Mae Turnitin®, offeryn trydydd parti, yn gwella cylch ysgrifennu myfyrwyr trwy hyrwyddo gwreiddioldeb a darparu adborth cyfoethog i fyfyrwyr. Ewch i wefan help Turnitin i ddysgu mwy am sut i'w ddefnyddio.
Dysgu mwy am sut mae myfyrwyr yn cyflwyno aseiniadau Ultra gan ddefnyddio Turnitin.
Defnyddio Turnitin ar gyfer aseiniadau Ultra
Galluogi Turnitin
Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Turnitin, gellir galluogi Turnitin ar aseiniadau Ultra. Mae hyn yn caniatáu i gyflwyniadau myfyrwyr gael eu cyfateb a'u cymharu â chronfa ddata Turnitin.
Bydd cleientiaid sydd wedi'u cofrestru a'u cymeradwyo gan Turnitin yn cael mynediad i'r nodwedd. Mae rhaid galluogi Graddio Hyblyg i gael mynediad i sgoriau'r Adroddiad Gwreiddioldeb.
Creu a golygu aseiniadau â Turnitin
Wrth greu neu olygu aseiniad, dewiswch Adroddiad Gwreiddioldeb yng Ngosodiadau'r Aseiniad. Ym mhanel yr Adroddiad Gwreiddioldeb, trowch Galluogi Turnitin YMLAEN (mae ymlaen yn cael ei ddangos gan dic gwyrdd).
Mae Turnitin yn darparu nifer o opsiynau eraill ym mhanel yr Adroddiad Gwreiddioldeb i addasu sut mae Turnitin yn sgorio cyflwyniadau myfyrwyr. Am esboniad llawn o'r opsiynau hyn, ewch i wefan gymorth Turnitin.
Graddio aseiniadau Ultra â Turnitin
Wrth raddio asesiadau, bydd sgôr Gwreiddioldeb Turnitin yn ymddangos ym mhanel Cynnwys Asesiad cyflwyniad myfyriwr. Mae'r sgôr yn ganran allan o 100. Er enghraifft, os nad yw Turnitin yn canfod unrhyw debygrwydd rhwng cyflwyniad myfyriwr a deunyddiau y mae'n cael ei gymharu â nhw, bydd yn cael sgôr o 0%.
Am fwy o wybodaeth am swyddogaethau Turnitin, ewch i'w gwefan gymorth.
Ar gyfer gweinyddwyr: Mae'r nodwedd hon ar gael yng ngosodiadau Rheoli'r Profiad Ultra fel "Prosesydd Asedau mewn Sefydliad." Mae'r nodwedd ymlaen yn ddiofyn. Diffoddwch yr Integreiddiad Turnitin drwy osod y nodwedd hon i I fwrdd.