Creu Cwestiwn Traethawd
Yn achos cwestiynau traethawd, mae angen i fyfyrwyr deipio ateb mewn blwch testun ac mae angen i chi raddio’r cwestiynau hyn â llaw.
- Cyrchwch brawf, arolwg, neu gronfa. O’r ddewislen Creu Cwestiwn, dewiswch Traethawd.
- Ar y dudalen Creu/Golygu Cwestiwn Traethawd, teipiwch Destun y Cwestiwn. Gallwch deipio'n uniongyrchol yn y golygydd neu ludo cwestiwn o raglen arall, fel Notepad neu TextEditor. Gallwch ddefnyddio'r golygydd mathemateg pan fyddwch yn creu cwestiynau Traethawd.
- Mae gennych opsiwn i deipio ateb enghreifftiol.
Gallwch hefyd ychwanegu ffeiliau neu gyfryngau at destun y cwestiwn.
- Yn ôl eich dewis, cysylltwch gyfarwyddyd.
- Dewiswch Cyflwyno a Chreu Un Arall neu Cyflwyno i ychwanegu'r cwestiwn at y prawf.
Adborth unigol ar draethodau
Ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau, gallwch osod opsiynau ar adborth ar gyfer cwestiynau unigol.
- Darparu adborth ar gyfer atebion unigol: Os ydych eisiau i'ch adborth ddangos ar gyfer cwestiynau unigol megis Traethodau, dewiswch yr opsiwn hwn. Er bod blwch testun Adborth yn ymddangos yn ddiofyn, ni fydd myfyrwyr yn gweld unrhyw adborth yr ychwanegwch chi oni bai i chi ddewis y blwch ticio hwn. Ni allwch ddarparu adborth unigol ar gyfer atebion i gwestiynau Cywir/Anghywir, Trefnu ac Uno.
- Ychwanegu delweddau, ffeiliau a dolenni gwe at adborth unigol : Byddwch yn gallu ychwanegu delweddau, ffeiliau a dolenni gwe at yr adborth unigol ddarparwch chi.
Cyn i fyfyrwyr agor yr asesiad, cyrchwch y ddewislen i ddewis Golygu neu Dileu. I newid y pwyntiau, dewiswch y blwch sgôr a theipio gwerth newydd.
Gallwch olygu testun cwestiwn Traethawd, hyd yn oed ar ôl i fyfyrwyr wneud cyflwyniadau. Ar ôl i fyfyrwyr agor yr asesiad, ni allwch ychwanegu cwestiynau newydd, dileu cwestiwn, symud y cynnwys, golygu'r gwerthoedd, neu newid pa atebion sy'n gywir.
Dewiswch Alinio â nod o'r ddewislen i alinio nodau â chwestiynau asesiad unigol i helpu eich sefydliad i fesur cyflawniad. Ar ôl i chi drefnu bod yr asesiad ar gael, gall myfyrwyr weld gwybodaeth am y nodau rydych chi'n eu halinio ag asesiadau a chwestiynau fel eu bod yn gwybod eich disgwyliadau.
Rhagor am sut i alinio nodau â chynnwys y cwrs
Golygu ffeiliau o fewn cwestiynau
Gallwch olygu gosodiadau ar gyfer y ffeiliau rydych chi wedi’u hychwanegu at gwestiynau. Dewiswch y ffeil yn y golygydd ac yna dewiswch yr eicon Golygu Atodiad yn y rhes o opsiynau'r golygydd. Gallwch ychwanegu Enw Arddangos a Testun amgen. Mae testun amgen yn disgrifio'r ddelwedd ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin neu'n ymweld â thudalennau gwe â delweddau wedi'u troi i ffwrdd.
Hefyd gallwch ddewis p'un ai i fewnosod y ffeil fel dolen yn y golygydd neu i fewnosod y ffeil yn uniongyrchol fel ei bod yn ymddangos yn unol â chynnwys arall r ydych wedi'i ychwanegu.