Monitro a gwella hygyrchedd cwrs yn eich sefydliad.
Mae Blackboard Ally yn darparu adroddiad hygyrchedd cynnwys cwrs ledled y sefydliad sy'n caniatáu am fewnwelediad a dealltwriaeth ddwfn i'r ffordd mae'r sefydliad yn perfformio ac yn datblygu o safbwynt hygyrchedd cynnwys cwrs. Mae'r adroddiad hwn yn helpu i olrhain cynnydd a gall helpu i amlygu meysydd trafferthus a nodi mentrau a all helpu i wella hygyrchedd ymhellach yn y sefydliad.
Agor yr adroddiad
Gallwch ddod o hyd i adroddiad sefydliadol Ally yn eich System Rheoli Dysgu (LMS).
- Blackboard Learn: Ar banel y gweinyddwr o dan Offer a Chyfleustodau, dewiswch Adroddiad Ally.
- Instructure Canvas: Dewiswch Gweinyddwr yn y llywio cyffredinol. Dewiswch gyfrif a dewis Ally.
- Moodle: O Gweinyddiaeth Safle dewiswch Adroddiadau. Dewiswch Hygyrchedd.
- Tudalen Fewngofnodi Addasu: Os oes gennych fynediad trwy dudalen mewngofnodi wedi’i haddasu, teipiwch yr allwedd a chyfrinach LTI ar gyfer eich sefydliad.
Rhagor am sut i rannu dolen i'r dudalen mewngofnodi bersonol
- D2L BrightSpace: Ar yr Hafan dewiswch Mwy a dewiswch Adroddiad Sefydliadol Ally.
- Schoology: Ar unrhyw dudalen, dewiswch Canolfan Apiau ac Adroddiad Sefydliadol Ally.
Darllenwch yr adroddiad
Mae adroddiad sefydliadol Ally yn dangos y darlun mawr i chi yn ogystal â manylion penodol am hygyrchedd cynnwys cwrs digidol eich sefydliad.
Rhannu dolen i'r adroddiad
Gall hyfforddwyr a gweinyddwyr gyrchu'r adroddiad o'u LMS. Gallwch hefyd ddewis caniatau iddynt gyrchu'r adroddiad o du allan i'r LMS. I roi mynediad iddynt, bydd angen i chi anfon y ddolen i'r adroddiad atynt, yn ogystal â'r allwedd cleient a'r cyfrinach y bydd angen iddynt eu defnyddio i fewngofnodi.
Mae un allwedd cleient a chyfrinach yn unig ar gyfer pob sefydliad. Os nad ydych yn gwybod manylion eich sefydliad, cyflwynwch gais i ofyn am eich allwedd a chyfrinach ar Behind the Blackboard.
Defnyddiwch un o'r URLau hyn a rhowch eich ID Cleient yn lle [ClientId].
- Sefydliadau a westeir yn y ganolfan data yn yr UD: https://prod.ally.ac/launch/[ClientId]
- Sefydliadau a westeir yn y ganolfan data yng Nghanada: https://prod-ca-central-1.ally.ac/launch[ClientId]
- Sefydliadau a westeir yn y ganolfan data yn Ewrop: https://prod-eu-central-1.ally.ac/launch/[ClientId]
- Sefydliadau a westeir yn y ganolfan data yn Singapore: https://prod-ap-southeast-1.ally.ac/launch/[ClientId]
- Sefydliadau a westeir yn y ganolfan data yn Awstralia: https://prod-ap-southeast-2.ally.ac/launch/[ClientId]