Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r cyfeirebau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.
Graddio gyda chyfeireb
Ar ôl i chi greu cyfarwyddyd a’i gysylltu ag asesiad neu drafodaeth, gallwch ei ddefnyddio ar gyfer graddio. Mae'r dudalen aseiniad, prawf neu drafodaeth yn dangos y cyfarwyddyd a ddewisoch. Gallwch gysylltu un cyfarwyddyd yn unig â phob eitem.
Dewiswch y ddolen Cyflwyniadau i ddechrau graddio. Ar y dudalen Cyflwyniadau, dewiswch enwau'r myfyrwyr i gyrchu eu cyflwyniadau unigol a’r cyfarwyddyd.
Os ydych wedi galluogi graddio cyfochrog, ni allwch chi neu’ch myfyrwyr weld cyfarwyddiadau ac anodiadau graddwyr yn ffeiliau myfyrwyr. Mae myfyrwyr dim ond yn gweld y cyfarwyddydau ac anodiadau mae’r graddwr terfynol—sef y cysonwr—yn eu darparu.
Ar dudalen cyflwyniad y myfyriwr, mae'r bilsen radd yn dangos eicon cyfarwyddyd. Dewiswch y bilsen radd i agor y cyfarwyddyd yn y panel wrth ymyl gwaith y myfyriwr. Mae maen prawf cyntaf y cyfarwyddyd yn ehangu er mwyn i chi allu dewis sgôr lefel cyflawniad.
Wrth i chi ddewis lefel cyflawniad, bydd pilsen radd y cyfarwyddyd yn diweddaru, bydd y maen prawf yn cwympo, a’r maen prawf nesaf yn ehangu.
Gallwch roi adborth ar gyfer meini prawf unigol i fyfyrwyr gan ddefnyddio'r blwch testun. Nid oes cyfyngiad ar y nifer o nodau wrth roi adborth. Mae'r golygydd yn olygydd testun plaen.
Dewiswch y ddolen Dewis gwerth i gwympo ac ehangu unrhyw faen prawf. Ar ôl i sgôr ymddangos ar gyfer maen prawf, dewiswch y bilsen sgôr i ehangu’r maen prawf eto.
Cedwir sgôr y cyfarwyddyd a'r adborth yn awtomatig wrth i chi wneud dewisiadau. Dewiswch yr X i gau panel y cyfarwyddyd. Bydd y radd rydych yn ei neilltuo â’r cyfarwyddyd yn ymddangos ar dudalen cyflwyniad y myfyriwr ac yn y llyfr graddau.
Ar gyfer cyfarwyddiadau amrediad-canran, mae gan bob lefel o gyrhaeddiad amrediad o werthoedd. Pan fyddwch yn graddio, dewiswch y lefel ganran briodol am lefel benodol o gyrhaeddiad. Mae’r system yn cyfrifo’r pwyntiau a enillwyd drwy luosi pwysau x canran gyrhaeddiad x pwyntiau’r eitem.
Ar dudalen cyflwyniad y myfyriwr, dewiswch yr eicon adborth i agor y panel Adborth, teipiwch nodiadau ac adborth ar gyfer y myfyriwr, a’u cadw. Gallwch roi adborth ar gyfer meini prawf unigol i fyfyrwyr gan ddefnyddio'r blwch testun ym mhob maen prawf. Nid oes cyfyngiad ar y nifer o nodau wrth roi adborth. Mae'r golygydd yn olygydd testun plaen. Pan fyddwch yn barod i fyfyriwr weld y radd, agorwch y ddewislen a dewiswch Cyhoeddi. Os ydych am roi cynnig arall i fyfyriwr, dewiswch Dileu a bydd y cyflwyniad yn cael ei ddileu’n barhaol.
Gallwch ddychwelyd i’r eitem ar unrhyw adeg i newid y radd, hyd yn oed ar ôl i chi ei chyhoeddi.
Ar ôl i chi ddefnyddio cyfarwyddyd ar gyfer graddio, ni allwch ei olygu, ond gallwch wneud copi y gallwch ei olygu a’i ailenwi.
Gwedd myfyrwyr o gyfarwyddiadau
Ar ôl i chi raddio eitemau a chyhoeddi’r canlyniadau, gall myfyrwyr weld eu sgoriau ar eu tudalennau graddau neu yn y ffrwd gweithgarwch. Gallant hefyd gyrchu eitem wedi’i graddio ar dudalen Cynnwys y Cwrs i adolygu eu cyflwyniadau, y cyfarwyddyd, eich adborth, a’u graddau.
Rhagor am aseiniadau a’r ffrwd gweithgarwch
Pan fydd myfyrwyr yn edrych ar eu cyflwyniadau wedi’u graddio, gallant ddewis y bilsen radd i agor y cyfarwyddyd ochr yn ochr â’u gwaith. Gall myfyrwyr ehangu maen prawf unigol i adolygu’r lefelau cyflawniad. Fe amlygir y lefelau cyrhaeddiad a ddyfarnwyd.
Gwrthwneud graddau cyfarwyddyd
Mae graddau gwrthwneud yn raddau rydych yn eu haseinio â llaw, er enghraifft, os ydych yn teipio yn y bilsen gradd yn y llyfr graddau. Mae label gwrthwneud yn ymddangos wrth ymyl y radd. Gallwch hefyd wrthwneud pob maen prawf unigol.
Yn y bilsen gradd, gallwch deipio gwerth rhifol o ddim mwy na phum digid. Gallwch gynnwys dau ddigid ychwanegol ar ôl y pwynt degol.
Ar dudalen Cyflwyniadau y myfyriwr, gallwch ddewis Dadwneud Gwrthwneud wrth ymyl y bilsen radd a chaiff y label gwrthwneud ei thynnu. Ymddengys y radd flaenorol neu gallwch ddefnyddio'r cyfarwyddyd i raddio.
Graddau a gyhoeddwyd
Os ydych yn dewis cyhoeddi graddau ac yna gwrthwneud y graddau hynny, mae’r graddau wedi’u newid yn ymddangos i fyfyrwyr. Os byddwch chi’n dileu gradd rydych chi wedi’i chyhoeddi yn llwyr, ni fydd myfyrwyr bellach yn gweld gradd am yr eitem. Bydd yr eitem yn dychwelyd i statws “heb ei raddio”. Ar ôl i chi neilltuo graddau newydd, bydd angen i chi gyhoeddi’r graddau hynny eto.
Cysylltu cyfarwyddyd ar ôl dechrau graddio
Os ydych wedi neilltuo graddau, ac wedyn yn penderfynu cysylltu cyfarwyddyd, ystyrir unrhyw raddau rydych wedi’u neilltuo eisoes yn raddau gwrthwneud. Yn y llyfr graddau, mae'r label gwrthwneud yn ymddangos wrth ymyl y gradd.
Yn y panel Manylion Cyfarwyddyd, gallwch ddewis ailraddio unrhyw gyflwyniadau wedi’u graddio gan ddefnyddio'r cyfarwyddyd cysylltiedig newydd. Pan fyddwch yn dewis ailraddio gan ddefnyddio'r cyfarwyddyd, bydd y cyfarwyddyd yn dod yn weithredol, a gallwch ei ddefnyddio i ddarparu graddau. Bydd y graddau newydd yn ymddangos yn y llyfr graddau a dilëir y label gwrthwneud.