Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae cwestiynau Ateb Byr yn debyg i gwestiynau Traethawd. Nid yw ymatebion myfyrwyr yn gyfyngedig o ran hyd, ond mae’r nifer o resi a osodwch ar gyfer y blwch testun yn helpu myfyrwyr i adnabod eich disgwyliadau. Uchafswm nifer y rhesi yw chwech.

Caiff cwestiynau Traethawd ac Ateb Byr eu graddio â llaw.

Rhagor am gwestiynau Ateb Byr gyda JAWS®


Creu cwestiwn Ateb Byr

  1. Cyrchwch brawf, arolwg, neu gronfa. O’r ddewislen Creu Cwestiwn, dewiswch Ateb Byr.
  2. Teipiwch Destun y Cwestiwn.
  3. Dewiswch y Nifer o Resi i’w Harddangos yn y Parth Ateb o’r ddewislen. Bwriedir nifer y rhesi fel canllaw ar gyfer hyd ymateb myfyriwr. Nid yw’n gosod terfyn llwyr ar hyd ateb.
  4. Teipiwch enghraifft o ateb cywir yn y blwch Testun Ateb.

    Gallwch hefyd ychwanegu ffeiliau neu gyfryngau at destun y cwestiwn.

  5. Yn ôl eich dewis, cysylltwch gyfarwyddyd.
  6. Dewiswch Cyflwyno a Chreu Un Arall neu Cyflwyno i ychwanegu'r cwestiwn at y prawf.

Mae'r math o gwestiwn hwn a'i feysydd bellach yn cefnogi ffeiliau a atodir a chyfryngau (delweddau a dolenni i ffeiliau) gan ddefnyddio'r botwm Ychwanegu Cynnwys yn y golygydd.

Adborth unigol ar Atebion Byr

Ar dudalen Gosodiadau Cwestiynau, gallwch osod opsiynau ar adborth ar gyfer cwestiynau unigol.

  • Darparu adborth ar gyfer atebion unigol: Os ydych eisiau i'ch adborth ddangos ar gyfer cwestiynau unigol megis Traethodau, dewiswch yr opsiwn hwn. Er bod blwch testun Adborth yn ymddangos yn ddiofyn, ni fydd myfyrwyr yn gweld unrhyw adborth yr ychwanegwch chi oni bai i chi ddewis y blwch ticio hwn. Ni allwch ddarparu adborth unigol ar gyfer atebion i gwestiynau Cywir/Anghywir, Trefnu ac Uno.
  • Ychwanegu delweddau, ffeiliau a dolenni gwe at adborth unigol : Byddwch yn gallu ychwanegu delweddau, ffeiliau a dolenni gwe at yr adborth unigol ddarparwch chi.

Rhagor ynghylch gosodiadau cwestiynau