ddewislen cwestiwn a dewiswch Golygu.
  2. I ddileu categori, pwnc, lefel anhawster neu allweddair, dewiswch yr X nesaf at elfen y metaddata.

    -NEU-

  3. Dewiswch Ychwanegu a theipiwch gategori, pwnc, lefel anhawster neu allweddair newydd yn y blwch a Dewiswch Iawn.
  4. Dewiswch Cyflwyno.