Gallwch lawrlwytho'r llyfr graddau llawn neu golofnau dethol o'ch cyrsiau i weithio gyda nhw mewn rhaglen arall y tu allan i Learn, megis Microsoft Excel i wneud dadansoddiad ystadegol. Gallwch hefyd wneud newidiadau i raddau a allgludwyd mewn rhaglen arall ac wedyn eu huwchlwytho yn ôl i Learn.
Caiff y colofnau hyn eu cynnwys mewn ffeil graddau a allgludwyd:
- Cyfenw, enw cyntaf ac enw defnyddiwr
- ID myfyriwr, cyrchwyd diwethaf argaeledd
- Colofnau graddau
- Presenoldeb
- Eitemau a ychwanegwyd â llaw
- Cyfrifiadau
- Gradd gyffredinol
Lawrlwytho graddau o'r Llyfr Graddau
- O'r llyfr graddau, dewiswch Lawrlwytho. Bydd y panel Lawrlwytho Graddau yn agor.
- Dewiswch a ydych eisiau lawrlwytho'r llyfr graddau llawn, eitemau dethol, neu'r hanes graddau.
- Dewiswch fath y ffeil ar gyfer y ffeil a lawrlwythir. Mae ffeiliau data yn rhai wedi'i gwahanu gan goma (CSV) neu wedi'i gwahanu gyda thabiau (XLS).
- Dewiswch y lleoliad ar gyfer y lawrlwytho. Gallwch gadw'r ffeil i'ch dyfais neu ddewis ffolder yn y Casgliad o Gynnwys.
- Dewiswch Lawrlwytho.
SYLWER: Ni allwch gynnwys eitemau sy'n caniatáu graddio dienw, dau raddiwr fesul myfyriwr, neu adolygiad gan gyfoedion yn y ffeil a lawrlwythwyd.
Gwybodaeth am y radd
Pan fyddwch yn lawrlwytho'r llyfr graddau llawn, mae'r ffeil yn cynnwys y graddau gyhoeddoch chi neu sy'n barod i'w cyhoeddi. Nid yw hyn yn cynnwys adborth. Caiff graddau cyffredinol eu cynnwys os ydych wedi gosod hynny yn eich llyfr graddau.
Bydd y graddau roddwch chi'n ymddangos fel pwyntiau, llythrennau neu ganrannau yn seiliedig ar sut rydych yn dewis dangos pob eitem raddedig yn y llyfr graddau. Mae pennawd y golofn yn dangos y radd.
Os nad ydych wedi creu unrhyw eitemau graddedig, gallwch dal i lawrlwytho'r llyfr graddau. Os byddwch yn cwblhau cwrs, ni fyddwch yn gallu lawrlwytho'r llyfr graddau bellach.
Uwchlwytho ffeil i'r llyfr graddau
Gallwch uwchlwytho ffeil graddau rydych wedi gweithio arni all-lein a diweddaru'ch llyfr graddau. Yn y llyfr graddau, dewiswch Uwchlwytho i agor y panel Uwchlwytho Llyfr Graddau. I uwchlwytho ffeil wedi'i fformatio'n gywir, lawrlwythwch y Llyfr Graddau. Wedyn, golygwch y ffeil gyda'r data rydych eisiau ei uwchlwytho.
Yn y ffeil a lawrlwythwyd, sicrhewch eich bod yn clirio unrhyw gelloedd rydych eisiau ychwanegu gradd newydd atynt. Er enghraifft, os yw "Barod i Bostio" yn ymddangos gyda gradd, tynnwch y testun a'r radd.
Gallwch lusgo'r ffeil o'ch cyfrifiadur a'i gollwng yn "ardal boeth" y panel uwchlwytho. Gallwch hefyd bori eich ffeiliau neu ddefnyddio un storioch chi yn y Casgliad o Gynnwys.
Yn y panel, gallwch adolygu'r rhestr o golofnau newidioch chi yn y ffeil rydych eisiau ei huwchlwytho. Cliriwch y blychau ticio ar gyfer unrhyw ddata rydych eisiau ei eithrio o'r uwchlwytho.
Yn y wedd grid, mae colofnau gyda newidiadau i raddau'n ymddangos wedi'u hamlygu am ychydig eiliadau i ddangos lle wnaethpwyd y newidiadau.
Mae unrhyw raddau a ychwanegoch chi neu unrhyw newidiadau a wnaethoch i raddau heb eu postio'n ymddangos yn y ffeil fel graddau y diystyrwyd yn eich Llyfr Graddau. Yng ngwedd rhestr myfyrwyr, gallwch agor cyflwyniad myfyriwr a dewis Dad-wneud y Diystyru os oes angen. Os newidiwch radd a gyhoeddwyd yn y ffeil, bydd angen i chi gyhoeddi'r radd eto.
Pan fyddwch yn uwchlwytho ffeil CSV sy'n cynnwys cyflwyniadau a raddiwyd i Ultra, nid yw'r tagiau HTML hyn yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd a chânt eu tynnu o'r golofn Adborth i'r dysgwr: <b>, <i>, <u>, a <s>. Fel dewis arall, gallwch ddefnyddio tagiau BBML.
Os byddwch yn cwblhau cwrs, ni fydd modd i chi uwchlwytho ffeil i'r Llyfr Graddau mwyach.
Canllawiau fformat y ffeil
Gallwch uwchlwytho ffeil mewn fformat wedi'i gwahanu gan goma (CSV) neu wedi'i gwahanu gyda thabiau (XLS). Neges Atgoffa: I uwchlwytho ffeil wedi'i fformatio'n gywir, lawrlwythwch y llyfr graddau. Wedyn, golygwch y ffeil gyda'r data rydych eisiau ei uwchlwytho.
I gysoni data allanol â data'r Llyfr Graddau, mae angen dangosyddion unigryw ar gyfer pob myfyriwr a phob colofn yn y Llyfr Graddau. Yr hyn a ddefnyddir i adnabod pob myfyriwr yw ei enw defnyddiwr. Y dynodwr unigryw ar gyfer pob colofn yw rhif ID colofn. Caiff rhifau yn y golofn ID eu cynhyrchu gan y system, ac ni ddylech chi eu newid na’u dileu.
Gallwch ychwanegu colofn heb rif ID colofn yn y ffeil yr uwchlwythwch i greu colofn newydd yn y Llyfr Graddau. Fodd bynnag, rhaid i chi ychwanegu gradd o leiaf un myfyriwr er mwyn gallu adnabod ac uwchlwytho'r golofn. Bydd y system yn ychwanegu rhif ID y golofn. Gallwch olygu'r golofn ar ôl iddi ymddangos yn y Llyfr Graddau er mwyn ychwanegu cyfanswm y pwyntiau.
Gweld gwallau
Ar ôl i chi uwchlwytho ffeil, bydd rhestr o wallau'n ymddangos os ydych wedi gwneud newidiadau sy'n effeithio mewn modd negyddol ar y Llyfr Graddau. Byddwch hefyd yn cael eich hysbysu am enwau defnyddwyr annilys. Dewiswch Gweld Manylion y Gwallau i ddysgu rhagor.
Ar gyfer rhai gwallau lle rydych wedi clirio graddau, rhaid i chi ddewis canlyniad.
Enghreifftiau:
Rydych ar fin clirio rhai graddau gydag ymgeisiau. Dewiswch ganlyniad:
- Cadw'r radd
- Bydd pob ymgais yn ymddangos fel eu bod wedi cael eu cyflwyno ond heb gael eu graddio
Rydych ar fin clirio rhai graddau gwrthwneud gydag ymgeisiau. Dewiswch ganlyniad:
- Defnyddio raddau'r ymgais
- Bydd pob ymgais yn ymddangos fel eu bod wedi cael eu cyflwyno ond heb gael eu graddio
Ar gyfer rhai gwallau, gallwch barhau i uwchlwytho gyda rhybudd y gall ychydig ddata gyda gwallau arwain at effeithiau dieisiau.
Lawrlwytho'r hanes graddau
Mae angen gofnod o'r newidiadau i raddau mewn cwrs ar hyfforddwyr a gweinyddwyr. Mae'r cofnodion hyn yn bwysig ar gyfer mynd i'r afael â chwestiynau myfyrwyr a graddau sy'n cael eu herio yn gyflym.
Lawrlwythwch yr hanes graddau o gwrs Ultra.