Ychwanegu cwestiynau Amlddewis/Amlateb

Pan fyddwch yn creu prawf newydd, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen. Mewn prawf sydd eisoes yn bodoli, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu cwestiwn. Dewiswch Ychwanegu cwestiwn Amlddewis.

Byddwch yn defnyddio'r un broses y byddech yn ei defnyddio i greu cwestiynau mewn profion ac aseiniadau.

Gyda chwestiynau Amlddewis, mae myfyrwyr yn dewis un neu fwy o atebion cywir o nifer o ddewisiadau. Ni roddir gwybod i fyfyrwyr bod rhaid iddynt ddewis un ateb neu nifer o atebion.

Gallwch drefnu atebion ar gyfer cwestiynau Cyfatebu ac Amlddewis ar hap yn unig. Os ydych eisiau trefnu atebion ar hap ar gyfer cwestiynau Gwir/Gau, defnyddiwch y math o gwestiwn Amlddewis gyda dewisiadau ateb Gwir a Gau.

View of a multiple choice question.

Graddir cwestiynau Amlddewis ac Amlateb yn awtomatig. Os byddwch yn cynnwys mwy nag un ateb cywir ar gyfer cwestiwn, gallwch ddewis rhoi credyd rhannol neu negyddol.

This is how the expanded Add question type menu looks like when you’re creating a new test.

Mae'r ardal Cynnwys Prawf yn agor lle byddwch yn creu'r cwestiwn ac atebion. Mae gan gwestiynau werth rhagosodedig o 10 pwynt. Dewiswch y blwch Pwyntiau i deipio gwerth newydd.

Nid oes gan gwestiynau Dewis Lluosog newydd atebion cywir diofyn. Ni allwch gadw newidiadau oni bai i chi ddewis o leiaf un ateb cywir ac ychwanegu testun ar gyfer pob un o'ch atebion.

I helpu i gadw eich cynnwys prawf yn drefnus, gallwch ychwanegu ffeiliau o fewn cwestiynau unigol. Gwnewch ddewis o ddewislen Mewnosod Cynnwys y golygydd, megis Mewnosod o'r Storfa Cwmwl. I olygu'r ffeiliau a ychwanegoch, ewch i'r modd golygu ar gyfer y cwestiwn.

Rhagor am ychwanegu testun a ffeiliau

Rhagor am storfa cwmwl

Mwy ar olygu profion a chwestiynau

Drws nesaf i'r pedwar blwch ateb diofyn, gallwch ddileu blychau ateb nad oes eu hangen arnoch. Os ydych eisiau mwy na phedwar blwch ateb, dewiswch Ychwanegu Dewis. Gallwch ychwanegu cynifer o flychau ateb ag y bo angen. Dewiswch yr eicon Symud i symud ateb. Dewiswch eicon y bin sbwriel i ddileu ateb.

Mae'n rhaid bod gan bob cwestiwn Dewis Lluosog o leiaf dau ddewis ateb ac un neu fwy o atebion cywir. Dilëwch unrhyw feysydd gwag i alluogi'r opsiwn Cadw. Gallwch ddewis sut i sgorio cwestiynau sydd ag atebion lluosog .

Gallwch ddefnyddio'r swyddogaethau yn y golygydd i fformatio testun.

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.


Alinio cwestiwn amlddewis â nodau

Gallwch alinio nodau â chwestiynau asesiadau unigol er mwyn helpu eich sefydliad i fesur cyrhaeddiad. Ar ôl ichi drefnu bod y prawf ar gael, gall myfyrwyr weld gwybodaeth am y nodau rydych chi'n eu halinio gyda chwestiynau fel eu bod yn gwybod eich disgwyliadau.

Ewch i ddewislen cwestiwn, dewiswch Alinio â nod, a dewiswch nodau.

Rhagor am sut i alinio nodau â chynnwys cwrs

Top right hand side corner menu highlighted to edit, align with goal or delete a question.

Graddio cwestiynau Amlddewis/Amlateb

Graddir cwestiynau Amlddewis ac Amlateb yn awtomatig. Rhoddir sgôr i atebion yn seiliedig ar yr opsiwn sgorio a ddewisoch ar gyfer cwestiynau cywir lluosog ac a yw atebion y myfyriwr yn cyfateb i'r un neu fwy o atebion cywir. Gallwch guddio neu ddangos y dewisiadau ateb wrth i chi adolygu cyflwyniadau.

Ni chewch newid sgoriau cwestiynau unigol sy’n cael eu graddio’n awtomatig.

View of a correct answer with partial credit feedback and cumulated total grade on the top right hand side corner.