Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae aseiniadau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Aseiniadau

Gallwch greu aseiniadau ynghyd â mathau eraill o gynnwys. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i gyrchu eu gwaith wrth ochr y cynnwys sydd ei angen arnynt, pryd bynnag mae ei angen arnynt. 

Pan fyddwch yn creu aseiniad, gallwch:

  • ychwanegu cyfarwyddiadau a chynnwys aseiniad
  • rheoli a all myfyrwyr weld yr aseiniad
  • rhoi gosodiadau'r aseiniad ar waith

Ar y dudalen hon, gallwch ddysgu mwy am: 

Gwylio fideo am greu aseiniadau

Am ragor o wybodaeth am asesiad sy'n cynnwys cwestiynau, ewch i Creu Profion.

Mwy ar greu aseiniadau ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr


Ychwanegu aseiniad

Wrth greu aseiniad, caiff eitem llyfr graddau ei chreu yn awtomatig.

O dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu aseiniad. Yn y ddewislen, dewiswch Creu i agor y panel Creu Eitem a dewiswch Aseiniad

Course content page, with the dropdown Create Item menu open and the Assignment option highlighted on the right

Bydd y dudalen Aseiniad Newydd yn agor.

The New Assignment page

Rhowch deitl disgrifiadol er mwyn i fyfyrwyr allu dod o hyd i'r aseiniad yn hawdd ymysg cynnwys eich cwrs. Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, bydd y teitl yn ymddangos fel y ddolen mae myfyrwyr yn ei dewis i weld y deunyddiau. Os nad ydych yn ychwanegu teitl, bydd "Aseiniad Newydd" a'r dyddiad yn ymddangos yn y rhestr o gynnwys. Os nad ydych yn ychwanegu cynnwys, ni fydd yr aseiniad yn ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Ychwanegu cyfarwyddiadau a chynnwys aseiniad

Dan Cyfarwyddiadau, rhowch y cyfarwyddiadau a'r cynnwys ar gyfer yr aseiniad. 

Gallwch lusgo a gollwng ffeiliau o'ch dyfais leol neu ddefnyddio'r botwm Mewnosod cynnwys i gyrchu dewislen ar gyfer mathau o gynnwys cwrs. Am ragor o wybodaeth, gweler Creu Deunyddiau Cwrs

Mae croeso i chi arbrofi! Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld yr hyn ychwanegwch nes i chi wneud eich aseiniadau yn weladwy.

Gwelededd Aseiniad

Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld aseiniad nes i chi ddewis ei ddangos. Gallwch greu'ch holl gynnwys ymlaen llaw a dewis beth rydych chi eisiau i fyfyrwyr ei weld yn seiliedig ar eich amserlen. Gallwch hefyd osod amodau argaeledd yn seiliedig ar ddyddiad, amser a pherfformiad ar eitemau eraill yn llyfr graddau’r cwrs. Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, gall myfyrwyr weld pryd rydych wedi trefnu i'r aseiniad ymddangos.

Image of assignment visibility component displaying option menu

Cynhyrchu anogwyr aseiniadau'n awtomatig

Mae llên-ladrad AI yn bryder cynyddol ym maes addysg. Mae ymchwil yn dynodi amrywiaeth o broblemau sy'n dibynnu ar ganfod AI. Ni all modelau canfod gadw'n gyfoes gyda gwelliannau technolegau AI. Mae Learn yn eich grymuso i fanteisio ar arfer effeithiol asesu dilys. Os yw'ch sefydliad wedi troi'r nodwedd AI Design Assistant ymlaen, gallwch greu anogwyr aseiniadau'n awtomatig sy'n annog myfyrwyr i:

  • ddefnyddio sgiliau meddwl ar lefel uwch
  • defnyddio gwybodaeth o'ch dosbarth
  • cynhyrchu cyflwyniadau dilys sydd â thystiolaeth
  • efelychu sefyllfaoedd y byd go iawn

Cynhyrchir anogwyr aseiniadau'n seiliedig ar gyd-destun y cwrs. Ar y dudalen creu aseiniad, dewiswch Cynhyrchu aseiniad yn awtomatig.

The assignment creation page, with the Auto-generate Assignment button highlighted near the top

Bydd y dudalen Cynhyrchu Aseiniad yn Awtomatig yn agor.

Auto-Generate Assignment page, showing two autogenerated assignments beside the customization options

Mae'r AI Design Assistant yn cynhyrchu tri anogwr aseiniad. Mae gennych sawl ffordd o ddiffinio'r anogwyr mae'r AI Design Assistant yn eu cynhyrchu.

  • Rhoi disgrifiad (wedi'i gyfyngu i 2000 nod) i gulhau ffocws yr anogwyr 
  • Dewis y lefel gwybyddol a ddymunir
    • Defnyddio
    • Dadansoddi
    • Gwerthuso
    • Creu
    • Mae Ysbrydolwch fi! yn darparu cymysgedd o lefelau i chi 
  • Addasu cymhlethdod ffocws yr anogwyr drwy symud y llithrydd
  • Dewis a ydych eisiau cynhyrchu teitl ar gyfer yr anogwyr ai peidio
  • Dewiswch y saeth wrth ochr Opsiynau uwch i newid yr iaith allbwn 

Mae lefelau gwybyddol yn seiliedig ar Dacsonomeg Bloom.

Yn ddewisol, gallwch ddewis pa eitemau cwrs yr hoffech i'r AI Design Assistant roi cyd-destun ar eu cyfer ar gyfer anogwyr yr aseiniad. Dewiswch Dewis eitemau cwrs i ddechrau arni.

Dewiswch y blwch wrth ochr unrhyw eitem o gynnwys cwrs i'w chynnwys yng nghyd-destun eich prawf. 

Context picker

Gallwch ddewis y saeth wrth ochr ffolder neu fodiwl dysgu i gynnwys eitemau ohonynt. Pan fyddwch wedi gorffen dewis eitemau ar gyfer cyd-destun, dewiswch Dewis eitemau i fynd yn ôl i gynhyrchu cwestiynau. 

Mae'r mathau o ffeiliau a gefnogir gan y dewisydd cyd-destun yn cynnwys ffeiliau PDF, Word, PowerPoint, testun, RTF, a HTML.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich gosodiadau, dewiswch Cynhyrchu. Adolygwch bob anogwr er mwyn sicrhau eu bod yn gywir ac a oes ganddynt ragfarn. Dewiswch yr anogwr yr hoffech ei ychwanegu at eich aseiniad, wedyn dewiswch Ychwanegu.

 Dysgu mwy am yr AI Design Assistant

Gosodiadau Aseiniad

Os oes gan fyfyrwyr yn eich cwrs gymwysiadau, byddant yn ymddangos yn yr adran Gosodiadau Aseiniad. Gallwch osod cymwysiadau ar gyfer myfyrwyr a’u heithrio rhag gofynion cwrs penodol, megis dyddiadau cyflwyno aseiniadau a therfynau amser. I addasu cymwysiadau, ewch i'r Rhestr ac agorwch ddewislen myfyriwr. Gallwch hefyd gael mynediad iddi o'r dudalen Cyflwyniad neu'r Llyfr Graddau

Ar ochr dde'r dudalen Aseiniad Newydd, dan Gosodiadau'r Aseiniad, gallwch weld y gosodiadau a ddewiswyd ar gyfer eich aseiniad. Er mwyn dewis a defnyddio gosodiadau gwahanol, dewiswch y botwm Gosodiadau i agor panel newydd.

Manylion a Gwybodaeth

Mae'r adran Manylion a Gwybodaeth yn darparu opsiynau ar gyfer cyflwyno aseiniad.

Image of Details & Information section of Assignment Settings panel

Rhowch ddyddiad cyflwyno. Mae dyddiadau cyflwyno yn ymddangos yn y calendr ac yn y ffrwd gweithgarwch. Mae cyflwyniadau hwyr i’w gweld â label Hwyr yn llyfr graddau’r cwrs. Gallwch wahardd myfyrwyr rhag cyflwyno gwaith ar ôl y dyddiad cyflwyno. Anogwch fyfyrwyr i adolygu beth y dylent ei gyflwyno nawr a beth sydd ar ddod er mwyn iddynt allu gofyn cwestiynau cyn gynted â phosibl.

Gwahardd cyflwyniadau hwyr. Gorfodi dyddiad cyflwyno llym ac atal cyflwyniadau hwyr. Cyflwynir ymgeisiau sydd ar y gweill a'r rhai sydd wedi'u cadw yn awtomatig ar y dyddiad cyflwyno. Bydd myfyrwyr yn derbyn derbynneb cyflwyniad drwy e-bost. Caiff cymwysiadau wedi'u nodi eu parchu.

Os yw myfyrwyr wedi cyflwyno ymgeisiau, ni allwch newid y dyddiad cyflwyno i ddyddiad yn y gorffennol. Os yw'r dyddiad cyflwyno wedi bod, ni allwch ddewis y gosodiad Gwahardd cyflwyniadau hwyr.

Gwahardd ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno. Atal myfyrwyr rhag dechrau ymgais newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno. Caiff cymwysiadau a nodwyd eu parchu o hyd. 

Caniatáu sgyrsiau dosbarth. Beth os oes gan eich myfyrwyr gwestiynau am aseiniad? Gallwch ganiatáu sgyrsiau o fewn aseiniad, ac mae unrhyw yn gallu cyfrannu. Wrth i'r sgwrs ddatblygu, mae ond yn ymddangos gyda'r aseiniad perthnasol.

Rhagor am sgyrsiau

Casglu cyflwyniadau all-lein. Efallai y byddwch am raddio gwaith myfyrwyr nad yw'n galw ar fyfyrwyr i uwchlwytho cyflwyniad. Er enghraifft, gallwch ychwanegu graddau at eich llyfr graddau ar gyfer cyflwyniadau llafar, prosiectau ffair gwyddoniaeth, perfformiadau actio, a gwaith celf a ddarperir yn bersonol.

Rhagor am gasglu cyflwyniadau all-lein

Offer Ffurfiannol

Asesiadau ffurfiannol. Eu prif ddiben yw monitro dysgu myfyrwyr a rhoi adborth ar unwaith sy'n gallu cael ei ddefnyddio i wella dysgu a gwella perfformiad myfyrwyr. Mae asesiadau ffurfiannol yn eich helpu chi a'ch myfyrwyr i adnabod cryfderau ac unrhyw ardaloedd lle mae angen datblygiad ychwanegol. 

Rhagor am asesiadau ffurfiannol

Opsiynau Cyflwyniad

Os oes gan eich aseiniad gwestiynau, mae Opsiynau Cyflwyniad yn caniatáu i chi reoli sut dangosir cynnwys yr aseiniad i fyfyrwyr.

Am ragor o fanylion am opsiynau yn Opsiynau Cyflwyniad, ewch i Creu Profion.

Graddio a Chyflwyniadau

Mae Graddio a Chyflwyniadau yn darparu opsiynau ar gyfer math yr aseiniad a'r meini prawf graddio.

Image of top half of Grading & Submissions section of Assignment Settings panel

Newid categori’r graddau. Gallwch newid categori gradd aseiniad i fod yn rhan o un o'r categorïau personol y llyfr graddau y byddwch yn eu sefydlu yn eich cwrs. Gallwch greu categorïau newydd i bersonoli sut caiff gwaith cwrs ei grwpio yn eich cwrs. Gall categorïau personol fod yn ddefnyddiol pan fyddwch yn gosod y radd gyffredinol.

Pennu nifer yr ymgeisiau. Gallwch ganiatáu i'ch myfyrwyr gyflwyno mwy nag un ymgais o aseiniad. Pan fyddwch yn dewis caniatáu ymgeisiau lluosog, gallwch hefyd ddewis sut caiff y radd derfynol ei chyfrifo.

Dewiswch y sgema graddio. O ddewislen Graddio gan ddefnyddio, dewiswch sgema graddio sydd eisoes yn bodoli megis Pwyntiau. Gallwch newid y sgema graddio ar unrhyw adeg a chaiff y newid ei ddangos i fyfyrwyr ac yn eich llyfr graddau.

Gosod y Nifer mwyaf o bwyntiau. Ychwanegu gwerth rhifol rhwng 0 a 99,999 ar gyfer eich aseiniad. Os byddwch yn gadael y maes hwn yn wag, bydd y rhif yn 100 yn ddiofyn.

Galluogi graddio dienw. Pan fyddwch yn creu asesiad heb gwestiynau, gallwch alluogi graddio dienw. Caiff enwau'r myfyrwyr eu cuddio wrth i chi raddio. Gallwch ddim ond ychwanegu testun a ffeiliau at aseiniadau a raddir yn ddienw.

Rhagor am raddio dienw

Image of bottom half of Grading & Submissions section of Assignment Settings panel

Galluogi graddio cyfochrog. Mae graddio cyfochrog yn neilltuo dau raddiwr fesul myfyriwr. Gallwch alluogi graddio cyfochrog a neilltuo graddwyr wrth greu aseiniad. Gallwch hefyd alluogi graddio cyfochrog ar ôl i fyfyrwyr gyflwyno’u gwaith. Mae’r system yn neilltuo graddwyr o'ch dewis ar hap fel bod gan bob myfyriwr ddau raddiwr ar gyfer yr aseiniad. Dosbarthir y baich gwaith graddio yn gyfartal rhwng y graddwyr. Gall graddwyr ddim ond agor cyflwyniadau y myfyrwyr a neilltuwyd iddynt. Mae hyfforddwyr neu gysonwyr yn pennu'r graddau terfynol ar gyfer myfyrwyr.

Rhagor am raddio cyfochrog

Galluogi adolygu gan gyfoedion. Mae adolygu gan gyfoedion yn caniatáu i fyfyrwyr adolygu gwaith eu cyd-fyfyrwyr drwy werthusiad sy'n seiliedig ar feini prawf. Dewiswch Dewis gosodiadau cyfoedion i neilltuo'r nifer o adolygiadau fesul myfyriwr, dyddiad cyflwyno'r asesiad, a dyddiad cyflwyno'r adolygiad gan gyfoedion.

Rhagor am adolygu gan gyfoedion

Mae opsiynau graddio cyfochrog ac adolygu gan gyfoedion wedi'u hanalluogi ar gyfer asesiad sy'n cynnwys cwestiynau. Nid oes modd galluogi graddio cyfochrog ac adolygu gan gyfoedion ar yr un pryd. 

Galluogi gradd asesiad. Cyhoeddi gradd myfyriwr yn awtomatig unwaith bod graddio wedi'i gwblhau. Diffoddwch y gosodiad os ydych eisiau rheoli cyhoeddi graddau â llaw.

Canlyniadau'r asesiad

Os oes gan eich aseiniad gwestiynau, mae Canlyniadau'r asesiad yn caniatáu i chi reoli sut mae myfyrwyr yn gweld adborth, sgoriau, ac atebion ar ôl cyflwyno eu gwaith.

Am ragor o fanylion am opsiynau yn Canlyniadau'r asesiad, ewch i Creu Profion.

Dioglewch asesiad

Mae Diogelwch Asesiad yn darparu offer i ddiogelu'r aseiniadau rydych yn eu creu.

Image of Assessment security section of Assignment Settings panel

Ychwanegu cod mynediad. Gallwch ddosbarthu cod mynediad i reoli pan fydd myfyrwyr yn cyflwyno aseiniad. Cynhyrchir codau mynediad ar hap gan y system. Gallwch hefyd ychwanegu cod mynediad at aseiniad grŵp.

Rhagor am godau mynediad

Cyrchu Respondus. Mae Respondus® yn offeryn trydydd parti y gallwch ei ddefnyddio i greu, rheoli ac argraffu profion yn Blackboard. Dewiswch y ddolen i lansio'r offeryn.

Rhagor am Respondus

Rhagor am Asesiad a Oruchwylir

Offer Ychwanegol

Mae Offer Ychwanegol yn darparu nifer o opsiynau ychwanegol i addasu eich aseiniad. 

image of Additional tools section of Assignment Settings panel

Ychwanegu terfyn amser. Gall terfyn amser gadw myfyrwyr ar y trywydd iawn ac yn canolbwyntio ar yr aseiniad. Mae gan bob myfyriwr gyfnod cyfyngedig i gyflwyno'r gwaith. Caiff yr ymgeisiau ar yr aseiniad eu cadw a'u cyflwyno'n awtomatig pan ddaw'r amser i ben. Gallwch hefyd ganiatáu i fyfyrwyr weithio ar ôl y terfyn amser. Gallwch ddim ond ychwanegu terfynau amser at aseiniadau unigolion (nid aseiniadau grŵp).

Ychwanegu cyfarwyddyd graddio. Mae cyfarwyddyd yn offeryn sgorio ar gyfer gwerthuso gwaith a raddir. Gall defnyddio cyfarwyddiadau eich helpu i werthuso gwaith a gyflwynir gan fyfyrwyr yn seiliedig ar feini prawf allweddol rydych yn eu diffinio. Gallwch greu cyfarwyddyd newydd neu gysylltu cyfarwyddyd sydd eisoes yn bodoli.  Gallwch ddim ond ychwanegu cyfarwyddyd at aseiniad heb gwestiynau.

Ychwanegu nodau a safonau. Gallwch alinio aseiniad ag un neu fwy o nodau. Gallwch chi a'ch sefydliad ddefnyddio nodau i fesur cyflawniad myfyrwyr ar draws rhaglenni a chwricwla. Gallwch hefyd alinio cwestiynau unigol â nodau.

Gwneud aseiniad grŵp. Gallwch greu aseiniad ar gyfer un grŵp o fyfyrwyr neu ragor. Yn rhagosodedig, byddwch yn pennu gradd i bob grŵp fel cyfanrwydd, ond gallwch newid gradd unigol aelod o grŵp.

Galluogi SafeAssign. Gallwch ddefnyddio SafeAssign i wirio am lên-ladrad posibl yng nghyflwyniadau myfyrwyr. Gallwch alluogi'r Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign ar unrhyw adeg, hyd yn oed ar ôl i fyfyrwyr ddechrau eu cyflwyniadau. Fodd bynnag, bydd cyflwyniadau dim ond yn cael eu gwirio pan fydd SafeAssign wedi'i alluogi.

Ychwanegu disgrifiad dewisol. Bydd y disgrifiad yn ymddangos gyda theitl yr aseiniad ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dyma le y gallwch roi mwy o wybodaeth am yr aseiniad i fyfyrwyr. Hyd mwyaf disgrifiad yw 750 nod. Bydd rhybudd yn ymddangos dan faes y disgrifiad pan fydd 75 nod neu lai yn weddill.

Image of Description field of Assignment Settings panel with example descriptive text

Os byddwch yn mynd dros yr hyd mwyaf, bydd rhybudd yn nodi faint o nodau dros y tefryn yr ydych. Ni fydd modd cadw'r disgrifiad nes bod eich testun dan yr hyd mwyaf.

Image of Description field of Assignment Settings panel with example descriptive text that exceeds maximum character length

Golygu, aildrefnu a dileu aseiniadau

Gallwch wneud newidiadau i aseiniadau cyfredol a newid lle maen nhw'n ymddangos ar eich tudalen Cynnwys y Cwrs. Byddwch yn ymwybodol, os byddwch yn newid aseiniad sydd eisoes yn bodoli y gall myfyrwyr gael mynediad ato, mae'n bosib bod rhai myfyrwyr wedi dechrau ar eu cyflwyniadau. Ni allwch newid y sgema graddio os ydych eisoes wedi dechrau graddio.

Dewiswch yr eicon Symud yn rhes aseiniad a'i symud i leoliad newydd. Gallwch hefyd symud aseiniad i mewn i ffolder.

Mewn rhes aseiniad, agorwch y ddewislen a dewiswch Golygu neu Dileu.

The Course content section is open with 1) an assignment selected, 2) the "Move" icon clicked and highlighted, and 3) the dropdown list with the options to edit, reorder, or delete assignments on screen.

Gallwch ddefnyddio'ch bysellfwrdd i symud aseiniad.

  1. Tabiwch i fotwm Symud eitem.
  2. Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
  3. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
  4. Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.

Dileu aseiniadau

Gallwch ddileu aseiniad o'ch cwrs ac os does dim cyflwyniadau gan fyfyrwyr, bydd yr eitem hefyd yn cael ei dileu yn y llyfr graddau. Ar gyfer aseiniadau sydd â chyflwyniadau, bydd rhaid i chi gadarnhau eich bod eisiau tynnu'r aseiniad, yr holl gyflwyniadau a graddau o'ch cwrs yn barhaol.

Neu, gallwch guddio'r aseiniad rhag myfyrwyr er mwyn cadw'r cyflwyniadau a'r sgoriau yn y Llyfr Graddau. Ni all myfyrwyr gael mynediad at aseiniadau cudd ar dudalen Cynnwys y Cwrs neu ar eu tudalennau graddau hyd yn oed os ydych wedi graddio cyflwyniadau.


Aseiniadau a'r ffrwd gweithgarwch

Pan fyddwch yn creu aseiniad ac yn ei wneud yn weladwy i fyfyrwyr, byddant yn cael gwybod yn eu ffrydiau gweithgarwch.

New assignment notification displayed in the activity stream of the Student's view.

Ar ôl i chi bostio graddau aseiniad, mae myfyrwyr yn gallu dewis Gweld eich gradd i ddangos eu graddau. Bydd unrhyw adborth a ddarparwch yn ymddangos ar ôl teitl yr aseiniad.

The activity stream of the Student's view is open with the "View my grade" button clicked and an example grade highlighted.

Byddwch yn gweld rhybudd yn y ffrwd pan fydd gennych gyflwyniadau i'w graddio. Dewiswch deitl yr aseiniad i ddechrau graddio ar dudalen cyflwyniadau'r aseiniad.

New submission ready to grade notification displayed in the activity stream of the Instructor's view.

Rhagor am y ffrwd gweithgarwch


Casglu cyflwyniadau heb gyswllt

Gallwch greu asesiadau sy'n ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs nad ydynt yn gofyn i fyfyrwyr uwchlwytho cyflwyniadau. Gallwch ychwanegu cyfarwyddiadau, ffeiliau, cyfarwyddyd, a nodau fel y gall myfyrwyr baratoi ar gyfer y gwaith all-lein. Gallwch hefyd alluogi sgyrsiau, ond ni allwch chi ychwanegu cwestiynau neu raddio'n ddienw.

Enghreifftiau o waith all-lein:

  • Cyflwyniadau llafar
  • Prosiectau ffair gwyddoniaeth
  • Perfformiadau actio
  • Gwaith celf wedi'i gyflwyno'n bersonol
  • Ymarferion adeiladu tîm wyneb yn wyneb, trafodaethau panel a thrafodaethau

Efallai y bydd hyfforddwyr sy'n addysgu cyrsiau hybrid yn canfod mai'r math hwn o asesiad yw'r mwyaf defnyddiol. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio cyfarwyddyd i raddio cyflwyniad mewn dosbarth wrth i fyfyriwr gyflwyno. Nid oes angen cymryd nodiadau neu ychwanegu sgôr wedyn.

Pan fyddwch yn creu asesiad, gallwch ddewis casglu cyflwyniadau heb gyswllt yn y panel gosodiadau. Pan fydd myfyrwyr yn agor y math hwn o asesiad, fe'u hysbysir na allant gyflwyno gwaith ar-lein. Os byddwch yn creu grwpiau i gasglu cyflwyniadau all-lein, bydd myfyrwyr yn gallu gweld aelodau eu grŵp.

The Assignment page is open with 1) the Assignment settings panel on screen and 2) the "Collect submissions offline" option clicked and highlighted.

Ar gyfer cyflwyniadau a gesglir all-lein, ni allwch ganiatáu ymgeisiau lluosog, caniatáu terfyn amser neu ddefnyddio SafeAssign.

Ar gyfer graddau sy'n mynnu bod myfyrwyr yn bresennol y tu allan i'r dosbarth, megis ar gyfer siaradwr gwadd neu daith maes, gallwch chi ychwanegu cyfarfodydd at y nodwedd bresenoldeb.

Rhagor ar ychwanegu cyfarfod

Graddio cyflwyniadau heb gyswllt

Pan rydych yn barod i raddio cyflwyniadau heb gyswllt, agorwch y dudalen gyda'r rhestr o gyflwyniadau o dudalen yr asesiad neu o'r Llyfr Graddau. Dewiswch enw myfyriwr i agor panel Creu Ymgais, rhowch ddyddiad ac amser y cyflwyniad, a chadwch eich newidiadau.

The Submission list page is open with 1) a student name selected and 2) the Create Attempt panel opened with the submission date and time option on screen.

Ar dudalen cyflwyniadau y myfyriwr, gallwch bennu gradd a defnyddio cyfarwyddyd os ydych wedi cysylltu un.

Student's submission page is open and the view for assigning grades is displayed.

Beth mae myfyrwyr yn ei weld?

Gall myfyrwyr weld yr asesiad ochr yn ochr â'r cynnwys arall ar dudalen Cynnwys y Cwrs ac ar eu tudalennau graddau cyffredinol a chwrs. Bydd myfyrwyr yn cael eu hysbysu bod dim modd iddynt gyflwyno gwaith ar-lein. Gallant gyrchu gwybodaeth arall, megis y cyfarwyddiadau a chyfeireb os ydych wedi ychwanegu un. Gall myfyrwyr gymryd rhan yn y sgyrsiau ar yr asesiad os ydynt wedi'u galluogi.

The Course content panel from the Student's view is open with 1) an example assignment selected and 2) the "Grading rubric" and "Goals standards" options highlighted.

Rhagor am lif gwaith myfyrwyr


Gwylio fideo am greu aseiniadau

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.



Fideo: Mae Creu aseiniad yn dangos sut i greu aseiniad gyda llifoedd gwaith symlach.