Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Pan fydd myfyriwr yn cyflwyno aseiniad neu brawf, bydd ffenestr yn ymddangos gyda rhif cadarnhau cyflwyno. Gall myfyrwyr lawrlwytho copi o'r dderbynneb yn uniongyrchol o'r ffenestr. Maent hefyd yn cael copi o dderbynneb y cyflwyniad mewn cadarnhad awtomatig drwy e-bost. Anogir myfyrwyr i gadw eu derbynebau cyflwyniadau i wirio eu bod wedi cyflwyno eu gwaith.  

Gallwch chwilio am a gweld rhif cadarnhau'r dderbynneb ar gyfer pob ymgais mae myfyriwr yn ei wneud. Mae derbynebau yn dangos y wybodaeth ganlynol: 

  • Enw'r cwrs a rhif adnabod y cwrs.
  • Enw'r asesiad. 
  • Gradd yr asesiad. 
  • Nifer yr ymgeisiau ar gyfer asesiad. 
  • Y myfyriwr a gyflwynodd yr asesiad. 
  • Maint unrhyw ffeil sydd wedi'i chynnwys gyda'r cyflwyniad, sy'n rhoi syniad i chi o beth mae'r myfyriwr wedi'i atodi. 
  • Stamp amser a dyddiad y cyflwyniad. 
  • Dangosydd cyflwyno'n awtomatig - Bydd yn ymddangos pan fydd yr asesiad yn cael ei gyflwyno'n awtomatig gan Learn fel rhan o asesiad a amserir neu osodiad Atal Cyflwyniad Hwyr yr asesiad.
The submission receipt modal displays the confirmation number, which students must save.

I ddod o hyd i gyflwyniad â rhif y dderbynneb yn y llyfr graddau, dewiswch y botwm Chwilio yn ôl rhif derbynneb cyflwyniad ar frig y Llyfr Graddau. 

Submission receipt icon at the top of the gradebook.

Yn y panel chwilio am dderbynneb, rhowch rif y dderbynneb cyflwyniad mae'r myfyriwr wedi'i roi i chi i chwilio am y cyflwyniad cyfatebol.

Os canfyddir cyflwyniad, dewiswch y cyflwyniad i agor y dudalen graddio ar gyfer y cyflwyniad. Mae rhif y dderbynneb hefyd yn ymddangos ar y dudalen graddio. 

Os na chanfyddir cyflwyniad, fe welwch y neges "Mae'n flin gennym! Ni chanfuwyd derbynneb cyflwyniad ar gyfer y rhif hwnnw. Gwiriwch rif y dderbynneb a rhowch gynnig arall arni. "