Ynghylch cwestiynau fformiwla wedi'i chyfrifo
Mae cwestiynau Fformiwla wedi'i Chyfrifo yn cyflwyno cwestiwn i fyfyrwyr sy'n gofyn iddynt wneud cyfrifiad ac ymateb ar ffurf rhif. Mae'r niferoedd dan sylw'n newid gyda phob myfyriwr ac fe'u tynnir o amrediad rydych chi'n ei osod. Mae'r ateb cywir yn werth neu’n amrediad gwerthoedd penodol.
Mae hyfforddwr yn creu'r cwestiwn hwn:
Os gall gwydryn bach gynnwys [x] owns o ddŵr, ac y bydd gwydryn mawr yn cynnwys [y] owns o ddŵr, beth yw cyfanswm yr ownsys mewn 4 gwydryn mawr a 3 gwydryn bach o ddŵr?
Pan fydd myfyriwr yn gweld y cwestiwn, disodlir newidynnau [x] a [y] gan werthoedd a gynhyrchir ar hap o ystodau o rifau mae'r hyfforddwr yn eu nodi.
Creu cwestiynau fformiwla wedi'i chyfrifo
Pan fyddwch yn creu prawf newydd, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen. Mewn prawf sydd eisoes yn bodoli, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu cwestiwn. Dewiswch Ychwanegu cwestiwn Fformiwla sydd wedi’i Chyfrifo.
Byddwch yn defnyddio'r un broses y byddech yn ei defnyddio i greu cwestiynau mewn profion ac aseiniadau.
Mae'r ardal Cynnwys y Prawf yn agor lle byddwch yn creu'r cwestiynau ac yn ychwanegu'r fformiwla. Mae gan gwestiynau werth rhagosodedig o 10 pwynt.
Bydd fformiwlâu yn rendro fel ffeiliau SVG ar gyfer ansawdd gwell
- Gall Testun y Cwestiwn gynnwys newidynnau neu hafaliadau syml. Rhowch gromfachau petryal o amgylch newidion. Disodlir newidion gan werthoedd pan fyddant yn cael eu dangos i fyfyrwyr.
Mae rhaid i newidion gynnwys llythrennau, ac ni allwch ailddefnyddio enwau newidion. Mae newidion yn gallu cynnwys mwy nag un nod, megis [ab] neu [cd].
Ystyrir 'sin', 'cos', 'tan', 'asin', 'acos', 'atan', 'csc', 'sec', 'cot', 'log', 'In', 'round', 'e', a 'pi' fel newidion cadw ac felly ni allwch eu defnyddio.
- Y Fformiwla Ateb yw'r mynegiad mathemategol a ddefnyddir i ddod o hyd i'r ateb cywir. Dewiswch weithredyddion a swyddogaethau ar draws top y blwch Fformiwla Ateb. Yn yr enghraifft, y fformiwla yw 4y+3x.
Dewiswch a ydych eisiau Dangos fformiwla i fyfyrwyr.
- Dewiswch Nesaf i barhau.
Diffiniwch osodiadau ateb ar gyfer cwestiynau wedi'u cyfrifo
Ychwanegwch gwestiwn fformiwla wedi'i chyfrifo, cwblhewch y dudalen gyntaf, a dewiswch nesaf. Defnyddiwch y cam nesaf yn y broses i ddiffinio gosodiadau'r cwestiwn, yr opsiynau sgorio, a setiau o atebion.
- Gosodwch eich gosodiadau Fformat yr ateb a Talgrynnu.
- Yn Opsiynau sgorio manylder, dewiswch eich opsiynau sgorio.
Caniatáu credyd llawn os yw ateb o fewn amrediad a ddewisir: Amrediad yr atebion y dyfernir credyd llawn iddynt. Dewiswch a yw'n Rhif neu'n Canran. Os oes rhaid i'r ateb fod yn union ateb, teipiwch sero ar gyfer yr amrediad.
Caniatáu credyd rhannol os yw ateb o fewn amrediad a ddewisir: Caniatewch glod rhannol ar amrediad llai cywir o atebion. Gosodwch y Credyd i'w ddyfarnu os yw ateb y myfyriwr o fewn yr amrediad credyd rhannol.
- Dewiswch eich gosodiad Unedau'r ateb. Os oes angen, mae rhaid cynnwys uned y mesur yn ateb y myfyriwr. Teipiwch yr Unedau Ateb a Canran Pwyntiau Unedau i'w dyfarnu os mewnbynnir yr unedau'n gywir.
Mae rhaid i unedau'r ateb gyfateb yn union. Er enghraifft, os ydych yn teipio “medrau” ar gyfer yr uned, ystyrir “m” yn anghywir.
- Yn yr adran Amrediad newidiol, rhowch y Gwerth Isaf a Gwerth Uchaf ar gyfer pob newidyn. Pan gaiff y cwestiwn ei ddangos i fyfyriwr, mae'r system yn disodli'r newidyn gyda gwerth a ddewisir ar hap o'r amrediad a ddiffiniwyd gennych. Gallwch ddefnyddio nodiant gwyddonol yn y blychau gwerth. Dewiswch y nifer o Bwyntiau Degol ar gyfer gwerth pob newidyn.
Mae nifer y lleoedd degol rydych yn eu dewis yn gallu affeithio ar werthoedd isafswm ac uchafswm newidyn. Er enghraifft, rydych yn gosod y gwerth isafswm i 0.0000004 a'r gwerth uchafswm fel 1, ac rydych yn dewis 2 le degol. Mae'r system yn talgrynnu'r rhifau i 2 le degol, felly mae'r system yn cynhyrchu newidion yn y setiau o atebion gyda gwerthoedd rhwng 0.00 ac 1.00.
- Rhowch Nifer o setiau o atebion i’w cynhyrchu.
- Dewiswch Nesaf i weld y setiau o atebion. Gallwch olygu'r setiau o atebion ar y dudalen nesaf. Dewiswch Yn ôl i fynd i'r dudalen flaenorol, neu Canslo i roi'r gorau iddi.
Dilysu'r setiau o atebion
Mae'r cam olaf yn y broses yn dangos y setiau o atebion a gynhyrchwyd gan y system. Mae pob set yn cynrychioli un o amrywiadau posibl y cwestiwn y gellir ei gyflwyno i fyfyrwyr.
- Gallwch newid gwerth y newidynnau ymhob set o atebion wrth deipio yn y blychau. Dewiswch Cyfrifo atebion i ddiweddaru'r atebion cyfrifedig a chadw'ch newidiadau cyn i chi gyflwyno.
- Dewiswch Ail-lenwi set o atebion i'w ddileu a chael y system i’w ddisodli'n awtomatig gyda set arall. Os ydych am leihau nifer y setiau, dewiswch Yn ôl a newid nifer y setiau o atebion yn Gosodiadau'r Ateb.
- Dewiswch Cadw i ychwanegu'r cwestiwn at y prawf.