Galluogi graddio dyddlyfrau

I ysgogi myfyrwyr i bostio cyfraniadau diddorol, gallwch wneud i ddyddlyfr gyfrif tuag at radd. Pan fyddwch yn galluogi graddio ar gyfer dyddlyfr, crëir colofn yn awtomatig yn y llyfr graddau.

Dewiswch botwm y gêr i agor panel Gosodiadau'r Dyddlyfr. Dewiswch yr opsiwn ar gyfer Graddio Dyddlyfr. Pan fyddwch yn dewis graddio dyddlyfr, bydd rhagor o opsiynau yn ymddangos megis dyddiad cyflwyno a’r uchafswm o bwyntiau.

Journal Settings panel

Rhowch ddyddiad cyflwyno. Mae dyddiadau cyflwyno yn ymddangos yn y calendr ac yn y ffrwd gweithgarwch. Anogwch fyfyrwyr i adolygu beth y dylent ei gyflwyno nawr a beth sydd ar ddod er mwyn iddynt allu gofyn cwestiynau cyn gynted â phosibl.

Rhowch yr uchafswm o bwyntiau. Defnyddir y pwyntiau gydag un neu fwy o gofnodion a wnaed gan fyfyriwr.

Dewiswch gategori'r radd. Mae defnyddio amrywiaeth o asesiadau yn arfer gorau wrth gynllunio cyrsiau. Mae categoreiddio asesiadau yn bwysig i hyfforddwyr sy'n neilltuo pwysau i gategorïau yng nghyfrifiad y radd gyffredinol

Dewiswch y sgema graddio. O ddewislen Graddio gan ddefnyddio, dewiswch sgema graddio sydd eisoes yn bodoli megis Pwyntiau. Gallwch newid y sgema graddio ar unrhyw adeg a bydd y newid yn dangos i fyfyrwyr ac yn eich llyfr graddau.

Ychwanegu cyfarwyddyd graddio. Gall defnyddio cyfarwyddiadau eich helpu i werthuso gwaith a gyflwynir gan fyfyrwyr yn seiliedig ar feini prawf allweddol rydych yn eu diffinio. Gallwch greu neu ychwanegu cyfarwyddyd sydd eisoes yn bodoli er mwyn i fyfyrwyr allu gweld gofynion y gwaith a raddir. Gallwch ond gysylltu un cyfarwyddyd â phob dyddlyfr.


Llif gwaith graddio dyddlyfrau sylfaenol

Pan fydd cyflwyniadau dyddlyfr a raddir yn barod i gael eu graddio, rhoddir gwybod i chi yn y ffrwd gweithgarwch. Dewiswch y ddolen i agor y dyddlyfr mewn haen newydd i adolygu'r cofnodion.

Gallwch hefyd agor y dyddlyfr o dudalen Cynnwys y Cwrs a defnyddio'r camau hyn i raddio'r cyflwyniadau.

  1. Ar ôl i chi adolygu cofnodion a sylwadau dyddlyfr myfyriwr, caewch haen y dyddlyfr a dewiswch Llyfr Graddau ar y bar llywio.
  2. Ar dudalen y Llyfr Graddau yn y wedd Eitemau Graddadwy, gallwch weld y nifer o fyfyrwyr sydd wedi gwneud cofnodion. Newidiwch i'r wedd Graddau i ddechrau graddio. 
  3. Ewch i golofn y dyddlyfr. Mae Cyflwyniad Newydd yn ymddangos mewn celloedd ar gyfer myfyrwyr sydd â chofnodion sydd angen eu graddio. Dewiswch y gell a dewiswch Gweld i ddarllen y cyflwyniad. Cliciwch unrhyw le y tu allan i ardal y graddau i gadw. 
Journals in Gradebook in grid view

Gallwch hefyd ddefnyddio offer graddio, gan gynnwys adborth a chyfarwyddiadau, i greu a chyhoeddi graddau. Mae'r gweddau cyfranogiad a chyflwyniad y dyddlyfr yn cysylltu â’r llyfr graddau er mwyn graddio’n haws.

Cyhoeddi graddau

Pan fyddwch yn barod i ryddhau graddau i fyfyrwyr, dewiswch yr opsiwn Cyhoeddi ym mhennyn y golofn. Mae'r holl raddau rydych wedi'u haseinio ar gyfer y golofn hon yn cael eu postio i fyfyrwyr eu gweld. Os rydych eisiau cyhoeddi un ar y tro, cliciwch yng nghell myfyriwr a dewiswch Cyhoeddi yn y ddewislen. Mae graddau a gyhoeddwyd wedi'u labelu fel Cyhoeddwyd.

Ar ôl i chi bostio graddau dyddlyfrau, gall myfyrwyr weld eu sgoriau ar eu tudalennau graddau neu yn y ffrwd gweithgarwch. Gallant hefyd gael mynediad at eu cyfraniadau dyddlyfr a'u graddau o'r ddolen i’r dyddlyfr ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Newid dyddlyfr a raddir i ddyddlyfr heb ei raddio

Pan fyddwch yn newid dyddlyfr a raddir i ddyddlyfr heb ei raddio, dilëir y graddau ond bydd y dyddlyfr yn aros ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Tynnir y dyddlyfr o'r llyfr graddau.


Dileu dyddlyfr a raddir

Os ydych yn dileu dyddlyfr a raddir, tynnir y dyddlyfr o dudalen Cynnwys y Cwrs a’r llyfr graddau.