Lawrlwytho Asesiadau
I gyflymu'ch proses raddio, gallwch lawrlwytho cyflwyniadau myfyrwyr unigol ar gyfer asesiadau a’u gweld all-lein. Gallwch lawrlwytho'r cyfan neu gyflwyniadau penodol yn unig fel ffeil ZIP unigol. Dad-sipiwch neu gwnewch y ffeil yn fwy i edrych ar y cynnwys. Cedwir pob cyflwyniad fel ffeil unigol ag enw defnyddiwr pob myfyriwr.
Ni allwch lawrlwytho cyflwyniadau neu drafodaethau grŵp.
Caniateir i'ch Cynorthwywyr Addysgu, Hwyluswyr a Graddwyr lawrlwytho cyflwyniadau ar gyfer asesiadau hefyd.
Eitemau y gallwch eu lawrlwytho o gyflwyniad:
- Cynnwys a ffeiliau mae myfyrwyr yn eu creu ac yn eu hatodi yn y golygydd ar gyfer eu cyflwyniadau.
Eitemau na allwch eu lawrlwytho o gyflwyniad:
- Cynnwys a ffeiliau a atodwyd i gwestiynau asesiadau. Er enghraifft, os oes gan asesiad gwestiynau traethawd yn unig, ni lawrlwythir atebion myfyrwyr.
Gallwch lawrlwytho cyflwyniadau o wedd Eitemau Graddadwy neu wedd Graddau y llyfr graddau. Am ragor o wybodaeth, gweler Llyfr Graddau Ultra.
Tudalen Lawrlwytho Ffeiliau'r Asesiad
Ar y dudalen Lawrlwytho Ffeiliau'r Asesiad, dewiswch bennawd y golofn Enw neu Dyddiad i drefnu'r cyflwyniadau.
Dewiswch y blwch ticio wrth ochr y golofn Enw i ddewis pob cyflwyniad neu ddewis cyflwyniadau’n unigol. Os byddwch yn dewis pob cyflwyniad, dim ond y cyflwyniadau sydd â ffeiliau a thestun mae myfyrwyr wedi'u rhoi yn y golygydd sy'n cael eu cynnwys yn y ffeil ZIP.
Os ydych wedi caniatáu ymgeisiau lluosog, cynhwysir ffeiliau pob ymgais ar gyfer pob myfyriwr.
- Dewiswch Creu Ffeil ZIP i ddechrau'r broses.
- Yn y ffenestr naid, dewiswch Anfon. Crëir y ffeil yn y cefndir a byddwch yn mynd yn ôl i’r dudalen rhestr Cyflwyniadau neu'r wedd Graddau yn awtomatig. Mae’r broses yn cymryd ychydig o funudau yn seiliedig ar faint y ffeil.
Byddwch yn derbyn e-bost a neges gwrs pan fydd y ffeil ZIP yn barod i'w lawrlwytho i'ch cyfrifiadur. Ar dudalen Negeseuon eich cwrs neu yn eich e-bost, dewiswch y ddolen Lawrlwytho nawr.
Os byddwch yn dileu'r e-bost a'r neges gwrs â'r ddolen i lawrlwytho'r ffeil, bydd rhaid i chi ail-redeg y lawrlwytho. Bydd y ffeil ZIP yn parhau yn y system nes rhedir proses glanhau’r system arferol—pob 90 diwrnod neu’n hwy—neu nes i weinyddwr ddileu'r ffeil â llaw. Cysylltwch â'ch gweinyddwr am ragor o wybodaeth.
Gweld cynnwys y ffeil ZIP
Mae gan gyfrifiaduron Windows a Mac alluoedd wedi eu mewnosod i edrych ar ac echdynnu pecynnau ffeil ZIP cywasgedig. I ddysgu rhagor, edrychwch ar y cymorth sydd ar gael o system gweithredu'ch cyfrifiadur.
Ar ôl dad-sipio'r ffeil, bydd ffolder yn ymddangos â ffeiliau pob cyflwyniad. Cynhwysir enwau defnyddwyr yn awtomatig yn enwau'r ffeiliau er mwyn eu hadnabod yn haws.
Ffeiliau a gynhwysir yn y ffeil ZIP
Ffeiliau TXT: Os ddefnyddiodd myfyriwr y golygydd i gwblhau'r asesiad, bydd testun y cyflwyniad yn ymddangos mewn ffeil TXT. Byddwch hefyd yn gweld manylion am y cyflwyniad, fel dyddiad y cyflwyniad Sylwer: Ni lawrlwythir cynnwys a ffeiliau a atodwyd i gwestiynau asesiadau.
Ffeiliau'r cyflwyniad: Os yw'r myfyriwr yn uwchlwytho un neu ragor o ffeiliau fel cyflwyniad, byddant yn ymddangos yn y rhestr. Er enghraifft, efallai bydd cyflwyniad myfyriwr yn cynnwys dogfen Word, ffeil delwedd, a chyflwyniad sleidiau. Sylwer: Os ydych wedi caniatáu ymgeisiau lluosog, cynhwysir ffeiliau pob ymgais ar gyfer pob myfyriwr.
Cyfuniad: Gall myfyriwr ddarparu testun ac atodi ffeiliau yn y golygydd i gwblhau'r cyflwyniad.
Gwylio fideo am lawrlwytho cyflwyniadau asesiadau
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Lawrlwytho cyflwyniadau asesiadau yn esbonio sut i lawrlwytho cyflwyniadau asesiadau a'r pethau gallwch eu lawrlwytho a pheidio â'u lawrlwytho yn eich cwrs.