Gweld sut mae cynnwys cwrs digidol yn eich sefydliad yn perfformio yn ôl y cwrs a'r tymor. Mae'r tabl hwn yn dangos pob cwrs yn eich sefydliad sydd â phroblemau hygyrchedd i chi.

Ni chynhwysir cyrsiau a ddilëwyd.

Ar gyfer pob cwrs, byddwch yn gweld ID ac enw’r cwrs, nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru ac sy’n cael eu heffeithio gan broblemau yn y cwrs, nifer yr eitemau yn y cwrs sydd â phroblem, a'r sgôr hygyrchedd ar gyfer y cwrs.

Gallwch chwilio am gwrs penodol neu ddewis dewislen y tymor i weld perfformiad y cwrs mewn tymor gwahanol.

Allforiwch yr adroddiad cyrsiau neu dewiswch gwrs am ragor o fanylion.

Mae gan dempledi cwrs yn D2L Brightspace adroddiadau cwrs. Ni chysylltir templedi cwrs â thymor. Defnyddiwch yr opsiwn Cyrsiau eraill i hidlo eich chwiliad.


Adroddiad cwrs unigol

O'r adroddiad cwrs unigol, gallwch weld nifer y myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn y cwrs, cyfanswm y cynnwys a grëwyd, y sgōr hygyrchedd gyffredinol, a phroblemau hygyrchedd yn y cwrs.

Dewiswch Allforio Cwrs i lawrlwytho'r adroddiad cwrs unigol. Dewiswch eitem i weld yr eitem dan sylw. Dewiswch Ewch i gwrs i ymweld â hafan y cwrs a defnyddio adborth hyfforddwyr Ally i wella hygyrchedd yr eitem.

Rhagor am sut y gall hyfforddwyr wella hygyrchedd ffeiliau


Cyfanswm y cynnwys a grëwyd

Yn yr adroddiad Cyfanswm y cynnwys a grëwyd , mae lliw yn cynrychioli gwahanol fathau o gynnwys. Pwyntiwch at fath o gynnwys i weld y cyfanswm a grëwyd a sgôr hygyrchedd ar gyfer y math hwnnw.

Gall defnyddwyr darllenwr sgrîn bwyso Tab i symud drwy'r tabl Cudd cyfanswm a grëwyd.


Sgôr hygyrchedd gyffredinol

Gweld cymhariaeth o'r sgôr hygyrchedd gyffredinol cyn ac ar ôl gwneud gwelliannau i eitemau yn y cwrs. 

Po uchaf y sgôr y gorau mae eich cynnwys yn perfformio. Symudwch trwy’r cynnwys yn yr adroddiad i weld sgôr ar gyfartaledd cynnwys WYISWYG, ffeiliau a sgôr gyffredinol y ddau fath wedi’u cyfuno.


Problemau hygyrchedd

Gweld rhestr o broblemau hygyrchedd a geir yn y cwrs. Rhestrir problemau yn nhrefn blaenoriaeth o ddifrifol i fach. Dylid cychwyn trwy ymdrin â’r hyn a nodir yn gyntaf ar y rhestr. Mae Ally yn ystyried y nifer o fyfyrwyr a effeithir, pa mor aml mae'r broblem yn digwydd, a'r sgôr hygyrchedd er mwyn penderfynu'r flaenoriaeth. Dewiswch Difrifol, Mawr, neu Mân i ddatrys y problemau yn ôl difrifoldeb.

  • Difrifol. Y problemau hyn sy’n cyflwyno’r risg fwyaf i hygyrchedd ac mae arnynt angen y sylw mwyaf.
  • Mawr. Mae'r materion hyn yn effeithio ar hygyrchedd, ac er nad ydynt yn ddifrifol, mae arnynt angen sylw.
  • Bach. Dylid ystyried y problemau hyn er mwyn cael sgôr hygyrchedd well.

Ar gipolwg gallwch chi benderfynu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer pob problem.

  • Math o Gynnwys
  • Problem hygyrchedd
  • Difrifoldeb
  • Cyfanswm y cynnwys â'r broblem

Dewiswch broblem i weld disgrifiad llawn o’r broblem a’r eitemau sy’n cael eu heffeithio ganddi. Gweld nifer y myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn y cwrs a rhestr o eitemau â'r broblem hygyrchedd.

Dewiswch Yn ôl i'r cwrs i ddychwelyd i adroddiad y cwrs. Dewiswch eitem i weld yr eitem dan sylw. Dewiswch Ewch i gwrs i ymweld â hafan y cwrs a defnyddio adborth hyfforddwyr Ally i wella hygyrchedd yr eitem.

Rhagor am sut y gall hyfforddwyr wella hygyrchedd ffeiliau


Gwella hygyrchedd eitem

Ewch i'r adroddiad sefydliadol yn eich LMS. O'r Tabl materion hygyrchedd, dewch o hyd i eitem benodol o gynnwys mewn cwrs sydd â phroblem hygyrchedd. Dewiswch ddangosydd sgôr hygyrchedd yr eitem o gynnwys i agor y panel adborth.

Mae'r nodwedd hon wedi'i hanalluogi yn ddiofyn. Cyflwynwch gais ar Behind the Blackboard er mwyn ei alluogi. Mae'r nodwedd hon ar gael wrth gyrchu'r adroddiad sefydliadol o'r LMS yn unig ac nid wrth ddefnyddio'r URL i gael mynediad uniongyrchol.

Mwy ar y sgoriau a gwella hygyrchedd eitem