Chwilio mewn trafodaeth
Gallwch chwilio am bostiadau myfyriwr penodol. Yn y blwch Canfod cyfranogwyr, cyfyngwch eich chwiliad i ychydig o lythrennau neu enw cyntaf neu olaf i gael y canlyniadau gorau. Dewiswch enw o'r canlyniadau i weld pob ateb ac ymateb gan y myfyriwr yn yr un lle. Mae postiadau'r myfyriwr yn ymddangos wedi’u hamlygu.
Cliriwch y blwch Canfod cyfranogwyr i weld y rhestr lawn eto.
Hidlo trafodaeth
Gallwch hefyd ddewis enw yn y rhestr Cyfranogwyr i weld atebion ac ymatebion y myfyriwr hwnnw mewn un lle. Mae postiadau'r myfyriwr yn ymddangos wedi’u hamlygu. Dewiswch enw'r myfyriwr eto i ddychwelyd i’r brif drafodaeth.