Creu cwestiwn amlddewis neu amlateb
Graddir cwestiynau amlddewis ac amlateb yn awtomatig. Os oes gan asesiad y mathau hyn o gwestiynau yn unig, mae'r sgorau asesiad yn cael eu cyhoeddi'n awtomatig i fyfyrwyr eu gweld.
Byddwch yn defnyddio'r un broses i greu cwestiynau mewn profion ac aseiniadau.
I greu cwestiynau amlateb, defnyddiwch y math o gwestiwn amlddewis a dewiswch atebion cywir lluosog. Gallwch ganiatáu credyd rhannol a negyddol ar gyfer atebion.
Nid oes gan gwestiynau newydd atebion cywir diofyn. Ni allwch gadw newidiadau oni bai eich bod yn dewis o leiaf un ateb cywir ac yn ychwanegu testun ar gyfer pob un o'ch atebion.
Mae gan gwestiynau werth diofyn o 10 pwynt, ond gallwch ddewis y blwch pwyntiau i roi gwerth gwahanol.
Os ydych eisiau mwy na phedwar blwch ateb, dewiswch Ychwanegu Opsiwn. Gallwch newid trefn yr atebion a'u dileu yn ôl yr angen.
Rhagor am greu cwestiynau Amlddewis
Credyd rhannol a negyddol
Gallwch ganiatáu credyd rhannol a negyddol am gwestiynau amlddewis i wobrwyo myfyrwyr sydd â dealltwriaeth rannol a meithrin profiad dysgu cadarnhaol.
O gwestiwn amlddewis, rhowch eich atebion a dewis y rhai cywir. Wedyn, dewiswch Caniatáu credyd rhannol a negyddol. Mae'r rhaglen yn dosbarthu'r swm credyd 100% yn awtomatig ar draws yr ymatebion cywir. Er enghraifft, os oes gan gwestiwn ddau ateb cywir, mae pob un yn werth 50%.
- Os nad ydych am rannu'r atebion yn gyfartal, gallwch olygu'r gwerth positif ar gyfer pob ateb cywir.
- I dynnu pwyntiau am ateb anghywir, rhowch werth canrannol negyddol.
- I ganiatáu sgôr gyffredinol negyddol ar gyfer y cwestiwn, dewiswch Caniatáu sgôr cyffredinol negyddol.