Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.


Ailddefnyddio cwestiynau

Yn y Wedd Cwrs Ultra, gallwch ailddefnyddio cwestiynau a chynnwys arall o'r holl brofion, aseiniadau a banciau cwestiynau presennol yn eich cwrs. Gallwch hefyd gopïo banciau cwestiynau o gyrsiau eraill a  mewngludo cwestiynau i’ch cwrs i'w hychwanegu at eich asesiadau.

Ar y dudalen Ailddefnyddio Cwestiynau, gallwch bori, rhagolygu, hidlo a dewis cwestiynau a grëwyd neu a fewngludwyd i mewn i'ch cwrs. Gallwch weld y cwestiynau, ond ni allwch wneud newidiadau hyd nes y byddwch yn copïo'r cwestiynau i'ch asesiad. Gallwch hefyd ailddefnyddio cynnwys arall rydych wedi'i ychwanegu at asesiadau, megis blociau testun, ffeiliau, delweddau a fideos.

Ni allwch ailddefnyddio cwestiynau pan fydd y gosodiadau neu'r amgylchiadau hyn yn bodoli:

Hefyd, ni allwch ailddefnyddio blociau testun neu ffeiliau os dewiswch chi drefnu cwestiynau ar hap.

Chwilio am gwestiynau

Mewn asesiad, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag yr hoffech ailddefnyddio cwestiynau neu gynnwys asesu. Dewiswch Ailddefnyddio Cwestiynau o'r ddewislen. Mae'r cwestiynau a'r cynnwys a gopïwyd yn cael eu mewnosod ar yr adeg hon yn yr asesiad.

Golwg golygu prawf. Mae'r ddewislen ychwanegu cwestiwn ar agor ac mae ailddefnyddio cwestiynau wedi'i amlygu.

Ar y dudalen Ailddefnyddio Cwestiynau, mae'r panel Meini Prawf Hidlo wedi’i agor yn ddiofyn ac mae'r holl gwestiynau a chynnwys asesu yn ymddangos yn y maes hidlo gweithredol ar y dde. Mae'r maes hidlo gweithredol yn newid yn awtomatig wrth i chi ddewis neu glirio meini prawf. Gallwch ehangu a chwympo adrannau.

Mae'r wybodaeth ar frig y panel yn dangos faint o eitemau cyfan sy'n ymddangos i ddewis rhyngddynt. Os ydych yn gwneud detholiadau yn y panel Meini Prawf Hidlo, bydd y nifer yn ymddangos uwchben y panel nesaf at Hidlo. Dewiswch yr X i gwympo'r panel a chynyddu'r ardal i weld cynnwys. Dewiswch Hidlo i agor y panel.

Ar ddyfeisiau bach, mae'r panel Meini Prawf Hidlo wedi’i gau yn ddiofyn.

Dewiswch yr asesiadau, banciau cwestiynau, mathau o gwestiynau, a thagiau rydych eisiau eu pori. Caiff ffynonellau, mathau o gwestiynau neu dagiau gwag eu ffiltro allan.

Llenwir yr adrannau Banc Cwestiynau a Tagiau pan fyddwch yn trosi cyrsiau Gwreiddiol neu’n mewngludo cronfeydd cwestiynau Gwreiddiol neu adnoddau eraill yn unig.

Bydd testun a ffeiliau ychwanegoch at eich asesiadau'n ymddangos yn adran Mathau o Gwestiynau fel Arall.

Panel Ailddefnyddio cwestiynau ar agor yn amlygu popeth yn y panel Hidlo

Yn y panel Hidlo Meini Prawf, gallwch gyfer chwiliad sylfaenol yn ôl allweddair. Ar ôl i chi deipio un allweddair, bydd maes arall yn ymddangos. Mae'n bosibl y bydd pob allweddair perthnasol yn cynyddu nifer y canlyniadau. Mae'r canlyniadau'n cynnwys ffurfiau unigol a lluosog geiriau ac amser y ferf. Ni fydd rhesymeg geiriau rhannol nac yn cynnwys yn gweithio gyda'r chwiliad sylfaenol hwn.

Panel hidlo ailddefnyddio cwestiynau ar agor yn amlygu'r adran chwilio yn ôl allweddeiriau.

Gallwch ehangu cwestiynau a chynnwys i'w gweld. Ni allwch olygu'r cynnwys na'r gwerthoedd pwyntiau nes i chi gopïo'r eitemau i asesiad. Mae cwestiynau ag aliniadau nod yn ymddangos ag eiconau tlws wrth ymyl y gwerthoedd pwyntiau. Mae aliniadau nod yn copïo â'r cwestiynau.

Dewiswch y blychau nodi ar gyfer y cwestiynau a chynnwys asesiad rydych am eu copïo. Gallwch weld faint o eitemau rydych wedi'u dewis ar waelod y sgrîn.

Dewiswch Clirio popeth i glirio'r blychau nodi yn y maes Ffynonellau . Os ydych eisoes wedi dewis rhai eitemau i'w copïo, mae'r eitemau hynny'n dal i fod yn barod i'w copïo. Yn y maes hidlo gweithredol, cliriwch y blychau ticio ar gyfer y cwestiynau a'r cynnwys asesu nad ydych am eu copïo bellach. Gallwch hefyd ddefnyddio Dewis popeth a Clirio popeth i ddewis a thynnu pob cwestiwn.

Panel hidlo ailddefnyddio cwestiynau ar agor yn amlygu'r opsiwn clirio'r cyfan

Dewiswch Copïo Cwestiynau. Mae'r cwestiynau a'r cynnwys asesu yn cael eu copïo i'ch prawf neu'ch aseiniad. Yn yr asesiad, byddwch yn derbyn hysbysiad: X cwestiwn wedi'u copïo'n llwyddiannus i'r asesiad.

Neges llwyddiant yn nodi y copïwyd cwestiynau i'r prawf

Gallwch olygu'r copïau yn eich asesiad heb bryder. Ni fydd effaith ar asesiadau eraill. Ni fydd newidiadau a wneir i un enghraifft o'r cwestiwn neu gynnwys yn cael eu gweld yn yr enghreifftiau eraill. Os ydych am i newidiadau ddangos ym mhob achos, bydd rhaid i chi ganfod a golygu pob enghraifft wedi'i chopïo.

Ehangu cwestiynau a chynnwys

Gallwch ehangu cwestiynau a chynnwys i'w gweld.

Edit view of a test showing the matching question before and after it is expanded.

Defnyddiwch eich bysellfwrdd i lywio trwy gwestiynau

Gallwch ddefnyddio'r bysellfwrdd i lywio yn y ffyrdd hyn:

  • Defnyddiwch y saethau i fyny ac i lawr i lywio trwy'r cwestiynau.
  • Defnyddiwch y saethau i'r dde a'r chwith i ehangu a chwympo cwestiynau.
  • Defnyddiwch y fysell TAB i lywio grwpiau ffynhonnell.
  • Dewiswch flychau ticio â'r bylchwr.

Beth sy'n digwydd i gwestiynau fy ngwrs Gwreiddiol pan fyddaf yn trosi'r cwrs yn gwrs Ultra?

Mae cronfeydd cwestiynau'r cwrs Gwreiddiol yn ymddangos fel banciau cwestiynau ar ôl trosi'r cwrs. Mae mathau o gwestiwn heb gymorth yn cael eu tynnu. Gallwch gyrchu'ch banciau cwestiynau ar y dudalen Ailddefnyddio Cwestiynauyn unig.

Pan fyddwch yn trosi cwrs Gwreiddiol yn gwrs Ultra, mae dau le degol yn cario drosodd.