Am gwestiynau Llenwi’r Bwlch
Mae cwestiwn Llenwi’r Bwlch yn cynnwys ymadrodd, brawddeg, neu baragraff â bwlch gwag lle dylai'r myfyriwr roi'r gair neu eiriau sydd ar goll. Gallwch hefyd greu cwestiwn gyda bylchau lluosog.
Enghraifft:
Mae [Patriarchaeth] yn cyfieithu i "rheol gan y tad.”
Graddir cwestiynau Llenwi'r Bwlch yn awtomatig. Sgorir atebion yn seiliedig ar a yw ateb y myfyriwr yn cyd-fynd â'r atebion cywir rydych chi'n eu rhoi. Gallwch ddewis y dull gwerthuso ar gyfer atebion:
- Cyfatebiaeth union
- Yn cynnwys rhan o’r ateb cywir
- Yn cyfateb i batrwm rydych chi’n ei bennu
Rydych yn dewis a yw’r atebion yn sensitif i lythrennau bach/mawr.
Mae angen i atebion fod yn fanwl gywir (cyfatebiad union) neu gael eu dewis i gyfateb i batrwm a chael eu diffinio yn unol â hynny.
Creu cwestiwn Llenwi’r Bwlch
Pan fyddwch yn creu prawf newydd, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen. Mewn prawf sydd eisoes yn bodoli, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu cwestiwn. Dewiswch Creu cwestiwn Llenwi’r Bwlch.
Byddwch yn defnyddio'r un broses y byddech yn ei defnyddio i greu cwestiynau mewn profion ac aseiniadau.
Teipiwch eich cwestiwn ac ychwanegwch cromfachau o amgylch yr ateb. Gallwch ddefnyddio'r opsiynau yn y golygydd i fformatio’r testun ac ychwanegu fformiwlâu, ffeiliau, delweddau a dolenni.
Dylech wahanu atebion cywir lluosog gyda hanner colon.
Enghraifft: Un o'r lliwiau cynradd yw [coch; glas; melyn].
Gallwch hefyd ddefnyddio ymadrodd rheolaidd. Dim ond un ymadrodd fesul bwlch fydd yn cael ei gydnabod. Nodwch eich bod yn ychwanegu cromfachau o amgylch yr ymadrodd rheolaidd ac o amgylch yr ateb.
Enghraifft: Mae [[a-zA-Z]] yn lythyren yn y wyddor.
Mae gan gwestiynau werth rhagosodedig o 10 pwynt. Dewiswch y blwch Pwyntiau i deipio gwerth newydd.
Nodwch bod Arbed wedi’i analluogi oherwydd eich bod angen gwneud gosodiadau yn y cam nesaf. Dewiswch Cam Nesaf i barhau.
Yn y ddewislen Math Ymateb, dewis sut mae’r ateb yn cael ei werthuso yn erbyn ateb myfyriwr:
- Cyfatebiaeth union
- Yn cynnwys cyfatebiaeth
- Cydweddu patrwm
Dewiswch y blwch ticio Adnabod Llythrennau Bach a Phriflythrennau os ydych am ystyried priflythrennau.
Dewiswch Cam Blaenorol os ydych chi angen gwneud diwygiadau. Dewiswch Cadw pan rydych wedi gorffen.
Mae’r cwestiwn yn dangos pa fath o ymateb rydych yn ei ddewis, fel Rhaid i ymatebion gyfateb yn union.
Rhagor am olygu neu ddileu cwestiynau
Am greu atebion
Cadwch atebion ar gyfer y bylchau yn syml a chryno. Er mwyn osgoi anawsterau gyda graddio awtomatig, gallwch gyfyngu atebion i un gair. Mae atebion un gair yn osgoi problemau megis bylchau ychwanegol neu drefn geiriau gan achosi i ateb cywir gael ei sgorio fel un anghywir.
- Dewiswch Yn Cynnwys o’r ddewislen Math o Ymateb i ganiatáu talfyriadau neu atebion rhannol. Mae'r opsiwn hwn yn cyfrif ateb myfyriwr fel un cywir os yw'n cynnwys y gair neu eiriau a ddynodir gennych. Er enghraifft, crëwch ateb sengl sy'n cynnwys Franklin er mwyn cyfrif Benjamin Franklin, Franklin, B Franklin, B. a Ben Franklin fel atebion cywir. Yna, nid oes rhaid i chi chi restru'r holl bosibiliadau derbyniol ar gyfer yr ateb Benjamin Franklin.
- Dewiswch Cydweddu Patrymau o’r ddewislen Math o ymateb a chreu ymadrodd rheolaidd sy’n caniatáu amrywiadau sillafu, gofod neu amrywiadau priflythrennau.
Cydweddu patrwm
Pan fyddwch yn dewis cydweddu patrwm ar gyfer ateb, gallwch brofi’r patrwm a bydd ffenestr newydd yn agor. Mae tic yn ymddangos ar gyfer patrwm sy’n gweithio. Gallwch hefyd deipio ateb cywir disgwyliedig a phrofi eich patrwm.
Byddwch yn derbyn neges gwall os na all eich patrwm gael ei werthuso er mwyn i chi allu gwneud newidiadau.
Ychwanegu ffeiliau at gwestiwn Llenwi’r Bwlch
Er mwyn helpu i drefnu cynnwys eich asesiad, gallwch ychwanegu ffeiliau o fewn cwestiynau unigol. Gwnewch ddewis o ddewislen Mewnosod Cynnwys y golygydd, megis Mewnosod o'r Storfa Cwmwl.
Gallwch olygu gosodiadau ar gyfer y ffeiliau rydych chi wedi’u hychwanegu at gwestiynau. Dewiswch y ffeil yn y golygydd ac yna dewiswch yr eicon Golygu Atodiad yn y rhes o opsiynau'r golygydd. Gallwch ychwanegu Enw Arddangos a Thestun Amgen. Mae testun amgen yn disgrifio'r ddelwedd ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenyddion sgrin neu'n ymweld â thudalennau gwe gyda delweddau wedi'u diffodd.
Hefyd gallwch ddewis p'un ai i fewnosod y ffeil fel dolen yn y golygydd neu i fewnosod y ffeil yn uniongyrchol fel ei bod yn ymddangos yn unol â chynnwys arall rydych wedi'i ychwanegu.
Golygu neu ddileu cwestiwn Llenwi’r Bwlch
Cyn i fyfyrwyr agor yr asesiad, cyrchwch y ddewislen i ddewis Golygu neu Dileu. I newid y pwyntiau, dewiswch y blwch pils sgôr a theipio gwerth newydd.
Dewiswch Alinio â nod o'r ddewislen i alinio nodau â chwestiynau asesiad unigol i helpu eich sefydliad i fesur cyflawniad. Ar ôl i chi drefnu bod yr asesiad ar gael, gall myfyrwyr weld gwybodaeth am y nodau rydych chi'n eu halinio ag asesiadau a chwestiynau fel eu bod yn gwybod eich disgwyliadau.
Rhagor am sut i alinio nodau â chynnwys cwrs
Ar ôl derbyn cyflwyniadau
Gallwch olygu testun y rhan fwyaf o gwestiynau ac atebion, hyd yn oed ar ôl i fyfyrwyr wneud cyflwyniadau. Er enghraifft, efallai eich bod wedi dewis yr ateb anghywir, wedi dod o hyd i wall sillafu, neu eisiau newid pwyntiau neu opsiynau sgorio. Gallwch wneud newidiad y bydd pob myfyriwr yn ei weld a diweddaru pob gradd yn awtomatig.
Ar ôl i fyfyrwyr agor prawf, ni allwch ychwanegu cwestiynau na fylchau newydd, dileu cwestiwn neu fwlch, neu symud y cynnwys.
Mewn prawf neu gyflwyniad myfyriwr, agorwch ddewislen cwestiwn a dewiswch Golygu/Ailraddio i wneud newidiadau. Derbyniwch rybudd ar ôl cadw'ch newidiadau os oes gyflwyniadau myfyrwyr a bydd ailraddiad.
Graddio cwestiynau Llenwi’r Bwlch
Graddir cwestiynau Llenwi'r Bwlch yn awtomatig. Sgorir atebion yn seiliedig ar a yw ateb y myfyriwr yn cyd-fynd â'r atebion cywir rydych chi'n eu rhoi. Mae pob cwestiwn Llenwi’r Bwlch yn dangos Cywir neu Anghywir a pha ymatebion rydych wedi'u dewis, fel Rhaid i ymatebion gyfateb yn union.
Ni allwch newid y pwyntiau mae myfyriwr unigol wedi'u hennill ar gyfer cwestiwn a raddir yn awtomatig.
Rhoi credyd rhannol ar gwestiynau llenwi'r bwlch
Gellir rhoi credyd rhannol ar gwestiynau llenwi'r bwlch. Mae hyn yn wych ar gyfer yr hyfforddwyr hynny sydd eisiau graddio ymgeisiau myfyrwyr ar lefel mwy gronynnol. Gall hefyd fod o fudd i fyfyrwyr yn seiliedig ar eu hymdrech gysylltiedig ar gwestiynau cymhleth a rhoi cynrychioliad mwy cywir o'u hyfedredd.
Golygwch gwestiwn llenwi'r bwlch ac yn yr Opsiynau sgorio dewiswch Caniatáu credyd rhannol.