Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Ynghylch goruchwylio asesiadau
Pan fyddwch yn creu asesiad, bydd gennych nifer o opsiynau i hyrwyddo uniondeb academaidd ac onestrwydd yng nghyflwyniadau myfyrwyr. Fodd bynnag, mae cyflwyniadau ar-lein yn caniatáu i fyfyrwyr gyflwyno gwaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae'n bosibl y bydd gan fyfyrwyr y cyfle i gyfeirio at ddeunyddiau nas caniateir wrth ddrafftio cyflwyniadau. Gall fod yn anodd amddiffyn uniondeb academaidd heb offer ychwanegol.
Gallwch gyflwyno asesiadau a oruchwylir er mwyn sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael eu dylanwadu gan ffynonellau allanol wrth ddrafftio a chyflwyno ymgeisiau.
Cyflenwir asesiadau a oruchwylir gan offer a ddarparwyd gan wasanaethau goruchwylio. Os yw'r gwasanaethau hyn wedi'u galluogi yn eich sefydliad, gallwch eu hychwanegu a'u ffurfweddu yn ardal Gosodiadau aseiniadau a phrofion. Gall myfyrwyr a hyfforddwyr weld a yw asesiad yn cael ei oruchwylio yn enw'r asesiad.
Os ydych yn defnyddio asesiadau a amserir, ni fydd amserydd yr asesiad yn dechrau nes bod gosodiadau'r gwasanaethau goruchwylio wedi'u cadarnhau. Bydd myfyrwyr yn derbyn yr amser cyfan ar gyfer yr asesiad.
Ychwanegu gwasanaethau goruchwylio
Yng ngosodiadau'r prawf neu aseiniad, dewiswch Ffurfweddu gosodiadau goruchwylio yn adran Diogelwch Asesiad. Os nad yw'r integreiddiad wedi’i alluogi yn eich sefydliad, bydd y neges hon yn ymddangos: Mae diogelwch asesiad wedi'i analluogi gan nad yw'r gwasanaeth ar gael. Cysylltwch â gweinyddwr eich sefydliad am gymorth.
Dewiswch eich gwasanaeth goruchwylio o'r ddewislen a symud y togl i Galluogi goruchwylio. Ffurfweddwch y gosodiadau ychwanegol sydd eu hangen ar y gwasanaeth goruchwylio a dewis Cadw. Bydd y gwasanaeth goruchwylio o'ch dewis yn ymddangos yn Gosodiadau yr asesiad.
Ar gyfer asesiadau a oruchwylir, gallwch ychwanegu amserydd, trefnu cwestiynau ac atebion ar hap, caniatáu ymgeisiau lluosog, ac alinio nodau. Ni fydd rhai gosodiadau asesiadau'n gweithio pan fyddwch yn galluogi asesiad diogel. Ni allwch gasglu cyflwyniadau all-lein neu neilltuo grwpiau ar gyfer asesiad diogel.