Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.
Gallwch ddewis lle rydych am ddechrau graddio:
- O’r Ffrwd Gweithgarwch
- O'r ddewislen lywio sylfaenol
- O aseiniad
- O'r Llyfr Graddau
- O'r dudalen Cyflwyniadau
Cyrchu graddio o'r Ffrwd Gweithgarwch
Pan fydd cyflwyniadau myfyrwyr yn barod i'w graddio, cewch hysbysiad yn y Ffrwd Gweithgarwch. Dewiswch Cyflwyniadau newydd yn barod i'w graddio yn y Ffrwd Gweithgarwch i fynd i Lyfr Graddau'r cwrs a dechrau graddio.
Cyrchu graddio o'r bar llywio
I weld faint o aseiniadau sy'n barod i'w graddio ar gyfer pob un o'ch cyrsiau a chyrchu opsiynau graddio, dewiswch Graddau o'r ddewislen lywio ar y chwith. Mae'ch tasgau graddio yn cael eu rhestru fesul cwrs. Byddwch yn gweld pa aseiniadau sy’n barod i'w graddio, neu aseiniadau sy'n hwyr ar gyfer un neu fwy o fyfyrwyr.
Cyrchu graddio o aseiniad
Gallwch hefyd ddechrau graddio'n uniongyrchol o aseiniad yn eich cwrs. Dewiswch y tab Cyflwyniadau i weld pa fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r aseiniad a dechrau graddio.
Cyrchu graddio o'r Llyfr Graddau
Cyrchu Llyfr Graddau y cwrs o'r bar llywio yn eich cwrs i weld pwy sydd wedi gwneud cyflwyniadau a dechrau graddio.
Gallwch raddio gwaith cwrs, rheoli eitemau, a chyhoeddi graddau o dair gwedd:
Gwedd Eitemau Graddadwy. Y rhestr o Eitemau Graddadwy yw eich gwedd ddiofyn. Gallwch weld yr holl waith cwrs rydych wedi'i neilltuo, statws graddio pob aseiniad, ac a oes graddau i'w cyhoeddi.
Gwedd Graddau. Mae'r wedd Graddau yn dangos y sgoriau mae myfyrwyr wedi'u hennill ar gyfer pob aseiniad ac mae'n gadael i chi wybod pan fydd gennych aseiniadau i'w graddio. Dewiswch Graddio Nawr o golofn aseiniad i ddechrau graddio gwaith myfyriwr.
Gwedd Myfyrwyr. Mae'r wedd Myfyrwyr yn rhestru enwau pob un o'ch myfyrwyr gyda'u dyddiadau mynediad diwethaf a'u graddau cyffredinol. Gallwch weld graddau cyffredinol dim ond os ydych wedi gosod y radd gyffredinol ar gyfer y cwrs. Mae gan fyfyrwyr sydd â chymwysiadau graddio faner borffor gyda'u henwau.
Dysgu mwy am lywio'r Llyfr Graddau
Cyrchu graddio o'r dudalen Cyflwyniadau
Mae'r dudalen Cyflwyniadau yn dangos yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ac mae'n caniatáu i chi gadw golwg ar yr holl gyflwyniadau ar un dudalen. Gallwch gyrchu'r dudalen Cyflwyniadau naill ai o asesiad neu o'r wedd Eitemau Graddadwy yn y Llyfr Graddau.
Gweld pa ymgeisiau sy'n barod i'w graddio'n gyflym. Defnyddiwch y ddewislen Hidlo ar y dudalen Cyflwyniadau i ddangos dim ond y cyflwyniadau hynny sydd angen eu graddio. Nid yw’r ddewislen Hidlo yn ymddangos ar gyfer eitemau mewn grwpiau neu drafodaethau.
Manylion yng ngholofn Myfyriwr
- Bydd lluniau proffil myfyrwyr yn ymddangos â chylch coch pan fyddant yn hwyr yn cyflwyno eu gwaith neu pan fydd y dyddiad cyflwyno wedi mynd heibio heb gyflwyno unrhyw ymgais.
- Mae Heb ei agor yn dynodi nad yw'r myfyriwr wedi cyrchu'r asesiad.
- Mae Wedi agor wedi'i ddilyn gan ddyddiad gyda Statws Myfyriwr Dim Cyflwyniad yn dynodi bod y myfyriwr wedi agor yr asesiad ac wedi gweld y panel cipolwg gyda chyfarwyddiadau ond heb weld cynnwys yr asesiad. Ni chofnodir unrhyw beth yn y log ymgeisiau, ac mae'r Statws Graddio yn Dim i'w raddio.
- Mae Wedi agor wedi'i ddilyn gan ddyddiad gyda Statws Myfyriwr Cadwyd y Drafft yn dynodi bod y myfyriwr wedi dechrau'r ymgais ond heb gwblhau'r asesiad. Os yw'r asesiad yn cael ei amseru, dechreuodd yr amserydd pan ddewisodd y myfyriwr ddechrau'r ymgais. Mae gan y log ymgeisiau fanylion am weithgarwch y myfyriwr, ond mae'r Statws Graddio yn Dim i'w raddio.
- Mae Ceisiwyd ar [dyddiad ac amser] gyda Statws Myfyriwr Cyflwynwyd yn dangos bod y myfyriwr wedi cyflwyno'r asesiad. Mae'r Statws Graddio yn cael ei osod yn ôl priodweddau'r asesiad.
Gweld stampiau amser cyflwyniadau
Pan fyddwch yn dechrau neu'n adolygu graddio, gallwch gyfeirio at stamp amser cyflwyniad i weld mwy o wybodaeth. Mae stampiau amser yn ymddangos ar dudalennau cyflwyniad myfyrwyr ac ar eu paneli ymdrechion pan fyddwch chi wedi caniatáu mwy nag un ymgais ar asesiad.
Er enghraifft, ar dudalen cyflwyniad myfyriwr, gallwch weld pryd wnaeth y myfyriwr wneud y cyflwyniad a phryd y gwnaethoch chi gyhoeddi’r radd. Mae’r stamp amser yn ymddangos mewn coch gyda label “hwyr” ar ôl y dyddiad cyflwyno.
Graddio aseiniad sydd ag ymgeisiau lluosog
Mae ymgeisiau lluosog yn newid sut mae gradd derfynol yr aseiniad yn cael ei chyfrifo'n awtomatig. Dewiswch sut rydych eisiau cyfrifo'r radd derfynol:
- Cyfartaledd yr holl ymgeisiau
- Ymgais cyntaf â gradd
- Ymgais â'r radd uchaf
- Ymgais olaf â gradd
- Ymgais â'r radd isaf
Yn ddiofyn, mae'r dudalen graddio yn dangos yr ymgais mwyaf perthnasol yn seiliedig ar y gosodiad Ymgeisiau gradd a statws cwblhau graddio:
Gosodiad Ymgeisiau Gradd | Statws cwblhau graddio | Ymgais diofyn a ddangosir |
Ymgais olaf â gradd | Unrhyw un | Ymgais diweddaraf |
Ymgais cyntaf â gradd | Unrhyw un | Ymgais cyntaf |
Ymgais â'r radd uchaf | Graddir pob ymgais | Ymgais â'r radd uchaf |
Ymgais â'r radd isaf | Graddir pob ymgais | Ymgais â'r radd isaf |
Cyfartaledd yr holl ymgeisiau | Graddir pob ymgais | Ymgais diweddaraf |
Ymgais â'r radd uchaf | Mae ymgeisiau heb eu graddio | Ymgais hynaf heb ei raddio |
Ymgais â'r radd isaf | Mae ymgeisiau heb eu graddio | Ymgais hynaf heb ei raddio |
Cyfartaledd yr holl ymgeisiau | Mae ymgeisiau heb eu graddio | Ymgais hynaf heb ei raddio |
Mae hyn yn caniatáu i chi werthuso a graddio gwaith myfyrwyr yn gyflym. Pan fydd angen tasgau graddio ychwanegol ar y dull cyfrifo gradd, bydd yn mynd â chi i'r dasg honno. Os nad oes angen hynny, dangosir yr ymgais mwyaf berthnasol a raddiwyd.
lsit
Gweld ymgeisiau unigol
Gallwch raddio aseiniad sydd ag ymgeisiau lluosog o'r un lleoedd yr ydych yn graddio aseiniad cyffredinol:
- Y Ffrwd Gweithgarwch
- Y Llyfr Graddau
- Yr aseiniad
Pan fyddwch yn dewis enw myfyriwr, bydd panel yn ymddangos sy'n dangos pob ymgais, ynghyd â'r dyddiad y cafodd ei gyflwyno. Dewiswch ymgais i weld y cyflwyniad.
Mae'r opsiynau adborth yn ymddangos wrth ochr pob ymgais. Dewiswch fotwm y swigen siarad i agor y panel adborth. Gallwch sgrolio drwy'r aseiniad ac ychwanegu adborth cyffredinol a gradd.
Defnyddiwch y panel ar y dde i lywio drwy dabiau fel cyfarwyddiadau, adborth ac adroddiad gwreiddioldeb. Gallwch hefyd lywio i'r wedd cyflwyniad a thabiau'r panel â bariau sgrolio gwahanol. Mae bariau sgrolio annibynol yn caniatáu i hyfforddwyr neu raddwyr sgrolio i fyny ac i lawr drwy gynnwys y cyflwyniad heb effeithio ar lywio'r tab ochr neu'r pennyn.
Neges Atgoffa: Pan fyddwch yn cyhoeddi graddau, gall myfyrwyr eu gweld ynghyd ag unrhyw adborth rydych yn ei ddarparu. Mae pob darn o adborth ar gyfer pob ymgais, hyd yn oed ymgeisiau heb eu graddio, yn cael eu dangos i fyfyrwyr. Os rydych wedi defnyddio cyfarwyddyd neu gwestiynau sy'n cael eu sgorio'n awtomatig, efallai fod y radd ar gyfer yr ymgais eisoes yn bodoli.
Graddau terfynol
Cyfrifir y radd derfynol ar gyfer aseiniad sydd ag ymgeisiau lluosog yn seiliedig ar y gosodiad Ymgeisiau Gradd a ddewisoch yn Gosodiadau'r Aseiniad. Yn y panel sy'n rhestru ymgeisiau myfyriwr, mae'r radd derfynol yn ymddangos pan raddir yr ymgeisiau hynny. Er enghraifft, os cyfrifir y radd derfynol yn seiliedig ar yr ymgais sydd wedi ennill y radd uchaf, bydd y radd derfynol yn ymddangos yn syth ar ôl i un ymgais gael ei raddio. Fodd bynnag, gall y radd newid wrth i chi barhau i raddio mwy o ymgeisiau. Ar ôl i chi orffen graddio'r ymgeisiau, gallwch gyhoeddi'r radd derfynol i'r myfyriwr ei gweld.
Beth mae myfyrwyr yn ei weld?
Mae aseiniadau gydag ymgeisiau lluosog yn rhestru'r nifer o ymgeisiau a ganiateir, yn ogystal â sut mae'r radd derfynol yn cael ei chyfrifo. Mae myfyrwyr yn gweld y wybodaeth hon ar y dudalen Manylion a Gwybodaeth cyn iddynt ddechrau. Pan gyhoeddir y graddau, bydd myfyrwyr yn gallu gweld graddau ar gyfer pob un o’u hymgeisiau, yn ogystal â'r radd derfynol. Os byddwch yn penderfynu gwrthwneud y radd derfynol, bydd neges yn ymddangos i roi gwybod i'r myfyriwr.
Rhagor am sut mae myfyfyrwyr yn cyrchu aseiniadau yn Blackboard Learn
Ynghylch Bb Annotate
Bb Annotate
Gallwch ddefnyddio BB Annotate ar gyfer graddio mewnol yn eich cyrsiau. Mae Bb Annotate yn cynnig cyfres o nodweddion sy’n fwy cadarn i roi adborth y gellir ei addasu i fyfyrwyr. Mae'r nodweddion yn cynnwys gwedd crynodeb bar ochr, offer lluniadu â llaw, gwahanol liwiau a llawer mwy.
Llif gwaith graddio BB Annotate
Ar dudalen Cyflwyniad yr Aseiniad, mae mathau o ffeiliau a gefnogir yn agor yn y porwr. Gallwch weld ac anodi'r mathau hyn o ddogfennau yn y porwr:
- Microsoft® Word (DOC, DOCX)
- Microsoft® PowerPoint®(PPT, PPTX)
- Microsoft® Excel®(XLS, XLSX)
- Dogfennau OpenOffice® (ODS, ODT, ODP)
- Delweddau Digidol (JPEG, JPG, PNG, TIF, TIFF, TGA, BMP, HEIC)
- Cod ffynhonnell (Java, PY, C, CPP, ac ati)
- Delweddau Meddygol (DICOM, DICM, DCM)
- PSD
- RTF
- txt
- WPD
Ni chefnogir Macros Office Suite, megis Visual Basic.
Daw sesiynau anodi i ben ar ôl awr. Byddwch yn derbyn neges rhybudd cyn i'ch sesiwn ddod i ben. Cedwir eich anodiadau, adborth a ffeiliau a gwblhawyd ar y dudalen. Pan fyddwch yn dychwelyd, gallwch ailddechrau gweithio.
Mae gifs wedi’u hanimeiddio ond yn dangos y ffrâm gyntaf yn y dangosydd PDF at ddibenion anodi. Lawrlwythwch y cyflwyniad i weld y gif wedi’i animeiddio.
Cedwir y fformat gwreiddiol a delweddau sydd wedi eu plannu Os yw myfyriwr wedi cyflwyno ffeil heb ei chefnogi, gofynnir i chi ei lawrlwytho. Nid yw cyflwyniadau aseiniadau a grëir yn y golygydd yn gydnaws â graddio mewnol.
Cefnogir Bb Annotate ar fersiynau presennol Firefox, Chrome, Edge, a Safari.
Fel rhan o’r dyluniad ymatebol, mae ymddangosiad y ddewislen yn newid yn seiliedig ar faint y sgrin. Ar sgriniau canolig a bach, mae’r gosodiadau Gweld y Ddogfen yn dangos rhif y dudalen rydych yn ei gweld. Mae offer anodi mewn pentwr dan eicon Gweld Offer Anodi. Ar sgriniau llai, cuddir y Llyfrgell o Gynnwys.
Opsiynau'r ddewislen o'r chwith i'r dde
- Bar ochr: Gweld golygon Mân-lun, Amlinelliad neu Anodiad o’r cyflwyniad.
- Tudalennau: Defnyddio’r saethau i neidio i dudalennau gwahanol yn y cyflwyniad.
- Tremio: Symud y cyflwyniad ar y dudalen.
- Chwyddo a Ffitio: Chwyddo i mewn ac allan o’r cyflwyniad neu addasu'r wedd i ffitio’r dudalen, ffitio'r lled, neu ddewis y ffit gorau.
Offer anodi: Dewiswch bob offeryn i weld priodweddau’r offeryn.
Cedwir eich dewis ar gyfer pob offeryn rhwng cyflwyniadau.
- Lluniadu, Brwsh, a Dilëwr: Lluniadu’n llawrydd ar y cyflwyniad â gwahanol liwiau, trwch ac anhryloywder. Dewiswch y dilëwr i dynnu anodiadau. Gallwch ddileu rhannau o luniad llawrydd â'r dilëwr neu dewiswch yr eicon Dileu i ddileu’r lluniad cyfan.
- Delwedd neu Stamp: Dewis stamp a lwythwyd ymlaen llaw neu greu stamp neu ddelwedd bersonol eich hun i’w hychwanegu at y cyflwyniad.
- Dadwneud: Dadwneud neu ddychwelyd y peth diwethaf a wnaethoch.
- Ailwneud: Gwneud y peth diwethaf a wnaethoch eto.
- Testun: Ychwanegu testun yn uniongyrchol ar y cyflwyniad. Gallwch symud, golygu a newid y testun a dewis y ffont, maint, aliniad a lliw'r testun.
- Siapiau: Dewis Llinell, Saeth, Petryal, Elips, Polygon, a Polylinell. Mae gan bob siâp ei osodiadau ei hun i newid y lliw, trwch, anhryloywder a mwy.
Sylw: Rhoi adborth mewn sylwadau. Mae eich sylwadau yn ymddangos mewn panel wrth ochr y cyflwyniad. Gallwch wneud eich sylwadau'n ddienw drwy ddewis y botwm Dienw. Mae gennych yr opsiwn i wneud sylwadau dienw dim ond os yw'ch sefydliad wedi'u troi ymlaen.
Gall myfyrwyr gyrchu’r ffeiliau wedi’u hanodi ond ni fydd modd iddynt ychwanegu anodiadau yn eu cyflwyniadau.
Argraffu neu Lawrlwytho: Argraffu neu lawrlwytho’r cyflwyniad gyda'r anodiadau.
Mae'n bosibl y bydd problem hysbys gyda dangosydd PDF mewnol rhai porwyr yn golygu na fydd pob un o'ch anodiadau'n dangos. Defnyddiwch wyliwr PDF brodorol fel Adobe Acrobat i edrych ar dogfennau PDF wedi'u hanodi.
- Chwilio: Chwilio’r cyflwyniad am destun penodol.
Llyfrgell o Gynnwys: Creu banc o sylwadau y gellir eu hailddefnyddio. Gallwch ychwanegu, golygu, dileu a chwilio am sylwadau yn y llyfrgell. Gallwch hefyd ychwanegu sylw'n uniongyrchol at dudalen y cyflwyniad o'r ddewislen. Dewiswch yr arwydd plws i ychwanegu sylw newydd at y Llyfrgell o Gynnwys. Gallwch Rhoi sylw, Copïo i'r Clipfwrdd, Golygu, neu Dileu cynnwys o'r llyfrgell. Teipiwch allweddeiriau neu ymadroddion i chwilio am sylwadau a gadwyd.<
Mae’r Llyfrgell o Gynnwys dim ond ar gael mewn amgylcheddau SaaS.
- Amlygydd: Dewis rhannau penodol o’r cyflwyniad i’w hamlygu. Wrth i chi amlygu testun ar y cyflwyniad, bydd dewislen ychwanegol yn agor. Gallwch amlygu, rhoi llinell drwodd, tanlinellu, sgwiglo neu wneud sylw ar yr adran a amlygir.
Gwylio fideo am Annotate yn Blackboard Learn
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Mae Annotate yn Blackboard Learn yn darparu taith o amgylch yr offer Anotate sydd ar gael ar gyfer graddio mewnol yn eich cyrsiau Blackboard Learn.
Graddio aseiniad â therfyn amser
Pan fyddwch yn caniatáu i fyfyrwyr weithio y tu hwnt i'r terfyn amser ar gyfer aseiniad, gallwch weld pa aseiniadau a aeth y tu hwnt i'r terfyn amser. Os ychwanegoch gwestiynau, gallwch hefyd weld faint o gwestiynau a atebwyd ar ôl y terfyn amser.
Dysgu mwy am raddio gwaith â therfyn amser
Graddio ac adborth gan ddefnyddio cyfarwyddiadau
Gallwch greu cyfarwyddyd, ei gysylltu ag asesiad neu drafodaeth, a'i ddefnyddio ar gyfer graddio. Bydd y cyfarwyddyd yn ymddangos ar dudalen yr aseiniad neu drafodaeth a ddewisoch. Sylwer bod dim ond modd cysylltu un cyfarwyddyd â phob eitem. Ni allwch gysylltu cyfarwyddyd ag aseiniad sydd â chwestiynau.
Dysgu mwy am greu cyfarwyddiadau
Dysgu mwy am raddio â chyfarwyddyd a darparu adborth
Neilltuo gradd
Dewiswch enwau myfyrwyr o'r dudalen Cyflwyniadau i gyrchu eu cyflwyniadau unigol, neilltuo graddau a rhoi adborth.
Gallwch hefyd gyrchu ymgais o wedd grid y Llyfr Graddau.
Gwrthwneud graddau
Mae graddau gwrthwneud yn raddau rydych yn eu neilltuo â llaw. Mae enghraifft yn cynnwys teipio yn y bilsen radd yn y Llyfr Graddau. Mae label gwrthwneud yn ymddangos wrth ochr y radd.
Os byddwch yn caniatáu ymgeisiau lluosog, pan fyddwch yn golygu'r radd derfynol ar gyfer eitem â llaw, byddwch yn neilltuo gradd wrthwneud.
Ychwanegu adborth
I roi adborth, agorwch ymgais. Ar dudalen y cyflwyniad, dewiswch fotwm y swigen siarad i agor y panel adborth. Mae’r panel yn parhau yn ei le wrth i chi sgrolio drwy'r aseiniad ac ychwanegu adborth cyffredinol a gradd.
Mewnosod recordiad adborth yn y golygydd. Gallwch blannu recordiad sain neu fideo o'ch adborth yn y golygydd wrth i chi raddio ymgeisiau. Mae'r opsiwn recordio yn ymddangos yn y golygydd adborth ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau a raddir yn eich cwrs. Mae myfyrwyr yn gwylio neu'n gwrando ar eich adborth ochr yn ochr ag unrhyw destun rydych yn ei gynnwys.
Nid yw'r nodwedd hon yn cael ei chefnogi ar bob porwr. I gael y profiad gorau, defnyddiwch Chrome neu Firefox.
Rhagor am ychwanegu adborth sain/fideo
Cyhoeddi graddau
Gallwch gyhoeddi graddau o:
- Tudalen Graddau'r llywio sylfaenol
- Y wedd Eitemau Graddadwy yn y Llyfr Graddau
- Y dudalen Cyflwyniadau
I gyhoeddi gradd, dewiswch Cyhoeddi gradd, sy'n ymddangos wrth ochr pob gradd nad ydych wedi'u rhyddhau eto. Gallwch ddewis y graddau i’w cyhoeddi a phryd. Mae graddau a gyhoeddwyd wedi'u labelu fel Cyhoeddwyd. Hefyd, gallwch raddio'r holl gyflwyniadau ar gyfer eitem ac wedyn dewis Cyhoeddi Pob Gradd i ryddhau'r holl raddau mewn un weithred.
Pan fyddwch yn cyhoeddi graddau, gall myfyrwyr eu gweld, ynghyd ag unrhyw adborth rydych yn ei ddarparu. Mae pob darn o adborth ar gyfer pob ymgais, hyd yn oed ymgeisiau heb eu graddio, yn cael eu dangos i fyfyrwyr.
Cyhoeddi graddau'n awtomatig. Os ydych eisiau cyhoeddi graddau unwaith bod ymgais wedi'i raddio, dewiswch yr opsiwn Cyhoeddi graddau asesiadau yn awtomatig ym mhanel gosodiadau'r asesiad. Nid yw'r gosodiad hwn yn cael ei ddewis yn ddiofyn ar gyfer aseiniadau, ond mae'n cael ei ddewis ar gyfer profion newydd. I atal graddau rhag cael eu cyhoeddi'n awtomatig, dad-ddewiswch yr opsiwn hwn a chyhoeddi graddau â llaw.
Ychwanegu eithriadau. O dudalen cyflwyniad myfyriwr, defnyddiwch y ddewislen nesaf i'r bilsen gradd i ychwanegu eithriad ar gyfer yr aseiniad. Mae eithriad yn cynnwys ymgeisiau ychwanegol neu fynediad estynedig, hyd yn oed os yw'r aseiniad wedi'i guddio rhag myfyrwyr eraill. Gallwch hefyd ychwanegu eithriadau ar ôl i chi gyhoeddi graddau.
Rhagor am eithriadau asesiadau
Graddio all-lein
Os yw'n fwy cyfleus i chi, gallwch lawrlwytho cyflwyniadau asesiadau myfyrwyr a'u gweld all-lein.
Dewiswch y botwm lawrlwytho o'r ardaloedd hyn yn y llyfr graddau:
- Gwedd Eitem Radd: O dudalen Cyflwyniadau yr eitem, dewiswch y ddewislen ... yn rhes y pennawd
- Gwedd Graddau: Dewislen eitem