Ble mae dechrau graddio?
Gallwch ddechrau graddio o nifer o leoliadau a gyrchir o'r bar llywio:
Graddau — Dewiswch Graddau i gyrchu'r holl dasgau graddio y mae angen i chi eu gweithredu, megis profion sy'n barod i'w graddio neu'r nifer o brofion sydd heb eu cyflwyno o hyd ar gyfer myfyrwyr. Gallwch sganio eich cynnydd yn gyflym, pennu blaenoriaethau cyffredinol, a dechrau graddio.
Cyrsiau —Dewiswch Cyrsiau i gyrchu rhestr o'ch cyrsiau. Agorwch gwrs, ac wedyn dewis y tab Llyfr Graddau ar y bar llywio. Gallwch weld pwy wnaeth gyflwyniadau a dechrau graddio.
Ffrwd Gweithgarwch — Dewiswch Ffrwd Gweithgarwch i weld rhybuddion ar gyfer cyflwyniadau myfyrwyr sy'n barod i'w graddio.
Am ragor o wybodaeth am lywio'r llyfr graddau, gweler Llyfr Graddau Ultra.
Pan fyddwch yn cyrchu prawf, gallwch symud rhwng y tabiau ar frig y dudalen — Cynnwys a Gosodiadau, Cyflwyniadau, Gweithgarwch Myfyrwyr, a Dadansoddeg Cwestiynau — i gyrchu gwahanol wybodaeth a thasgau.
Diweddaru cynnwys a gosodiadau profion
Mae’r tab Cynnwys a Gosodiadau yn dangos cwestiynau a gosodiadau'r prawf, fel y dyddiad cyflwyno a’r sgôr mwyaf.
Caiff profion grŵp eu graddio yn yr un modd ag aseiniadau grŵp.
- Gosodiadau prawf. Dewiswch y botwm gosodiadau prawf i wneud newidiadau. Er enghraifft, gallwch newid y sgema graddio unrhyw bryd a bydd y newid yn ymddangos i fyfyrwyr ac yn eich llyfr graddau.
- Sgyrsiau. Os rydych wedi caniatáu i fyfyrwyr drafod y prawf â chi a’u cyd-fyfyrwyr tra bod y prawf ar gael, dewiswch y botwm Agor sgwrs y dosbarth i weld y sgyrsiau. Gall myfyrwyr gyfrannu at y sgwrs cyn, yn ystod, ac ar ôl y prawf. Bydd cylch porffor yn ymddangos dros y botwm sgyrsiau i ddynodi gweithgarwch newydd.
- Mireinio cwestiynau. I wneud cywiriadau i gwestiynau ar ôl i fyfyrwyr agor prawf neu brawf grŵp, dewiswch Golygu o ddewislen y cwestiwn. Er enghraifft, efallai eich bod wedi dewis yr ateb anghywir, wedi dod o hyd i wall sillafu, neu eisiau newid pwyntiau neu opsiynau sgorio. Mae graddau'n cael eu diweddaru hyd yn oed os yw myfyrwyr eisoes wedi gwneud ymgeisiau, ond efallai na fydd y radd newydd yn ymddangos yn syth. Am ragor o wybodaeth, gweler Golygu Profion a Chwestiynau.
Rheoli cyflwyniadau prawf
Ar y tab Cyflwyniadau, gallwch weld nifer y cyflwyniadau a dderbynnir, sy'n barod i'w graddio ac sy'n barod i'w cyhoeddi yn gyflym. O'r rhestr myfyrwyr, gallwch weld y cyflwyniad a statws graddio pob myfyriwr cofrestredig. Gallwch hidlo'r rhestr i ddangos dim ond y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ac mae'r system yn cofio eich dewisiadau ar gyfer eich sesiwn nesaf. Er enghraifft, gallwch hidlo'r rhestr i ddangos dim ond y cyflwyniadau hynny sydd angen eu graddio. SYLWER: Nid yw’r dewislenni hidlo yn ymddangos ar gyfer eitemau grwpiau neu drafodaethau ar hyn o bryd
Graddio prawf
Dewiswch enw myfyriwr i agor ei gyflwyniad.
- Adolygu gwaith myfyrwyr. Mae atebion myfyrwyr yn ymddangos ar gyfer pob cwestiwn. Gall myfyrwyr hefyd ychwanegu sylwadau a ffeiliau at ddiwedd eu profion. Ni allwch newid y pwyntiau mae myfyriwr unigol wedi'u hennill ar gyfer cwestiwn a raddir yn awtomatig.
- Llywio i gyflwyniadau eraill. Defnyddiwch y saethau i symud i gyflwyniad arall yn barod ar gyfer graddio.
- Gweld y cyfarwyddyd. Os cysylltoch gyfarwyddyd â’r prawf hwn, dewiswch eicon y cyfarwyddyd yn y bilsen radd wag i weld y meini prawf. Mae’r sgrin yn addasu er mwyn i chi allu gweld cyflwyniad y myfyriwr ochr yn ochr â’r cyfarwyddyd.
- Rhowch radd. Neilltuwch bwyntiau ar gyfer pob cwestiwn. Gallwch ddefnyddio hyd at ddau le degol. Cliciwch unrhyw le y tu allan i’r bilsen radd i gadw. Mae cyfanswm y radd yn ymddangos ar frig y prawf. Mae sgôr prawf yn cynnwys cyfanswm pwyntiau pob cwestiwn.
- Darparwch adborth. O'r ddewislen wrth ochr y bilsen radd, dewiswch y botwm adborth ac ychwanegwch nodyn gydag awgrymiadau, anogaeth ac adborth cyffredinol am y cyflwyniad.
- Graddio ymgeisiau lluosog. Os ydych wedi caniatáu ymgeisiau lluosog, bydd panel yn ymddangos sy'n dangos pob ymgais, ynghyd â'r dyddiadau y cawsant eu cyflwyno. Dewiswch ymgais i weld y cyflwyniad.
- Cyhoeddi graddau. Bydd y botwm Cyhoeddi yn ymddangos wrth ochr pob gradd nad ydych wedi'i rhyddhau eto. Gallwch ddewis y graddau i’w cyhoeddi a phryd. Gallwch hefyd raddio'r holl gyflwyniadau ar gyfer eitem yn olynol ac wedyn dewis Cyhoeddi pob gradd i ryddhau'r holl raddau mewn un weithred. Unwaith eu bod wedi'u cyhoeddi, mae graddau yn cael eu labelu fel Cyhoeddwyd yn y golofn.
- Dilëwch y cyflwyniad neu darparwch eithriad. Gallwch hefyd roi eithriad i'r myfyriwr ar gyfer y prawf hwn. Mae eithriad yn cynnwys ymgeisiau ychwanegol neu fynediad estynedig, hyd yn oed os yw'r prawf wedi'i guddio rhag myfyrwyr eraill.
- Golygu neu ailraddio. O gyflwyniad myfyriwr, gallwch agor dewislen cwestiwn a dewis Golygu/Ailraddio i wneud newidiadau neu roi credyd llawn i bawb. Mae’r golygiadau hyn yn effeithio ar brofion pawb. Os yw myfyrwyr eisoes wedi gwneud cyflwyniadau, byddwch yn cael rhybudd y byddant yn cael eu hailraddio.
Bydd myfyrwyr yn derbyn hysbysiad newid gradd os yw gradd asesiad yn newid. Gall gradd newid pan: 1) fydd yr asesiad yn cyhoeddi graddau'n awtomatig, ond wedyn bydd yr hyfforddwr yn newid y pwyntiau a enillwyd ar gwestiwn 2) fydd yr hyfforddwr yn tynnu gradd wrthwneud er mwyn i newidiadau i'r pwyntiau a enillir adlewyrchu ar radd yr asesiad.
Rhagor am gyflwyniadau
- Cyflwyniadau hwyr. Bydd lluniau proffil myfyrwyr yn ymddangos â chylch coch pan fyddant yn hwyr yn cyflwyno eu gwaith neu pan fydd y dyddiad cyflwyno wedi mynd heibio heb gyflwyno unrhyw ymgais.
- Cymwysiadau. Mae eiconau’n ymddangos wrth ochr enwau myfyrwyr â chymwysiadau.
- Stampiau amser. Hofranwch dros stamp amser cyflwyniad i weld pryd gwnaeth y myfyriwr y cyflwyniad a phryd cyhoeddoch y radd. Mae’r stamp amser yn ymddangos mewn coch gyda label “hwyr” ar ôl y dyddiad cyflwyno. I gyrchu'r stamp amser ar gyfer ymgeisiau lluosog, dewiswch enw myfyriwr i agor y panel ymgeisiau.
- Gwrthwneud graddau. Gallwch hefyd wrthwneud graddau â llaw yn ôl yr angen. Mae label gwrthwneud yn ymddangos wrth ochr y radd. Ar ôl i chi neilltuo gwerth, cliciwch unrhyw le y tu allan i’r maes gradd i gadw.
- Eithriadau. I ychwanegu eithriad asesiad ar gyfer y prawf, dewiswch y ddewislen wrth ochr y bilsen radd. Mae eithriad yn cynnwys ymgeisiau ychwanegol neu fynediad estynedig, hyd yn oed os yw'r prawf wedi'i guddio rhag myfyrwyr eraill. Gallwch hefyd ychwanegu eithriadau ar ôl i chi bostio graddau.
- Graddio dienw. Os ydych wedi galluogi graddio dienw ar y prawf, mae'r rhestr cyflwyniadau dim ond yn cynnwys myfyrwyr sydd wedi gwneud cyflwyniad. Dangosir y myfyrwyr hynny fel "Myfyriwr Dienw" a rhif, megis Myfyriwr Dienw 244260, a chuddir eu henwau a lluniau proffil. Mae cyflwyniadau hefyd yn ymddangos mewn trefn ar hap yn hytrach nag yn ôl dyddiad y cyflwyniad.
- Dangos atebion cywir. Os ydych yn dewis peidio dangos atebion cywir ar gyfer cwestiynau a farcir yn awtomatig, dychwelwch i banel gosodiadau'r asesiad a dewis Dangos atebion cywir.
Beth mae myfyrwyr yn ei weld?
Ar ôl i chi raddio profion a chyhoeddi’r canlyniadau, gall myfyrwyr weld eu sgoriau ar eu tudalennau graddau neu yn y ffrwd gweithgarwch. Gallant hefyd gyrchu'r prawf, eu cyflwyniadau, eich adborth, a’u graddau o dudalen Cynnwys y Cwrs.
Graddio â BB Annotate
Gallwch ddefnyddio BB Annotate ar gyfer graddio mewnol yn eich cyrsiau. Mae Bb Annotate yn cynnig cyfres o nodweddion sy’n fwy cadarn i roi adborth y gellir ei addasu i fyfyrwyr. Mae'r nodweddion yn cynnwys gwedd crynodeb bar ochr, offer lluniadu â llaw, gwahanol liwiau a llawer mwy.
Graddio â SafeAssign
Pan fyddwch yn graddio aseiniadau gyda SafeAssign wedi’i alluogi, gallwch weld Adroddiad Gwreiddioldeb i weld faint o gynnwys a gyflwynwyd gan fyfyrwyr sy’n gorgyffwrdd â deunyddiau eraill a gyhoeddwyd.
Ni allwch chi ddefnyddio SafeAssign ar brofion yn y Wedd Cwrs Wreiddiol.